Ysbrydolwyd yr haikus isod gan brofiad o fynd i Onsen tra’n Japan – math o faths i’r cyhoedd sy’n defnyddio dwr cynnes naturiol o’r springs. Mae yna broses penodol iawn o’u defnyddio nhw, sy’n cynnwys bod yn hollol noeth a ‘molchi’n drylwyr cyn mynd i mewn i’r baths – a oedd yn intimidating iawn pan nad oeddech yn siarad yr iaith leol! Roedd yn brofiad hilariys ond embarassing, ond eto hefyd yn lot o hwyl.
Darluniwyd y llun uchod gan Aled Roberts. (www.aledrobertsillustration.tumblr.com)
Ydwi fod yn noeth? Mae’r bobl eraill yn noeth Ond mae ‘nghorff i’n swil.
Mae’u croen nhw’n rhychau- Fi di’r unig ferch ifanc. Eto fi sy’n swil.
Tynnaf fy nillad A cherdded at y gawod. Ydyn nhw’n syllu?
Ond maen nhw’n brysur Yn ymolchi a sgwrsio Ac yn poeni dim.
Mond fi sy’n poeni. Mond fi sy’n teimlo cwilydd. Am ridicilys.
Dwi’n stopio meddwl Er mwyn llithro mewn i’r dŵr Ac maen nhw’n gwenu.
Teimlaf bod gen i Ugain nain Japaneaidd Wrth iddynt helpu.
Pasio tyweli. Rhannu shampw a sebon. Sgrwbio a sgwrsio.
A dwi’n ymlacio. Ges i drafferth mewn onsen Ond bellach dwi’n pro.
Tydyn ni’n rhyfedd Yn meddwl fod noethni’n beth Budur, anweddus.
Ond dyma fi’n noeth O flaen ugain o wragedd, Rioed ‘di bod mor lân.
Llio Maddocks