Cerdd: Mynydd Beili Glas - Nerys Bowen
- Y Stamp
- Dec 12, 2017
- 1 min read

‘Beili Glas’ yw enw’r lle, ond hefyd ‘Gwlad y Cewri Gwynion Gwyrddion’, sy’n chwifio’u breichiau, torri’r cynfyd, Torri’r nennau â sŵn anunion. Yn llarpio’r awyr â’u cyllyll llym, a boddi cân adar o filltiroedd, yn estyn i’r pellter, a heb awgrym o ymddiheuriad i’r hen gymoedd. Tarfwyd y pridd sydd yn eu cwmpasu, anadla du ei hen drysor cudd Sigla fflora’r tir wedi’i grasu yn nghwynt eu gwarchodwyr, ymhlith y nudd. Gwyn yw’r du newydd hyd a lled y cwm, yn creu egni gwyrdd, nid diwydiant trwm.
Nerys Bowen


Comments