Mae’n gwestiwn gen i pam y gosodwyd ‘Mefusen’ ar ddechrau Rhannu Ambarél. Stori ragweladwy, ddiddychymyg am ddau stereoteip o gymeriadau sydd wedi ei ddweud ganwaith ac wedi ei ddweud yn well. Ond os mai ceiliogod ffesant ‘Wilias Parry’ sy’n tanio’ch libidos â chithau ar fin caru, siawns y gwnewch chi ei mwynhau hi’n fwy na wnes i. Pawb at ei beth. Mi oeddwn i wedi dechrau anobeithio am y gyfrol yn barod.
Ond mae ‘Y Lôn Wen’ yn ffresh. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn i ba gyfeiriad oedd yr awdures am fynd, ac mi oedd hynny’n chwa o awyr iach ar ôl ‘Mefusen’! Dw i’n meddwl ‘mod i wedi mwynhau hon.
Ac wedyn dyma gamu’n ôl efo ‘Daiwa S31’ - stori am ddyn arall yn meddwl efo’i bidlan yn hytrach na’i ben.
‘Rhannu Ambarél’ sydd nesaf a diolchais amdani. Hon ac ‘Elen Fwyn’ yw pinaclau’r gyfrol. Dyma ddwy sydd ymysg y straeon byrion orau imi eu darllen ers talwm. Fedra i ddim egluro’r effaith gafodd ‘Rhannu Ambarel’ arna i ar ôl ei gorffen. Mae hi’n un o’r straeon ‘na sy’n symud rhywun i’r byw. Mae’r sgwennu yma’n ffrwyth awdures sydd wedi meistroli ei chrefft. Ar ôl ei darllen hi mi oeddwn i’n edrych ymlaen at y nesaf.
Ond ‘Elen Fwyn’ ydi uchafbwynt y gyfrol, heb os. Stori sy’n mynd â chi’n ôl i’r 60au gwyllt ac mae hi’n llawn secs, drygs a roc a rôl. Ac, wrth gwrs, affêr arall.
Mi oedd darllen Rhannu Ambarél yn brofiad diddorol ac estron. Dydw i’m yn cofio’r un llyfr arall imi ddiflasu a chyffroi cymaint wrth ei ddarllen!
Gwasg y Bwthyn - £8.95