(i Llwyd ap Iwan)
Bang bang, I hit the ground bang bang, that awful sound
Roedd dyddiau llancaidd Llwyd yn llawn mapiau, llinellau, cyfrifiadau, gweithgareddau.
Ildia’r diriogaeth yn dyner ym mreichiau ewyllys y dyn a oedd yn ei llunio’n daclus – pensarnïaeth y Paith.
Pori gwastadeddau, palu dirgelion, meistroli afon fympwyol, crafu heol syth, pwerau plethiedig ap Iwan fel peiriannydd y Paith.
Onid yw’n rhyfedd sut mae pethau – methodd Llwyd ragweld ar y ddaear siâp Rhagluniaeth y Paith.
***
Sut allet ti fod wedi dadgodio’r nawfed, a’r hugain, a phob peth arall allai orffen ar Ragfyr fel hyn?
***
Rhyw awel gynnes yn sisial dros y borfa sych a’r bryniau melynaidd garw yn ceinwrychu,
mae ambell gwmwl yn tynhau fel ffensys gwifrau ifainc tra bo dau jotes yn agosáu a bang
yn araf bach yn araf deg llithra Llwyd i’r llawr.
Daw Angau yn fuan i’w gusanu â llwch.
***
Ffrwydra’r siop mewn gwaedd a llanast gorffwyll cyrfiau melys pur cyrfiau melys llestri disglair llestri gwyn â rhosod pinc cwpan te â rhosod glas cwpan te a nofia mewn nant mewn nant heb bysgod mewn nant heb li, tra oddi ar y silffoedd daw rhaeadr a llifa dicter, llifa llid llifa dagrau, dagrau glân llifa heli o’r sachau blawd o’r bagiau ceirch a’r poteli gwin mae ‘na deilchion dros y llawr wele’r teilchion dros bob man teilchion tsieina gwyn a glas, tra bo dau fandit yn cael dianc yn cael dianc rhag y Coop rhag y llanast, nawr ar garlam
ar garlam brigau trwy fôr o neneos tuag at yr haul.
***
Haul dwys yw un mis Rhagfyr ar ffiniau’r Andes a’r Paith, ond daw awel i’m cyfarch heddiw wrth imi neidio mas o’r car.
Draw fanna, tu ôl i’r helyg trwchus, cana’r glais hwiangerdd cudd yn ceisio ‘nghadw’n dawel yn disgwyl imi anghofio’r hanes
yn ofer: yn frith o ddarnau caled yw’r llawr, map o arwyddion lliwgar o amser a fu.
Er mod i’n amau nad ydw i fod i’w wneud o cipiaf ddarn o tsieina blodau glas ar gefndir gwyn
yn ddiogel yn y boced i grafu ‘nghroen yn gyson i’m hatgoffa am y boen.
Uwchben mae cóndor yn hedfan, tybed ai ffenics yw hwn tybed ai lludw’r llwch sy’n gorchuddio fy wyneb, fy nhraed, a chofeb Llwyd.
Sara Borda Green
Nodiadau:
Aderyn du tebyg i’r fwltur sy’n gynhenid i’r Amerig yw’r Jotes, ac aderyn arall brodorol yw’rcóndor.
Cwmni masnachol yn Nyffryn Camwy yw’r coop- y CMC (Cwmni Masnachol Camwy).
‘Phoenix Patagonian Minning & Land Company’ oedd enw’r cwmni a sefydlodd Llwyd ap Iwan ac eraill yn Nhalaith Chubut.
Perthi sy’n tyfu ar y paith yw neneos.