top of page

Cerdd: Sul y Carnifal - Matthew Tucker

  • Writer: Iestyn Tyne
    Iestyn Tyne
  • Oct 31, 2017
  • 1 min read

(pob blwyddyn, yr arferiad ar y dydd Sul wedi Carnifal Porth Tywyn yw cynnal gwasanaeth ym mhrif babell y maes)

Bu awelon cred yn newid eu cwrs y bore hwnnw. Daethant, ar wib, i mewn dros y môr, gan gario ei air Ef hyd ehangder y babell.

Ac o dro’r tudalennau, daeth Ef, â’i freichiau ar led, i’m cofleidio, fel hen gyfaill na welais mohono ers oes.

Dilynais Ef i drobyllau’r penillion, gan adael iddynt fy sugno i fêr pob adnod a dameg. Ac wedi i mi blymio i ddyfnderoedd Ei neges, ac ymdrochi yn awen yr efengylau, codais i’r wyneb; torheulais yn heulwen ffydd gan adael i’w phelydrau fy ngolchi’n ddi-baid.

Ac wedi i mi ysgwyd Ei law a ffarwelio ag Ef, oedais, a meddyliais yn siŵr y caem ni gwrdd rhywbryd eto.

Matthew Tucker

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page