top of page
Miriam Elin Jones

Cerdd: Dowlais (Marwnad Hwyrfrydig) - Morgan Owen


(llun - Llenyddiaeth Cymru)

Dros y penwythnos cawsom gyfle i gynnal y cyntaf o lansiadau RHIFYN 2 Y Stamp yng ngŵyl Tafwyl gyda chwmni criw Er Cof, Sara Green, Efa Lois a Morgan Owen, Rhithganfyddiad. Darllenodd Sara Green cerdd o'i heiddio sydd wedi ei chynnwys yn y rhifyn newydd, a chawsom gyflwyniad byr i waith Rhithganfyddiad. Mae darn o waith gan Efa yn ymddangos yn y cylchgrawn, gyda cherdd gan Matthew Tucker yn ymateb iddo, a darllenodd Morgan gerdd newydd i ni. Wrth gwt hyn i gyd, cyflwynodd Er Cof berfformiad cofiadwy iawn.

Mi fyddwn yng Nghaernarfon yn cynnal lansiad yn rhan o Ŵyl Arall ddydd Sadwrn yma, ac mi fydd y rhifyn ar gael i'w ddarllen ar y we ar ffurf PDF wedi'r ail lansiad. Fodd bynnag, mi allwch gysylltu i fynnu copi print o'r rhifyn nawr y funud hon drwy ein e-bostio!

Am y tro - fel clamp o damaid i aros pryd ar y wefan - dyma gerdd Morgan Owen.

Dowlais (Marwnad Hwyrfrydig)

Gadewais y llyfrgell i weld bod drycin pythefnos wedi pasio’n ddirgel a’r cynddail yn wyrthiol las wedi’r hirlwm a’r bore llwyd a’m gyrrodd i’m llyfrau rhag diflastod ar daen dros gerrig can yr afon.

Atgyfodwyd y golau gwyryf syml a ddelltiodd feddau. Glaswyd y pridd du. Eginwyd ynof atgof hen lais a’i dri gair unig: tri gair yn weddill wedi anrhaith ugain mlynedd; tri gair o gyfarch ger y Nant yn Nowlais Top; tri gair y gŵr taer â’i fryd ar fyd gwell nas adwaenwn nes mynd ymhell.

Tri gair y gweithiwr dur a gadwodd fyd ar drai rhwng dalennau y deuthum ar eu traws yn y golau syml cyn gadael y llyfrgell.

Crwydrodd ei hanesion anghyfiaith i’m cyfarfod. Gwyddwn eu bod nhw yno’n gorwedd mewn dinodedd a’u geiriau’n estyn yn ôl i bridd fy angen am wreiddiau.

Yn nryswch y sorod lle na ddaw briallu a dyr ar ddüwch dirywiad y ganwyd y geiriau;

Euthum ymaith a bwrw cysgod dadrith draw ymhellach am y tro; yno yn Nowlais yr erys ef am byth yn bridd o bridd ei fyd nas deallaf bellach o hirbell.

Euthum yn ddigon pell i’th ddeall ar draws y gagendor; a thorrais, o fynd ymhell, y gadwyn a’n clymai ynghyd.

Morgan Owen

26 views0 comments
bottom of page