Neithiwr yn Abertawe, lansiwyd trydydd rhifyn cylchgrawn Y Stamp. Diolch i’r criw a ddaeth i’r noson yng ngwmni’r bardd Lowri Havard, yr awdur Noel James, y golygyddion, a’r gantores Sian Richards. Bydd Y Stamp ar gael o rai siopau o’r wythnos nesaf ymlaen, ac mae modd i chi archebu eich copi drwy gysylltu dros ebost – golygyddion.ystamp@gmail.com.
Un o gyfrannwyr rhifyn 3 gyda’i gerdd ‘Pantygwydr’ yw’r bardd Tudur Hallam. Dyma gerdd newydd arall o’i eiddo i’ch cadw i fynd nes derbyn eich copi chi o’r rhifyn…
Ym Mharc Brynmill
Bore bach a thad-cu ifanc yng nghar bach pren y parc, wrth ei waith, yn carco’r ŵyr.
Ei chauffeur personol, heb ’runlle i fynd, dim ond i ben draw eu dychymyg: ‘Tŷ Anti Ann?’ A thry’r car yn gaffi. ‘Gwlad yr Iâ?’ A Ta’-cu yw Siôn Corn.
‘A beth am y gofod?’ Ac i ffwrdd â nhw, ar ras, rhag iddo gau.
Ac o daith i daith, dyma oddiweddyd tagfa’r llynedd: boreau’r codi i yrru’i hun yn dwll o glwtyn llawr wrth sgwrio’r ysgol.
Gwinga wrth gofio. Suddo i’w sedd gefn. Ond yn sŵn y seiren fach mae mewn dwylo da. ‘Godwn ni’r hwyliau, Ta-cu?’ Ac mae’r môr yn berffaith lonydd.
Tudur Hallam