Dydi Cadno ddim yn ‘sgwennu dan genre penodol, ond mae ganddyn nhw sain dwi am fathu’n Cadno-aidd: rhyw weu o arlliwiau jazz, indie a phop gyda dos iach o drawsacennu.
‘Bang Bang’ sy’n agor yr EP, tiwn cofiadwy sy’n gafael yn syth. Do’n i ddim yn hollol siŵr ohoni hi i ddechrau am ei bod hi’n fy atgoffa o gân arall o’r un teitl: ‘Bang! Bang!’ gan Iwan Rheon. Ond ‘bang’ yw sŵn pob gwn, ac o wrando mwy ar y gân mae hi wedi ei hawlio. Mae’r gwead yn wych a llawn nodweddion bach difyr sy’n adeiladu drwyddi. Gwirionais â’r hyfdra yn y diwedd wrth i’r gân ddod i ‘glo ffug’ cyn ail-godi’r momentwm gydag esgyniad y gitâr electrig.
Sasi yw’r gair sydd yn dod i feddwl wrth ddisgrifio datblygiadau’r cordiau yn ‘Helo, Helo’ ac maen nhw’n gweddu’r geiriau i’r dim. Braf hefyd yw clywed band ifanc Cymraeg yn manteisio ar rinweddau’r piano gan chwarae mwy na ryw gordiau yma ag acw. Mae’r rhediadau drwy’r gân yn hyfryd a’n fy atgoffa i o gyfeiliant ’Vienna’ gan Ultravox.
Er bod feibs ychydig tywyllach i ‘Mel’ mae hi dal yn teimlo’n Gadno-aidd a mwynheais y cysyniad trosiadol tu ôl y gân. Ar y llaw arall roedd ’83’ yn sefyll allan braidd. Nid am ei bod hi’n gân Saesneg ond am ei bod hi’n drwm ei naws o gymharu â gweddill yr EP. Fasa’r cyfan wedi cloi’n fwy chwaethus hefo harmonïau hudol ‘Haf’ a’r cord amherffaith yn y diwedd yn gwahodd y gwrandawyr i ddyheu am fwy.
Ar y cyfan dyma ddatblygiad hyderus ar ddyddiau cynnar Ludagretz gan fand â photensial mawr i herio. Mae eu trawsacennu a’u hyfdra cynnil, heb sôn am gwmpas lleisiol Cadi, yn erfyn ar adegau am themâu mwy pynciol a sasi na chariad. Ond er gwaethaf fy nyheadau am gamau nesaf Cadno, dyma EP gwrandawiadwy iawn llawn alawon sy’n herian y cof.