top of page

Cerdd: Y Stamp - Eurig Salisbury

  • Miriam Elin Jones
  • Mar 30, 2017
  • 1 min read

Cyfansoddwyd cywydd arbennig 'Y Stamp' gan Eurig Salisbury yn arbennig ar gyfer lansiad ein rhifyn print cyntaf, yn Nhafarn y Cwps, Aberystwyth, 23/3/17. Cafodd y gerdd groeso brwd gan fynychwyr y noson, a dyma gyfle i chi wylio ac ei darllen hi yma am y tro cyntaf.

Ers saith mlynedd bu cleddyf Angau ar gylchgronau’n gryf, Troi miloedd yn bunnoedd bach, Torri grantiau rhy grintach, Ac yn fisol didolir Rhyw un teitl i’w roi’n y tir …

Ond daw sŵn, ac mae’n dwysáu, I grynu dan gylchgronau, Dan esgidiau’n ysgydwad, Yn towlu’r wledd, ratlo’r wlad, Sŵn clamp o STAMP nos a dydd, Cic i’r ŵyl, cracio’r welydd.

Os marw’r hen elw i ni, Yma ar lein mae’r aileni, Felly rho, gyfaill, le rhydd I’r wefan yn dy grefydd, Rho dy lein i’r dalennau, Rho stori i ni ei mwynhau, Rho dy stamp direidus di Dy hun ar y dadeni.

Eurig Salisbury

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page