Does na ddim digon o sacsoffons yn yr SRG ‘di mynd! Ond mae gan Pyroclastig un, a hwnnw yn nwylo medrus Llyr Williams; cerddor sydd fel gweddill ei fand yn gwybod gwerth cynildeb. Dwi’n meddwl mai dyna’r allwedd i lwyddiant yr EP newydd, sy’n dwyn yr un enw â’r band. Nid offerynniaeth gwirion-o-gymleth-dangos-dy-hun sy’n nodweddu’r casgliad yma o bump cân.
Fel y bysa rhywun yn ei ddisgwyl gan fand ifanc yn cymryd eu camau cyntaf, efallai, serch yw’r prif thema sy’n cynnal caneuon yr EP. Mae hynny’n golygu y gall y geiriau ddisgyn i fagl ystrydeb weithiau. I bigo un enghraifft ar hap; ‘nicotin ond yn neud fi’n fwy caeth i ti’ yn y drydedd gân, ‘Cyfeiriad y Mŵg.’ Wedi dweud hynny, mae digon o amrywiaeth a chlyfrwch yn y cyfansoddi yma ar y cyfan i beidio a thramwyo ar diroedd rhy gawslyd ac ystrydebol.
Hawys Williams sy’n arwain y perfformiadau lleisiol ar bob cân ar wahan i ‘Run Un.’ Roedd hyn yn ddatblygiad difyr ac anisgwyl i mi, gan mai llais Gethin Glyn sydd wedi cymryd y blaen yn y rhan fwyaf o’u perfformiadau byw i mi eu gweld. Heb dynnu dim oddi wrth lais Gethin, dwi’n falch iawn bod y band wedi manteisio ar ddawn lleisiol Hawys, â’i natur felfedaidd, unigryw sydd yn ymlacio rhywun yn syth.
Mae yma berfformiadau lleisiol cryf, solos sacs secsi sy’n gyrru ias ar hyd asgwrn cefn rhywun ac offeryniaeth gadarn, yn ogystal â llinellau bas melodig cofiadwy a drymio cyson ac effeithiol yn sail i’r cyfan. Mae Pyroclastig yn gychwyn cyffrous ac addawol.