top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Cerdd: Coedwig yn Dadfeilio - Dewi Alter


Coedwig yn dadfeilio

Haint sydd arnom, sy’n nadreiddio fel gwinwydden. Y mae’n bod ers amser maith, yn bod o’n blaenau; a welwn ei ddiwedd?

Er holl gyfrinachau’r Dwyrain amlwg yw ein cyflwr ac amlycach yw ein ffawd. Fe’n diarhebir cyn hir, a’n gwneud yn gyff gwawd.

Dynoda’r haint ein diwedd; megis chwyn.

O fardd, fe freuddwydiaf.

٭

Ni welais ein gwanwyn, ac ers hynny fe fûm yn gwywo.

Lle bu gosgordd o foncyffion anghysbell yn amddiffynfa rhag amryw fygythiad; fe’n diorseddwyd a’n gwneud yn feddlechau.

Daeth y pla i ganol ein haf a’n llygru’n llwyr a melltithio pob had cyn ei lunio. Nawr, o fardd, wynebwn ein gaeaf.

Haint ein rhieni, haint oedd ein etifeddiaeth, haint ein hieuenctid. Pwy a gaiff lendid o aflendid?

O fardd! Clyw fy nghri!

Ni allwn wrthod hyn, yr oeddem yn hardd-deg yng ngardd Eden ein camgymeriadau a’n hymffrost a’n chwythodd ni ar gyfeiliorn.

٭

Unwaith credasem mewn iachâd, ein hynafiaid – nid ni. Tyfasom a gadawsom hen goelion y cynfyd. Gwn am yr haint sy’n pydru ynof. Gwir neu gau, roedd ganddynt obaith, buont yn ffyddlon i’w ffolineb. Nid oes imi gysur o fardd.

Er gwaethaf ein digadwynwch; onid ydym o hyd yn gaeth?

Ni lwyddasem i dyfu, megis prysglwyn.

Cwestiynau a holwn ninnau – fi a ’nghyfoedion – a ydym yn bren?

Pryderaf. Onid ydym wedi holi ac anwybyddu, heb geisio atebion, er mwyn anghofio am ein salwch?

٭

Roedd gennyf freuddwyd ers talwm am goedwig ddi-haint; coedwig iach.

Tynnwyd fy mreuddwyd o’m llaw cyn iddi flaguro.

Fe’n llifiwyd gan ein gelynion a’n defnyddio fel mur rhyngddynt a’u gelynion hwythau. Barn a broffwydwyd.

Daeth rhai i’n ceisio am encil. Fe’u lladdwyd hwy, heb un tyst, dan gysgod mynwent ein dail.

Erys fy mreuddwyd. Hiraethaf am feddyg. Fy nghyffesiad fod pethau o chwith.

Crinaf.

Ni chroesawaf fy niwedd. Edwinwn heb un cof gan ein cyfeillion, am ein cyfeillgarwch: chwedloniaeth. Fe’n diwreiddir ac yna fe’n gwedir.

A ddaw rhyddhad ar ôl ymwacáu o hyn?

Gwn na chaf sicrwydd.

٭

Gwir yw’r haint; ond mae’r breuddwyd yn frau.

Fe’n llyncir gan amser a chysgod fydd fy nyddiau ar y ddaear.

Marweiddia fy moncyffion. Pa le mae’r dŵr i’n hadfywio? Mae amser i bopeth, ond un peth yn unig a wnawn yn awr. Ni newidia’r freuddwyd fy ffawd.

Cofia fi, o fardd! Bydd drugarog! Ni chysgodaf oddi wrthyt. Cofia fi yn dy gân cyn imi droi’n llwch y llawr.

Gyfaill, trugarhaf wrthyt, ni roddaf yr hyn sydd angen; ni allaf

Ond, fe ganaf iti rhag i’th fodolaeth fynd yn ddi-dystiolaeth.


65 views0 comments
bottom of page