top of page
Y Stamp

Adolygiad: Galar a Fi - gol. Esyllt Maelor


Wedi darllen cyfrol Alaw Griffiths; Gyrru drwy Storom, ryw ddwy flynedd yn ôl, ro’n i ar dân i brynu copi o’r gyfrol newydd hon sydd hefyd yn mynd ati i ymdrin â phwnc sydd yn dal i fod â thabŵ yn ei gylch yn ein cymdeithas ni.

Rhagair Esyllt Maelor yw’r cyflwyniad perffaith; neidia’n syth i lo mân y pwnc gan gipio ein sylw a darparu mewnwelediad gonest i’r hyn sydd i ddod. I’w ganmol hefyd mae ei hymdriniaeth sensitif wrth ragrybuddio darllenwyr nad yw’r gyfrol yn rhwydd i’w darllen ar brydiau.

Mae’n agor â chyfraniad llawn anwyldeb Sharon Marie Jones sy’n ymdrechu i egluro’r hyn sydd wedi digwydd i’w mab bach; cyfraniad a ysgrifennwyd mewn modd anhygoel a wnaeth imi deimlo mod i’n gwylio popeth yn fyw o flaen fy llygaid. Casgliadau amrywiol a geir wedyn o gyfraniadau hynod bersonol, pob un wedi’i ‘sgwennu am brofiadau gwahanol iawn o alar a hynny mewn arddulliau amrywiol; yn gerddi, pytiau dyddiadur, neu’n ymdebygu i stori fer.

Cyfraniad creadigol ei natur er cof am ffrind gorau a ddaw â’r gyfrol i ben. Mae gan Llio Maddocks ddawn amlwg o wneud profiad tu hwnt o anodd yn hawdd i’w ddarllen a’i deimlo ac mae ei chyfraniad yn glo bachus, penigamp sy’n crynhoi’r profiadau drwy hanes y dyn yn y caffi â’i sigaret.

Cydiodd pob cyfraniad yn gryf ynof ond rhaid cyfeirio at gyfraniad hynod bwerus Nia Gwyndaf a ysgrifennwyd gwta hanner blwyddyn wedi iddi golli ei gŵr, Eifion. Mae’n gyfraniad gwefreiddiol o amrwd wedi’i ‘sgrifennu’n onest, ac efo calon drom iawn y bu imi roi’r gyfrol i lawr y noson honno; roedd geiriau Nia’n troi’n fy meddwl ymhell wedi cau’r cloriau.

Ymdriniaeth agored, sensitif, ond cignoeth o alar sydd yma; pwnc sydd wedi bod yn un i ddelio ag o tu ôl i ddrysau caeedig ers blynyddoedd. Ydi o'n hawdd ei ddarllen? Nac ydi. Ond mi fyddwn i’n dadlau mai dyma un o’r petha’ pwysicaf ddarllenwch chi fyth.

Y Lolfa - £7.99


59 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page