top of page

Cerdd: Ai hyn yw'r Nadolig? - Gwen Saunders Jones

  • Y Stamp
  • Jan 16, 2018
  • 1 min read

Cadw’r goeden a’i haddurniadau yn eu bocsys, yna’r tinsel a’r trimins, cadw’r wên a sodrwyd ar fy wyneb, a’r hwyliau da y ffugiais o flaen y plant am gyfnod didrugaredd o ddiddiwedd.

Tociwyd corneli ar y ffeithiau, clymwyd rhuban ar ein teimladau, ac yn ddistaw, ddistaw bach, datgelwyd ein gwendidau, a lapiwyd mor benderfynol o dynn efo’i gilydd gyda’n tâp sello o gelwyddau.

Yna, ffrwydrasom. Yn chwerwder yr holl alcohol a yfwyd, poerasom gasineb a bryntni at ein gilydd; hen wirioneddau poenus a hyll wedi’u bragu dros y blynyddoedd.

A’n hangylion bychain ni sy’n eistedd yn gegrwth, wedi’u dychryn yng nghyflwr truenus mam a dad.

Chwincia’r goleuadau’n ddiniwed yn y ffenestr flaen, gan dwyllo pawb ar y tu allan am dywyllwch ein dirywiad ni, a’r ffaith ein bod ninnau, fel y bocsys sy’n dal y goeden a’i haddurniadau, wedi dadfeilio a dod o’i gilydd. Wedi holl firi ac annibendod y teganau a’r trimins a’r twrci, daeth y diwrnod i ben, a ninnau gydag ef.

Gwen Saunders Jones

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page