“Na, da ni’n goman”, meddai gan dreiglo ar lafar, yn gwbl naturiol mewn modd rwy’n strugglo gwneud fy hun.
Suddodd fy nghalon. Doedd hi ddim am gymryd y risg o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ceisiais esbonio – “dwi’n Jaco a fi ’di’r darlithydd – ac mae Cymraeg eich bro yn fywiog, ac yn lliwgar a chi yw crème de la crème y tafodieithoedd i gyd gan bo chi wrthi’n siarad Cymraeg o hyd!”
Syllodd arnaf. “Mae hon yn nyts” meddyliodd… … dychmygais. Parablais – “A gewch chi hyfforddiant iaith beth bynnag, fel rhan o’r modiwl yma”.
Yna roedd hi wedi ei hargyhoeddi … nes i ni gyrraedd y stafell hefo’r ffurflenni; “ond mi rwyt ti wedi defnyddio geiriau, jest rŵan dwi ddim yn eu nabod – felly well i mi beidio”.
“Ond addysg ’dy nene”, meddais “dim ond achos bo fi di gweithio yma ers rhyw ddwy flynedd bellach. Cymraeg y brifysgol ydio – tafodiaith ysgolhaig Wnei di bigo fo fyny’n ddigon cwic, fel wnes i.
Ond doedd o ddim yn ddigon i’w ail-argyhoeddi; roeddwn wedi ei cholli – gan fod fy ymdrechion i ddod yn fwy dosbarth canol wedi dechrau llwyddo.
Felly meindiwch eich iaith yn ystod wythnos groeso; mae gan bawb dafodiaith ac mae un yn RP Cymreig… sydd yn sbwcio brodorion y fro Gymraeg o’n cwmpas!