top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Cerddi: Taith - Morwen Brosschot

Ar ei theithiau rhwng Cymru a’r Iseldiroedd i weld ei theulu, bu Morwen Brosschot yn crisialu rhai o’i phrofiadau ar ffurf cerddi.

Gwylan

Drwy ddwndwr peiriannau a chryndod y dec dan draed,

Allan i’r mwg a brathiad yr heli’n y gwynt,

Heibio’r wynebau tynion mewn corneli yn sugno ar sigaréts,

Heibio’r cameráu yn prysur hawlio’r clogwyni gwynion, a’r ffonau a’u lluniau welwch-chi- fi yn fferru pob profiad i’r eiliad…

daw plentyn yn llaw ei thad, ac edrych allan tu hwnt i fyd bach y capsiwl metel hwn,

drwy’r rheiliau

ar wylan wen, lliw heli yn hongian yn llonydd

yn y gagendor chwil rhwng dwy long.

A thrwy’r murmur lleisiau daw llais croyw’r fechan fel cloch

‘Oh look! it looks like that seagull’s

hanging

on

a

thread!’

Gobeithion

Mân denti yn y dwnan a phebyll plastic du yn eu cwman dan y coed. Haul y bore’n sglein ar gefnau gwylanod a’r ffensys metel gwyn fel ei gilydd.

A thrigolion y teios yn y twyni yn llygadu’r lorïau am unrhyw fwlch, unrhyw flerwch, unrhyw hanner cyfle am bás dros y dŵr.

Yn unigolion di-enw, yn dramorwyr di-basport yn treiglo fesul gronyn drwy ddwylo’r awdurdodau.

– a’r plismyn yn cicio’u sodlau ar y cyrion.

Yn barhaol ar batrol a’u hosgo gwyliadwrus, eu llygaid disgwylgar yn fflachio dan sgarffiau, a signalau eu ffonau yn rhwydwaith anweledig o un i’r llall.

. . . . . . .

Mae’r man gwyn fan draw

yn bryfoclyd o agos dan haul y bore -yn wawr wen ar y gorwel.

Mehefin

Ehangderau Ffrainc a gwyrddni Mehefin yn garped. Ffermydd bychain yn swatio’n styfnig yn eu cilometr sgwâr. Yr helyg yn gatrodau o foncyffion celyd, â’u pennau gwalltog wedi eu tocio ddau dymor yn ôl, yn ail-dyfu’n ffres ar hyd ffosydd Fflandrys.

Ffin

Dim swyddfa dim cwt dim arhosfan, dim milwr gwelw deunaw oed, dim gwn,

dim ond un lôn lân lydan yn gwibio ar garlam o Galais i Amsterdam.

30 views0 comments
bottom of page