top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Ysgrif: Cydweithio i greu straeon am Gymraeg y dyfodol - Sean Roberts

Updated: Mar 10, 2021


Cydweithio i greu storïau am Gymraeg y dyfodol


Ble mae’r ‘sci-fi’ Cymraeg?” Dyma gwestiwn Joanna Davies, awdures Un Man. Mae ambell stori mewn print, yn enwedig am ddyfodol yr iaith Gymraeg ei hun. Yn ei nofel Wythnos yng Nghymru Fydd, mae Islwyn Ffowc Elis yn cynnig dwy weledigaeth o’r flwyddyn 2033: un lle mae’r Gymraeg wedi ffynnu ac yn cael ei siarad gan bawb yng Nghymru, ac un lle does neb yn siarad Cymraeg bellach, gyda diwylliant Cymreig wedi mynd yn angof. Roedd pwrpas ei ffuglen wyddonol yn amlwg: cafodd ei chyhoeddi yng nghyfnod o ofidio y byddai’r iaith yn marw (yn yr un flwyddyn a’r Bil i foddi Capel Celyn ac ychydig o flynyddoedd cyn araith Saunders Lewis ‘Tynged yr Iaith’).


Erbyn hyn, mae dyfodol yr iaith yn fwy sicr. Mae gan siaradwyr Cymraeg hawliau cyfreithlon, mae galw am addysg gyfrwng Gymraeg wedi cynyddu, ac mae llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Ac i roi persbectif: mae’r Gymraeg ymhlith y 10% o ieithoedd gyda’r mwyaf o siaradwyr dros y byd i gyd. Felly oes angen bellach am storïau am ddyfodol yr iaith?


Er bydd y Gymraeg yn parhau am flynyddoedd eto, mae’r gofidion yno o hyd. Wrth i ni nesäu at 60 mlynedd ers araith “Tynged yr Iaith”, beth ydy’r cam nesa i’r Gymraeg? Mae nofelau fel Babel (Ifan Morgan Jones) ac Iaith y Nefoedd (Llwyd Owen), a cherddoriaeth fel Mirores (Ani Glass) yn peri i ni ofyn sut ddyfodol fydd i Gymru a’r iaith. Yn Llyfr Glas Nebo (Manon Steffan Ros), mae diwedd y byd yn gorfodi mam a’i phlentyn ystyried y Gymraeg yn fwy personol, a gofyn pam bod eu tafodiaith nhw mor wahanol i Gymraeg y llyfrau. Mae cyfieithiad Saesneg o Wythnos yng Nghymru Fydd ar fin cael ei chyhoeddi, ac mae cylchgrawn ffug-wydd o Gymru yn cael ei lansio. Mae’n amlwg fod ’na ddiddordeb llenyddol yn y pwnc, ac rydyn ni’n credu bod lle i ymchwilwyr ieithyddol helpu i ysbrydoli mwy o storïau eto.


Ieithyddiaeth yw gwyddoniaeth iaith. Ein swydd ni yw darganfod y rheolau sy’n llywio newid mewn iaith. Mae pob iaith yn newid yn gyson, er bod y newid yn araf. Mae rhai o’r newidiadau yn digwydd ar hap wrth i bobol siarad â’i gilydd a cham-glywed ambell air. Ond erbyn hyn rydyn ni’n gallu gweld bod ieithoedd hefyd yn *addasu*: yn debyg i’r broses lle mae rhywogaethau biolegol yn addasu er mwyn goroesi yn eu cynefin ffisiolegol, mae darnau bach o iaith ei hun – seiniau, geiriau, idiomau, cystrawennau – yn addasu er mwyn oroesi yn eu cynefin diwylliannol. Hynny yw, mae ieithoedd yn addasu er mwyn ein galluogi ni i fynegi’r math o syniadau sydd yn dod yn bwysig yn y byd sydd ohoni.


Felly, nid ‘marw’ neu ‘oroesi’ ydy’r unig bosibiliadau ar gyfer dyfodol y Gymraeg: mae ‘addasu’ yn bosib hefyd, ac yn llawer mwy tebyg i ddigwydd. A dyma ansicrwydd newydd yn codi: sut yn union fydd yr iaith Gymraeg yn addasu? Er mwyn ystyried y mater yma, rydyn ni wedi rhedeg prosiect “Iaith yn Esblygu”. Buom ni’n rhannu egwyddorion ieithyddiaeth gydag awduron ffug-wydd (e.e. y fideo yma), ac fe wnaethon nhw ymateb trwy ysgrifennu storïau ar gyfer cystadleuaeth. Cafodd y gystadleuaeth ei barnu gan Gwyneth Lewis (cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru ac awdur y gyfrol o gerddi, Treiglo), a ‘Rhyngwyneb’ gan Ian Richards a ddaeth i’r brig.


Mae stori Ian Richards wedi’i hysgrifennu mewn fersiwn bosib o Gymraeg y dyfodol, pryd mae treiglo wedi darfod. Sioc yw darllen Cymraeg o’r fath – mae’n darllen fel Cymraeg ‘anghywir’ ar y dechrau, fel petai’r Gymraeg wedi dirywio. Ond nid yw ieithyddion yn gweld pob newid fel dirywiad: mae rhai newidiadau yn addasu’r iaith i fod yn fwy effeithlon neu’n fwy priodol i’w siaradwyr. Mae rhaid cofio bod ’na gyfnod yn hanes iaith pobol Cymru pryd nad oedd treiglo’n bod; ac wedyn cyfnod pryd roedd y rheolau’n weddol syml (yn dibynnu’n unig ar sŵn olaf y gair blaenorol). Dros y canrifoedd, fe wnaeth genedlaethau newydd ail-ddehongli’r patrwm a chreu rheolau gwahanol. Mae’r broses yn parhau o hyd, gyda’r newid yn cael ei lywio gan y genhedlaeth newydd o siaradwyr. Yr awgrym yw bod ieithoedd mwyaf y byd (Saesneg, Mandarin, Sbaeneg) yn addasu i helpu’r nifer mwyaf posib o oedolion eu dysgu, ac yn newid yn bwrpasol er mwyn gwneud hynny. Er enghraifft, roedd gan yr Hen Saesneg fath o dreiglo ar un adeg, ond mae hynny ac elfennau cymhleth eraill wedi diflannu erbyn hyn.


Felly mae “Rhyngwyneb” yn gofyn i ni feddwl am natur a phwrpas ein hiaith. Fyddwn ni’n hapus i’r Gymraeg newid petai hynny’n gwarantu gwell siawns iddi oroesi? Fydd colli treigliadau’n ddirywiad neu’n addasiad? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng traddodiad gwerthfawr ac arferiad hen-ffasiwn? Fydd technoleg yn ehangu neu’n cyfyngu dyfodol y Gymraeg? Allwn ni dychmygu’r Gymraeg fel iaith fyd-eang? Ffug-wyddoniaeth yw stori Ian Richards, ond mae sail iddi yng ngwaith ymchwil go iawn ar effeithlonrwydd ieithoedd gwahanol, ac ar gyfathrebu o feddwl i feddwl yn uniongyrchol.


Rydyn ni’n awyddus i glywed eich ymateb chi i’r stori ac i’r syniadau sy’n sail iddi. Gallwch chi ddarganfod mwy am y prosiect, yn cynnwys sut i gysylltu â ni er mwyn trafod ieithyddiaeth, ar ein gwefan: https://correlation-machine.com/IaithYnEsblygu.html


Cyhoeddir 'Rhyngwyneb' gan Ian Richards ar wefan Y Stamp yfory! Llongyfarchiadau gwresog iddo ar ei lwyddiant.

58 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page