top of page

Cerdd: Druidstone - Elen Ifan

  • Miriam Elin Jones
  • May 25, 2017
  • 1 min read

"Sgwennais i'r pwt ma tra mod i yn ymweld â Sir Benfro. Roedd fy viva PhD y dydd Mawrth canlynol ac roeddwn i'n dechrau swydd newydd ar y dydd Mercher, felly roedd na rhyw deimlad rhyfedd o limbo gen i dros y penwythnos, yn gwybod fod yr holl newidiadau ar y ffordd!"

Druidstone

Heidio eto i ben Sir Benfro, I'n cartref Calan Mai, I grwydro a gwledda hyd Fae Santes Ffraid.

Er gwaetha'r glaw roedd gwres yr eithin gwyllt Yn goleuo'r llwybrau, A fflachiadau llachar huganod yn plymio am eu cinio Yn torri ar lwydni'r lli.

Eleni, mae newid ar droed, A byddaf innau, fory, Fel hugan - Yn cymryd anadl ddofn Cyn plymio i ddyfroedd newydd, A thon arall yn torri dros fy mhen.

Elen Ifan

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page