Meddyliwch am y person mwyaf annoying ‘da chi’n eu hadnabod, a dwi’n siŵr y ffeindiwch chi ryw elfen ohoni hi neu ohono fo yn y llyfr hwn. Dyma gyfrol o straeon byrion, ffraeth, sy’n herio ein rhagdybiaethau o’r bobl o’n hamgylch. Cawn yma bortreadau lliwgar, di-flewyn ar dafod o bobl ar y cyrion; rhai yn ddoniol, ambell un yn ddifrifol, ond pob un ohonyn nhw’n cyffwrdd â nerf wrth i Ruth Richards bigo ein cydwybod.
Mae dawn Ruth yn ei manylion a’i gallu i addasu’r pethau mwyaf cyffredin, fel y teclyn da i ddim; y Men–O-Pause a ddarganfyddwn yn y stori ‘Jimmy Choos’. Beth yw’r Men–O-Pause? Wel, “pâr o binsiars mawr i roi taw ar ddynion er mwyn eu gorfodi i wrando ar gŵynion a phoenau merched.” Yndi, mae o’n swnio’n boenus, ac yn peri gofid mawr i Islwyn drws nesaf sydd yn gorfod goddef gwasgfa Men-O-Pause ei gymydog Mandy.
Mae lleisiau pendant ei chymeriadau yn herio ein disgwyliadau yn ogystal ag amlygu ein hansicrwydd mwyaf dynol. Cawn lais pryderus Taid yn ‘Chwarae Teg i Undeg’ wrth iddo boeni am hunan hyder ei wyres sydd ond yn derbyn “partia hogia” yn sioeau’r ysgol a byth yn cael “partia genod del”! Mi faswn i’n mynd cyn belled â dadlau bod tinc ffeministaidd i’r gyfrol wrth i Ruth herio’r ystrydeb o beth yw bod yn ddyn neu’n fenyw, a hyn bron ymhob stori.
Mwynheais y straeon yn fawr. Mae pob stori â’i fachyn sydd yn herio llif y naratif. Hynny yw, ei bod hi’n ymddangos bod trywydd amlwg i’r stori ond bod yna drobwynt tua’r diwedd sy’n herio’r arwyddocâd gwreiddiol. Datgela Ruth ar glawr cefn y llyfr: “Yn aml iawn, mae’r sawl a fynnwn eu hosgoi yn datgelu mwy na fyddwn yn fodlon ei gydnabod amdanon ninnau.” Dyma yn fy marn i yw camp y gyfrol. Mae’r cymeriadau a bortreadir mor ddynol, amhosib yw peidio â gweld elfennau ohonom ni’n hunain yn eu gwendidau.
Gwasg y Bwthyn - £7.95