Dylan Huw ydi'r nesaf i gymryd yr awenau ym mhrosiect creadigol Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru, 24:24. Mae'r darn hwn yn ymateb i'r ddolen flaenorol yn y gadwyn, sef darn gweledol gan Gwenllian Spink. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma.
PLUGGED IN a teimlo’n sâl!
Dylan Huw
Her 24x24, 1af o Hydref 2020
1.
Am hanner awr wedi chwech heno mae digwyddiad byw, trafodaeth rhwng yr artist Legacy Russell, sef awdur Glitch Feminism, a’r sgwennwr academaidd McKenzie Wark, ar sianel Youtube y wasg Verso. Dwi methu mynd, achos hwn, ond fe wylia i fe ‘nol.
2.
Ma pa mor lot yw’r her 24:24 yma yn apelio, so fi’n leanio mewn i’r lot. Lot yw’r ysbryd dwi am chwd-sgwennu yn ei enw am y tua pedwar-deg-tri munud nesa. Jyst rhoi pob stiwpid peth sy’n dod i mhen mewn i word, ac os gai gyfle, rhoi rhyw fath o drefn arnyn nhw cyn anfon at Esyllt a Iestyn erbyn pum munud i saith. Sori am hyn, Steffan. Ydw i’n mynd i ateb y brîff o gwbwl? Cawn weld.
3.
Dwi’n derbyn yr ebost, a DM gan Gwenllian, tua wyth munud wedi chwech. Fideo pump-eiliad yw e, lle ma Gwenllian yn dal lan y peth 2d dienw ma hi di creu, cerdyn shiny gyda sbloj o liwiau cromaidd pert arno fe, yn tywallt dros ochrau’r shein.
Fi’n hoffi edrych arno fe lot. Ma hefyd yn neud fi feddwl am sut blwyddyn yma ma’r byd wedi blino ni gymaint bod y pethau mwyaf elfennol – fel derbyn ebost gyda jyst darn o waith celf spontaneous gan hen ffrind ynddo fe, neu’r cysyniad o rywbeth shiny – yn gallu bod yn ddigon i neud i rywun grio dagrau hapus.
(Dagrau trist, hefyd.)
4.
(Fi acshyli ddim yn crio ar hyn o bryd, ond chi byth yn gwbod lle gall yr awr yma ein cymryd.)
5.
Mae gen i docyn Eventbrite i lansiad llyfr newydd Laura Mulvey, Afterimages, am chwech o’r gloch nos fory. Dwi wedi nodi teitl y llyfr ac amser y digwyddiad ers rhai wythnosau, a dwi methu aros i gael gafael ar y llyfr, ond dwi’n gwybod, wastad wedi gwybod, mod i ddim yn mynd i fynd.
6.
Hefyd fory mae ffilm dwi wedi bod eisiau ei gweld ers Sundance, ffilm gan Kristen Johnson o’r enw Dick Johnson is Dead, yn cyrraedd Netflix. Dwi’n meddwl mai’r cysyniad tu ol y ffilm yw bod Kristen Johnson, yr artist, yn “paratoi” at farwolaeth ei thad, Dick Johnson, trwy lwyfannu marwolaethau sinematig iddo. Sydd naill ai’r syniad mwya annwyl dwi erioed di clywed, neu’r unig beth dwi’n gallu meddwl amdano sydd mor indulgent a’r “testun” hwn.
7.
Hefyd fory mae Onward, y ffilm Pixar ddiweddaraf a gafodd ei chyfnod mewn sinemâu wedi ei dalfyrru gan y pandemic, yn mynd ar Disney+, a mewn gonestrwydd mae’n fwy tebygol mae honna bydda i’n ei gwylio gyntaf. Yr unig beth dwi’n gwybod am Onward yw’r ffeithiau hyn, a’r ffaith arall bod y prif gymeriad – falle’r prif gymeriadau – yn las.
8.
Be fi wastad yn gwerthfawrogi am waith Gwenllian yw’r naws o ryfeddod sydd yna i’r pethe ma hi’n rhoi at ei gilydd i greu’r gweithie ma hi’n eu creu. Chi’n gallu chware efo gole!! Ma’r ffordd ma hi’n defnyddio’i deunyddie fel bo hi’n darganfod nhw am y tro cynta, sy’n cyfieithu mewn i brofiad tebyg i’r edrychwr.
Hynny yw. Ma Gwenllian Spink yn artist sydd yn y busnes o greu pethe ti ishe edrych arnyn nhw. Sy’n rili cwl, os ti’n meddwl am y peth, a mwy prin na fyddet ti’n meddwl.
9.
Does o bosib ddim byd mwy banal gallwn i ddweud ond mae’n wir. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn brysurach a mwy chaotic nag unrhyw flwyddyn dwi di byw drwyddi. (A ry’n ni fabis 1996 yn hoffi dim byd mwy nag actio fel bod gennym ni ryw enlightenment penodol o fod wedi byw mewn pedwar degawd a dau fileniwm cyn hyd yn oed cyrraedd creisis-chwarter-bywyd acshyli.) Dwi ddim wedi gwybod sut i ateb y cwestiwn “Lle wyt ti’n byw” na “Beth yw dy swydd” yn deidi ers dechrau’r pandemic. Heb sôn am “Sut wyt ti,” cwestiwn sydd wastad wedi bod yn gelwydd, fel ry’n ni gyd yn gwybod nawr. Blwyddyn o sgraps os fuodd un erioed. Un swyrl mawr o webinars a “catch-ups” a galar a lawrlwytho llyfre nai byth ddarllen a symud mewn efo fy nghariad kind of?? a gweld dyddiau ola’r byd mewn slow motion annisgwyl glitchy manic.
10.
Mae Gwenllian yn hen ffrind ysgol, un dwi ddim yn gweld yn ddigon aml. Gynne nes i fynd i Weld Cyfeillgarwch fi a Gwenllian – falle yn y gobaith bydde fe’n rhoi rhywbeth i fi sgwennu amdano heno, ond dyw e ddim yn teimlo fel bod hynna’n broblem hyd yn hyn – a’r prif deimlad ges i wrth sgrolio trwy’r llunie ni di rhannu dros y blynyddoedd oedd weirdly – neu acshyli ddim weirdly o gwbwl – yr un teimlad dwi’n cael o weld ei gwaith celf, sef: Fishe treulio amser gyda Gwenllian. Llunie o ni’n dwyn gazebo yn Maes B rhyw haf; llunie o ni’n powzio yn y Llew. On i ar fin gweud “dyddiau da,” ond ma’r cysyniad o “ddyddiau da” yn teimlo bach yn gauche, yn 2020.
11.
Ers 2016 dwi’n casglu dyfyniadau sgrap o lyfrau ag ysgrifau a tweets a cherddi ac erthyglau mewn i ddogfen dwi’n ei galw’n sgraps_doc. Yn gynharach blwyddyn yma nes i greu dogfen newydd o’r enw sgraps-newydd. Weithiau nai gal syniad am rywbeth – jyst teitl a ffurf ac ambell reference – a jyst pigo rhwbeth lan o’r sgraps ac adeiladu darn o sgwennu o’i gwmpas. On i di kind of bwriadu neud efo hwn, ond fi di cal jyst digon o goffi ac ysbrydoliaeth i jyst mynd, am y tro be bynnag.
12.
Wrth i fi fyfyrio dros y cysyniad o sgraps, dwi’n derbyn neges gan fy ffrind i Lucie, yn gweud bod hi’n wotsho’r addasiad newydd o Charlie’s Angels ddaeth allan blwyddyn dwetha, ac mai’r ffilm honno yw “the worst thing that’s ever happened to my gender.” Mae Lucie yn astudio PhD mewn pwnc dwi byth yn gallu cofio’i deitl, felly pwy ydw i i’w chwestiynu.
13.
Neges arall gan Lucie, wrth bo fi’n sgwennu’r paragraff uchod: “I actively feel like im being tortured and my brian is coming out of my nose.” Digon i neud i fi ishe gweld Charlie’s Angels. (Sori Onward a lansiad llyfr Laura Mulvey; sori cynhadledd y Blaid.)
14.
Er bod yna naws diwedd-y-byd cryfach nag ers sbel i’r wythnos hon, sy’n gweud rhwbeth, dwi wedi gadael i fy hun i deimlo’n optimistig. Gadael fy hun i deimlo’n ocê am y llyfrau heb eu darllen a’r ffaith bod popeth o’n cwmpas yn llythrennol yn colapsio fel erioed o’r blaen. Ddim teimlo’n dda am y peth, jyst: teimlo’n ocê.
15.
Es i gyda fy ffrind Elin i weld arddangosfa Gwenllian yn Camberwell Space diwedd flwyddyn dwetha. Odd hi di troi llwyth o hen drainers mewn i’r cerfluns bach doniol lliwgar yma. Nath e ysbrydoli fi i ddechre gwisgo hen drainers fi eto.
16.
Yn ddiweddarach y noson yna es i i weld noson o “gerddoriaeth gyfoes” yn rhan o rhyw wyl, odd yn hanner anioddefol, hanner y peth gore fi erioed di gweld, a’r mwya o bellter dwi’n cael o’r peth y mwya dwi’n meddwl bod y ffilm SUPERBIA gan Ulrike Ottinger y noson honno probably wedi newid fy mywyd.
17.
Sylweddoliad arall: Y mwya ocê dwi’n teimlo am orffwys nol ar sgraps, screenshots, bras-atgofion, ac archifs eraill dwi di casglu yn y 24 mlynedd ddiwethaf wrth sgwennu, y mwya cyffrous dwi’n teimlo am sgwennu a sgwennu a sgwennu lot full stop. Wrth i fi feddwl am hyn mae ffrind newydd anfon tweet ata i sy’n mynd feeling depressed PLEASE LET ME FINISH!!!!! LET ME FINISH WHAT I WAS SAYING!!!!!!!! CAN I PLEASE JUST FINISH MY THOUGHT!?!??? and ugly.
18.
INT: Stydi tŷ teulu dosbarth canol, Llanfihangel-Genau’r-Glyn, gogledd Ceredigion, tua ugain munud i saith ar nos Iau y cyntaf o Hydref. Mae bron yn dywyll allan nawr ac mae DYLAN, 24, wedi blino.
DAD: Sut mae’n mynd Dyl?
DYLAN: Hmm ocê… Mae’n dym ond ocê.
DAD: Be udus di? Mind dump?
DYLAN: Fi jyst ddim acshyli yn siwr os fi di ateb y brîff o gwbwl.
19.
Dwi ddim yn siwr os ydw i erioed wedi gweud wrth Gwenllian ei bod hi’n rhan fawr o un o nosweithiau mwya lot fy mywyd. Aethon ni i weld The Philadelphia Story yn y BFI Southbank gyda’n gilydd ar ddamwain, jyst ar ôl i fi dorri lan gyda nghariad go-iawn cyntaf, y sioc-i’r-system fwyaf oedd fy mywyd bach breintiedig wedi ei brofi ar y pryd. (Y “gyda’n gilydd” oedd ar ddamwain, nid y mynd i weld The Philadelphia Story.) On i erioed wedi teimlo mor numb ag on i pan nes i gwsg-gerdded mewn i’r BFI. Ond mae’r atgof yn un melys. Mae’n neis bwmpio mewn i ffrindie weithie nagyw e.
20.
Well i fi roi teitl neis a fformatio hwn, shyfflo’r sgraps o gwmpas, rhoi rhifau arnyn nhw hyd yn oed (pretentious?), neud iddyn nhw deimlo fel bod nhw’n adio lan at rywbeth. Dod lan efo teitl, wrth gwrs. Opsiynau am deitl: Chwarter bywyd; Sgraps o grombil nos Iau arall; Bin Bwyd; CAN O FWYDOD; Boddi yn y bin bwyd; Iaith yn yr adefilion; Y Bechgyn Glas; PLUGGED IN a teimlo’n sâl.
21
Dean Kissick, un o olygyddion y cylchgrawn celf SPIKE, ar twitter neithiwr: UNDERSHARING: For 10 years we’ve presented false images of ourselves and how glamorous our lives are online. Now we’re living in opposite world, we conceal what fun we’re having and keep our pleasures to ourselves. We hide behind all sorts of masks. Our lives are secret again.
22.
Fi’n kind of teimlo’n wael bod fi heb wir son am “weledigaeth” o gwbwl yn hwn. Ond dyna ni, does na neb yn mynd i gyrraedd rhif dau-ddeg-dau. Ac i fod yn onest, byddwn i’n meddwl llai o unrhyw un sydd dal i ddarllen.
23.
Teitl arall posib: Mae’r syrcas wedi canslo. Sai’n siwr pam, jyst newydd ddod ar draws arddangosfa o’r un teitl wrth fflicio trwy tabs, mae’r coffi’n mynd i mhen a dwi’n barod am swper.
24.
Dwi methu credu mod i di bod yn chwd-sgwennu am bumdeg munud heb sôn am y ffaith mod i’n gwisgo’r t-shirt nath Steffan Dafydd ddylunio sy’n gweud CYMRU ANNIBYNNOL PLEASE ar y cefn. A dwi’n rhedeg yn hwyr; sori Steffan, eto.
-----
Mae Dylan Huw (@dylanaber ar IG, @dylanhuw ar Twitter) yn sgwennwr ac yn weithiwr celfyddydol sy'n byw yng Nghaerdydd. Ei thing yw dathlu a meithrin gwaith celfyddydol newydd amlddisgyblaethol yng Nghymru, a disgwrs o'i amgylch, yn ei waith i National Theatre Wales a Peak Cymru ac mewn adolygiadau ac ysgrifau i Barn, Planet, O'r Pedwar Gwynt, ayyb. Mae ei sgwennu hefyd wedi ei gyhoeddi yn y cyfrolau Byd Crwn (Y Lolfa, 2018), Just So You Know (Parthian, 2020), PUSH: It will come later (2020, Circadian) a Queer Square Mile (Parthian, 2021).
Comentários