Mae Hedd Wyn yn destun peryglus i fardd. Ar ôl canrif o ganu a choffau, gall hyd yn oed y beirdd taeraf ddisgyn i fagl ystrydeb, a rhaid gofyn y cwestiwn anodd: ‘Oes unrhyw beth newydd allwn ni ei ddweud am Hedd Wyn?’
‘Wel oes!’, haera Ifor ap Glyn, golygydd Canrif yn Cofio Hedd Wyn 1917-2017.
Fe rannwyd y gyfrol yn ddwy adran, sef cerddi 1917-2016 a cherddi newydd a gyfansoddwyd ar gais y golygydd.
Aeth rhai o’r beirdd hyn ati i ddefnyddio’r hanes i wneud pwyntiau gwleidyddol cyfoes. Aeth eraill ati i geisio dod o hyd i Elis, y dyn tu hwnt i’r eicon. Mae’r beirdd hefyd yn archwilio rôl yr Ysgwrn yn natblygiad cwlt Hedd Wyn.
Ac ydi, mae’r gyfrol yn rhoi lle i sinigiaeth tuag at y cwlt hwnnw. Mae cywydd Ceri Wyn Jones, ‘Hedd ac Elis’ yn disgrifio...
Hedd darn TGAU a cherdd dant.
Hedd a’i wae yn ddiwydiant.
Teg dweud nad am eu gwerth llenyddol yn unig y dewisodd y golygydd holl gerddi’r gyfrol. Mae ambell gerdd wedi ei chynnwys er mwyn rhoi darlun cyflawn o phenomenon lenyddol o bwys. Ond, iesgob, mae 'na gyfraniadau grymus yma hefyd.
Y cerddi a wnaeth yr argraff ddyfnaf arnaf oedd cywydd ymatalgar Rhys Iorwerth, ‘Dim ond...’; Telyneg ingol Marged Tudur, ‘Mary Evans, mam’; condemniad brathog ‘Y Bugail’ gan Iwan Llwyd; ac ‘Yfed yn yr haul’, cerdd annisgwyl a thyner Sian Northey.
Mae pob cenedl angen ei mytholeg, ac mae stori Hedd Wyn yn rhan bwysig o’n cynhysgaeth fel Cymry. Mae beirdd yn dal i gael eu denu at yr Ysgwrn ac at stori bardd y gadair ddu, ac mae’r gyfrol hon yn profi y byddant yn parhau i dyrchu am ystyr o’i fywyd a’i farwolaeth . A dyfynnu rhan o arwyddair cylchgrawn llenyddol arall: ‘Yr hen ddweud o’r newydd yw’.
Carreg Gwalch - £9.00