top of page
Y Stamp

Profiad: Yng Nghalon y Trobwll, Ffair Lyfrau Llundain – Eluned Gramich


Y Stondin Gymraeg, 10-12 Ebrill

Am y tro cyntaf erioed eleni, roedd gan Gymru stondin yn Ffair Lyfrau Llundain. Ymunodd wyth sefydliad llenyddol â'i gilydd – Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Llenyddiaeth Cymru, Cyfnewidfa Lên Cymru, PEN Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru - i sicrhau bod Cymru'n cael ei chynrychioli yn un o ffeiriau llyfrau mwyaf y byd.

Bob blwyddyn mae tua 25,000 o weithwyr proffesiynol yn y maes cyhoeddi yn tyrru i'r Ffair (ond i ddweud y gwir, mae hi’n teimlo fel dwbl y nifer hwnnw pan rydych chi’n sefyll yng nghanol y lle.) Cyhoeddwyr, golygyddion, dylunwyr, asiantau, dosbarthwyr, swyddogion PR, cyfieithwyr, masnachwyr hawliau ac ambell i awdur a bardd – maent i gyd yno, yn blith draphlith. Yn groes i’r hyn y mae pobl fel arfer yn ei gredu, nid oes modd prynu llyfrau yn y ffair lyfrau - oni bai eich bod eisiau prynu llawysgrif yr hoffech ei chyhoeddi neu ei chyfieithu neu ei dosbarthu i 25 o wledydd gwahanol. Dyma'r lle i daro bargen a lle mae holl ffasiynau’r byd llyfrau am y flwyddyn i ddod yn cael eu sefydlu.

Mae'r ffair yn drobwll. Mae'n hawdd cael eich sugno i mewn. Rydych yn rhuthro o gwmpas y neuaddau enfawr, sy’n llawn dop o arddangosfeydd, swyddfeydd - a miloedd o lyfrau wrth gwrs - yn dilyn llif y masnachwyr a’r golygyddion artistig, heb wybod yn iawn ble’r ydych, nac i ble’r ydych yn mynd. Mae ‘na bobl yma yn arddangos eu cynnyrch o bob cwr o'r byd: y Balcanau sydd pia’r pafiliwn canolog eleni ac yno maen nhw’n fflachio logos eu crysau-T ac yn ceisio llithio’r byd cyhoeddi gyda’u cwrw arbennig. Cannoedd o gopïau o’r llyfr diweddaraf gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Xi Jinping, sydd i’w gweld yn stondin Tseina. Lle anferthol gyda llawer o sofas gwag sydd gan Saudi Arabia, ac mae Twrci yn eich temtio gyda phasteiod blasus. Yn y neuadd ganolog mae Sbaen, Ffrainc, a’r Almaen gyda'u swyddfeydd slic a phroffesiynol.

Ond y peth gorau am y diwydiant llyfrau yw nad yw hi'n stori am y cwmnïau pwysig-pwysig yn unig. Wrth gwrs, gallwch chi ffeindio Random House a Macmillan yno gyda'u stondinau crand â mynediad gydag apwyntiad yn unig. Ond nid dyna lle mae’r pethau diddorol yn digwydd. Wrth i mi gerdded yn benysgafn drwy'r neuaddau di ri, rwy’n mynd heibio stondinau sydd dan eu sang, gyda phobl sy’n siarad fel pwll y môr, yn llawn cyffro ac  – er ei bod hi’n hen drawiad, rwy’n gwybod - egni hefyd. Cwmnïau bach annibynnol sy'n cyhoeddi awduron hollol wreiddiol a gwledydd bach lle mae’r llenyddiaeth yn ffynnu - Catalwnia, Latfia, Malta ac, wrth gwrs, Cymru. Roedd stondin Cymru, a oedd yn arddangos yn y ffair am y tro cyntaf, yn un o'r llefydd hynny lle roedd pethau rîli’n digwydd.

Dathlwyd nifer o ben-blwyddi pwysig (25 mlynedd o Parthian, 20 mlynedd o Lenyddiaeth ar draws Ffiniau, a phedair blynedd o Head and Heart); lansiwyd llyfrau (gan Wasg Accent a Firefly) a daeth y Gweinidog dros Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, i ymweld â stondin Cymru yn y ffair ar y diwrnod olaf. Roedd yn llawn canmoliaeth i'r fenter.

Un o uchafbwyntiau'r ffair oedd sgwrs a draddodwyd yn y Ganolfan Cyfieithu Llenyddol, ac a drefnwyd ar y cyd gan Gymru a'r Alban. Eisteddai awdur Pijin, Alys Conran, a'r cyfieithydd-awdur Siân Northey, ochr yn ochr ag Aonghas Phàdraig Caimbeul a James Robertson, yn trafod statws "ieithoedd brodorol". Roedd clywed Gaeleg yr Alban yn y ffair yn her uniongyrchol i'r diwydiant cyhoeddi, sy'n canolbwyntio ar Llundain, ac roedd clywed barddoniaeth Gaeleg a Scots yn ein hatgoffa nad oedd angen i'r Saesneg fod yn iaith 'lenyddol' ganolog, hyd yn oed yn Llundain.

Fel y dywedodd Siân Northey: "Mae angen i ni neidio dros y Saesneg. Neidio dros Lloegr. Mae angen inni ddianc o'r ddeuoliaeth Cymraeg-Saesneg yr ydym yn ei weld yn rhy aml. "

Heddiw rydym yn aelodau o'r byd rhyngwladol, a dylem fod mewn deialog â llenyddiaethau ryngwladol (nid Saesneg yn unig). Adlewyrchwyd ei geiriau yma yn lluosogrwydd y ffair: barddoniaeth Malta, Estonia, Lithiwania, Catalonia, Siapan, Cymru. Roedd hwn yn lle agored a rhydd, lle roedd llenyddiaeth gyfoes Gymreig yn hawlio lle ar lwyfan ryngwladol.

Stop nesaf: Frankfurt. Ffair lyfrau mwyaf y byd.


66 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page