top of page

Cerddi: 'Dychlamiad' & 'Carn Llidi' - Morgan Owen

  • Grug Muse
  • Apr 18, 2017
  • 1 min read

Dychlamiad

Darllen yr oeddwn yng nghlydwch fy

stafell pan ddychlamodd golau'r bylb

yn ddisymwth. Am ryw encyd

anfeidrol o fychan bu tywyllwch.

Amrantiad, yn wir, ond taniodd fy

nychymyg er ei fyrred. Ni allwn beidio

a meddwl wedyn am dywyllwch y nos,

a sut rydym, yn groes i arfaeth y

bydysawd, yn ei gadw draw gyda'n

goleuadau. Yng nghwt y sylweddoliad

hwn, ailgyneuwyd ynof ryw barchus

ofn tuag at y nos wrth ystyried sut

mae'n ein hamgylchynu ni a'n

hynysoedd o lacharedd. Nid oes ond

rhaid i'r goleuni ballu unwaith er

mwyn teimlo'r duwch yn gwasgu

amdanat, yn stelcian fel blaidd o

amgylch y ty.

Carn Llidi

Cyfrwng gweledigaethau newydd oedd y garn oesol. Darllenais o’i chopa gylchdro’r feidr yn denu’r blynyddoedd i’r dechreuad yn ddi-baid; cronnant ar odre’r henle lle’r ânt ar dramp ar hyd y pentir: y môr yw eu gwahanfur. Dychwelant yn y man i droed y garn i’w hanfon eto ar eu taith.

Bûm innau uwch ben y tir yn caffael aflun y môr lle cyll y cylchdro ei afael. Ymdroi amlgyfair y môr a gipiodd hanesion o’u rhigol: daeth â minnau at y garn i sylweddoli’r siwrneiau gleision a deilio’r pererindodau. Yno y bûm: fy nhraed ar dir chwedlau a’m meddwl wedi ei ryddhau o afael y cylchdro, ar sathr y tonnau.

Morgan Owen

@morgowen - bardd Prosiect Rhithganfyddiad Blog Rhithganfyddiad | @ProsiectRhith

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page