top of page

Adolygiad: 'Mae'r Nos Yn Glos Ond Does Dim Ffos Rhwngtha Ni' - Ffracas (I KA CHING)

  • Y Stamp
  • Sep 19, 2017
  • 1 min read

O ystyried bod y band yn gymharol newydd, mae ganddynt sŵn hynod o gyfoethog ac aeddfed. Mae’n reit nodweddiadol o fandiau newydd i fod â chaneuon rhy hir gan nad ydynt yn gwybod sut i’w torri nhw’n eu blas, ond nid dyma’r gwir am Ffracas. Er bod tair o’r pedair cân dros 5 munud, nid ydyw’n wendid ganddynt o bell ffordd.

Mae ‘Carots’ yn chwe munud o hyd, ac yn un jam anferth gyda’r un chordiau’n cylchdroi fel sylfaen, a’r gitârs budr, ‘crunchy’ yn gwneud fel a fynnent uwch eu pen.

Mae’r gitârs yn meddalu wedyn ar gyfer naws breuddwydiol ‘Niwl’, a mwy o sylw’n cael ei roi i’r alaw a geiriau fade-aidd, sy’n plethu’n wych â’r bâs.

‘Pla’ yw cân fwyaf ymlaciol yr EP, gyda’r llais meddal a harmoni hyfryd yn y gytgan yn amlygu’r hiraeth a chwilfrydedd am y ferch. Mae hi’n debyg mewn ffordd, drwy’r gitârs meddal a’r hiraeth, i ddechrau “With or without you” gan U2.

Mae’n sicr eu bod yn ffans o fyd natur, gan fod eu caneuon yn sôn gan fwyaf am niwl, glaw, coed ayyb. Efallai y gallent amrywio rywfaint ar bynciau’u canu wrth ryddhau eu deunydd nesaf, ond mae defnyddio’r elfennau hyn yn gweithio hefo’r caneuon hypnotaidd hyn.

O bosib mai ‘Petalau’r Haul’ yw’r gân orau, sy’n adeiladu’n anferth erbyn ei diwedd i gloi’r EP. Yn syml iawn, os hoffech chi wrando ar gerddoriaeth i gyd-fynd â gwydraid tawel o wîn am dri’r bore cyn suddo mewn i drwmgwsg, gwrandwch ar rhain.

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page