Pleser o'r mwyaf ydi mai ni'r Stampwyr sy'n cael y fraint o rannu fideo newydd sbon danlli grai i gyd-fynd hefo lansiad EP unigol gyntaf yr artist amryddawn Bethan Mai ar label Recordiau BLINC. Mae Bethan yn un o aelodau'r band Rouge Jones, yn unawdydd ac yn arlunydd sydd wedi darlunio nifer o lyfrau.
Wedi i chi ddarllen pwt am gefndir y gân cymrwch sbec ar y fideo ac yna darllenwch yr adolygiad byr yn ymateb i'r gwaith. Neu dilynwch eich trefn eich hun, tyda ni ddim yn fos arnoch chi.
Cefndir- Bethan Mai
Hwn yw trac ola yr EP ac mae’n cymryd tro bach gwahanol iawn i’r gweddill. Mewn cyferbyniad i’r caneuon arall sy’n electronic, llawn technoleg ac amryw offerynnau, mae ‘Wedi Mynd’ yn stripped reit nol.
Fi wedi gadel y geiriau a’r ystyr yn agored i’r gwrandäwr gael perchnogi a neud eu storis eu hunain, ac mae ystyr y gan wedi datblygu dros amser i fi hefyd.
I fi yn bersonol, mae’r gan am fodolaeth prydferth ond bregus anifeiliaid a chreaduriaid, ond daeth yr ysbrydoliaeth gwreiddiol o’r tawelwch sy’n dilyn parti.
Mae EP ‘BACH’ mewn tair rhan; dechrau, canol ac ar ol parti neu ddigwyddiad. Mae bodolaeth person creadigol yn gylch rhyfedd; o lonyddwch i gyfnode lliwgar ar daith / set gyda phobl arall ond mae'r normalrwydd a thawelwch sy’n dilyn yn rhyfedd a gallu bod yn llethol.
Mae’n gallu atgoffa ni o’n meidrolrwydd ac yn neud fi feddwl am rheini sydd wedi marw, ond hefyd ni'n galaru mewn ffordd am y ffrindiau a phrofiadau sydd ddim yn rhan o’n bywydau bob-dydd rhagor. Ma’ prydferthwch poenus yn yr hiraeth achos fi’n teimlo yn lwcus bod rwbeth wedi digwydd sy’n ddigon arbennig i hiraethu am. Hefyd, ni gyd dal yn gysylltiol mewn ryw ddimensiwn dros yr oesoedd, hyd yn oed os ni bellach ddim gyda’n gilydd yn gorfforol.
Yn yr amser rhwng i fi sgwennu/recordio a dod rownd i neud fideo a’i rhyddhau, ges i blentyn. Pan ddychweles i i’r gân sbel wedyn roedd ystyr ‘Wedi Mynd' wedi newid yn gyfan gwbl. Ma lifestyle fi wedi llwyr newid, felly dyw y narrative blaenorol ddim mor berthnasol i fi mwyach. Sai’n rili becso cyment am yr un pethau rhagor, ma’r pethe fi’n neud er mwyn hi nawr, nid fi. Eu byd nhw yw hwn, nid ni. Fi wastod wedi cefnogi hawliau creaduriaid a chreu byd cynaliadwy, ond ma’ hwnna wedi tyfu eto ers dod a phlentyn i’r byd. Mae gweld y fath ddinistr i’r ddaear mae dyn yn creu a'r ffaith bod rhywogaethau yn cael eu gadel i farw mas yn torri nghalon, felly nawr ma hwn yn farwnad iddyn nhw.
Mae’r fideo yn chware da’r syniad bod bob un ohono ni yn anifeiliaid a bod pob creadur yn haeddu parch a hawl i fodoli, gyda’r gobaith gallwn ni rywsut drwsio pethe. Fi’n dychmygu sut bydde'r anifeiliaid yn maddau i ni mor urddasol, ma’ nhw cyment mwy classy na pobl. Mae’r fideo fel cân o gariad a chyfeillgarwch at arth wen. Mae’r gân ’ma i chi, anifeiliaid. Fi mor flin bod hwn yn digwydd i chi, chwi greaduriaid prydferth.
Recordiwyd a chymysgwyd yr EP gyda Frank Naughton yn Stiwdio Tŷ Drwg. Fi a Frank gynhyrchodd e. Mastro gan Sion Orgon. Ynyr Morgan Ifan ffilmiodd a golygodd y fideo a fi gyfarwyddodd e.
Gallwch wylio'r fideo isod:
Adolygiad
Tydi rhywun ddim yn disgwyl tawelwch wrth wylio fideo gerddorol ond yn ‘Wedi Mynd’ dyna’n union gewch chi ac mi gewch eich tynnu i mewn ganddo hefyd. Mae hi’n fideo gyferbyniol mewn rhai agweddau — yn ddigon swreal ar adegau gyda’r mwgwd arth yn syllu’n herfeiddiol arnoch chi ac yna’n dyner-deimladwy, wrth i’r piano byrlymus lifo’n mlaen.
Mae natur foel y gerddoriaeth a’r lleisio yn gweddu testun y gân ac yn creu naws arbennig, un hiraethus a lled-nostalgiaidd. Mae’r teimlad o golled yn rhan greiddiol o’r gân ac mae portreadu Bethan ar ei phen ei hun, neu gyda chwmni tegan arth yn y fideo yn unig yn atgyfnerthu hynny. Mae naws digon pruddglwyfus i’r gân hefyd ac er nad ydi union natur y golled a phwy yn union sydd ‘wedi mynd’ yn amlwg (ai diwedd perthynas sydd dan sylw er enghraifft?) tydi hynny mewn difri ddim yn bwysig. Mae gan bob un ohonom ein colledion a hawdd felly ydi uniaethu profiad wrth wrando. Tydi hynny ddim yn golygu o reidrwydd mai dim ond ‘cân drist’ ydi hon chwaith, mae llais meddal Bethan yn gysurus a does yna ddim yn rhy lleddf am y gerddoriaeth na’r geiriau.
Byddai rhai efallai yn hoffi gweld mwy o amrywiaeth yn y geiriau hynny eto tydi’r gân ddim yn teimlo’n ailadroddus. Yn hytrach mae hi’n suo’r gwrandäwr ac mae ailadrodd ‘wedi mynd’ yn pwylseisio’r golled ac yn taro rhywun fel ymateb naturiol wrth i’r sioc a’r dryswch fagu gafael.
Dyma gân y medrwch wrando arni dro ar ôl tro heb ddiflasu, ac un byddwch yn siŵr o ddychwelyd ati hefyd.
Adolygiad anhysbys. Rhestr o adolygwyr y Stamp i'w gweld yma