top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Ysgrif: Llechen lân- Heather Williams

Llun o hen do llechi gyda mwsog a chen arno

Llygaid newydd sydd eisiau er mwyn darganfod. Waeth inni heb â theithio i Fenws neu Fawrth i gyrchu’r newydd a ninnau heb gyfnewid ein llygaid am rai newydd. Dyna oedd gan Marcel Proust i’w ddweud am deithio, yn ei gampwaith o nofel am dreigl amser: Ar Drywydd Amser Coll. Diosg y blynyddoedd yw’r gamp, y blynyddoedd trwm hynny o dderbyn, ac o fwrw ymlaen nes methu gweld llais a chlywed llun. Wedi syrthio i ddealltwriaeth saff y stori roeddwn innau hefyd, stori ddall am y croeso yn ein tirwedd, am brofiadau amgueddfaol a theuluol, ac am gyffro’r atyniadau eithafol: gwisgwch fel tywysoges, gwifren-wibiwch am filltiroedd uwch ffug fynyddoedd o lechi gwastraff, bownsiwch am eich bywyd mewn ceudwll cudd. Diolch Slate Mountain. Nes imi ddychwelyd i Flaenau Ffestiniog gyda phlentyn a llond fy mhen o ysgrifau’r gorffennol.

Nid llwyd neu ddu oedd hi’r bore hwnnw ym Mlaenau Ffestiniog, ond disgleirwyn. Oblegid nid glaw a ddisgynasai’r noson gynt ond trwch o eira glan fel dalen wen yn ysu am i’r inc newydd ei deffro. Wedi bod yn casglu ffeithiau am y lle yr oeddwn, diolch i ysgrifau’r gorffennol, fel fy mod yn medru datgan bod yr eira claerwyn yn cuddio tirlun ffuantus a ffurfiwyd o’r 90% o’r llechen a wastreffid yn y broses ddiwydiannol. Brysio allan o’r car a ffurfio pelen eira oedd ymateb fy merch naw oed, oherwydd anaml bydd eira’n disgyn yn Aberystwyth. Roedd plant yn gweithio yma, plant naw oed, dyma fi’n trio eto, gan droi at ddisgrifiadau Mr Smyers, ymwelydd Ffrangeg â’r ardal yn 1858. Mae twr o blantos sydd wrthi’n gwthio wageni gweigion yn rhedeg ar hyd y lefelau hyn gan ddatgan eu llawenydd yn swnllyd, meddai Smyers. Yn wir, dyna roddai ystyr i’w bodolaeth! Ymddengys, o weld wynebau llewyrchus a llawen y cythreuliaid bach, eu bod wedi eu darbwyllo: gan iddynt gael eu geni yn y mynyddoedd llechi hyn mai eu dyletswydd oedd gweithio yno hyd eu marwolaeth. Ond gallech feddwl ei fod yn gwylio plant heddiw gyda’u peli eira, oherwydd fe ddisgrifia’r plantos fel grwp o fwncïod yn chwarae ar ganghennau coeden mewn fforest ddofn. Ond does bosib! ‘Uffern’ yw gair arall yr un teithiwr am Flaenau Ffestiniog, ac roedd Smyers yn arsylwr profiadol a phroffesiynol, yn gyfarwydd â chwarelau Ffrainc a Gwlad Belg, ac wedi dod i ogledd Cymru i ddarganfod natur y diwydiant llechi ar ran cwmni Ffrengig. Mae gwerth inni dalu sylw i’w farn felly, ag yntau mewn sefyllfa i gymharu, ac wedi gadael cofnod manwl iawn iawn yn ei lyfr Essai sur l’État actuel de l’industrie ardoisière en France et en Angleterre (Paris, 1858).

Y syniad cyntaf ddaw i’w ran yw ei fod wedi cyrraedd pyrth uffern, gyda sŵn yn dod o bob cyfeiriad! O bell, meddai, ymddengys y dair chwarel at ei gilydd yn ddim byd ond mynydd creigiog a hesb. Ond os ewch chi i’r ponciau tanddaearol sydd oddi mewn, byddwch yn syfrdan o flaen beiddgarwch ac anferthedd y gwaith a wnaethid yno: mae yno chwe chant yn gweithio’n ddiwyd ar dasgau amrywiol. Anodd dirnad y gwaith sydd wedi digwydd yma, a’r hyn sydd ar ochr fewnol yr hen fynydd diffrwyth yr olwg yw’r syndod. Ychwanega hefyd fanylion technegol a ffeithiau di-ri ar unrhyw beth allai helpu’r Ffrancwyr i gystadlu gyda’r cynhyrchiant Cymreig: disgrifiadau a mesuriadau’r trenau a’u holwynion, cofnod o sawl dyn sydd ei angen i’w gweithio, a cheir ganddo ddisgrifiad gwych o’i daith syfrdanol ar y trên arbennig sy’n mynd yr holl ffordd i Borthmadog ar ddisgyrchiant yn unig. Wedi dringo i ben un o’r trenau hyn, meddai, fe deithiodd o’r chwareli hyd at y porthladd, gan ryfeddu at feiddgarwch y fenter. Rhedai’r cledrau mor agos at y dibyn mewn mannau nes gwneud ichi erfyn ar i’r trên beidio disgyn dros ymyl y mynydd oedd mor frawychus o uchel. Mewn mannau eraill roedd swmp ac uchder aruthrol y mynydd wedi’i gwneud hi’n amhosib i fynd o’i amgylch, ac felly rhaid oedd treiddio i’w grombil ar hyd twneli sy’n sawl milltir o hyd, a hynny ar gyflymder tebyg i reilffyrdd Ffrainc. Ond rhy gyfyng, ym marn y Ffrancwr, yw’r llwybrau naid arswydus hyn trwy galon craig eithriadol o galed, oherwydd tra’n eistedd ar ben un o’r wagenni llechi, trawodd ei het yn erbyn to o garreg, a bu ond y dim iddo gael ei fwrw ymaith! Teimlai Mr Smyers druan yn ffodus na chafodd ddim mwy na llond twll o ofn ar ei antur danddaearol. Heb yn wybod iddo fe gofnododd dalp o hanes, oherwydd stwffiwyd ceg y twneli â chreigiau tua chanol yr ugeinfed ganrif er mwyn creu cronfa ddŵr Tanygrisiau, ac aiff neb yno eto.

Caiff Smyers ei wahodd i gartref un o’r gweithwyr ym Mlaenau Ffestiniog: pen-gweithiwr, neu contre-maître, ac er nad yw’n glir sut lwyddon nhw i siarad â’i gilydd, mae’r Ffrancwr yn falch dros ben i dderbyn y gwahoddiad oherwydd gwêl yma gyfle i gael atebion i nifer o’i gwestiynau. Yr unig drafferth yw ei fod yn cael cymaint o sylw gan deulu’r Cymro nes ei fod yn teimlo embaras. Cynigir iddo fara gwyn iawn, ond un sydd heb godi rhyw lawer (fel sy’n nodweddiadol o fara Saesneg, meddai), ac yna menyn, caws, a llaeth. Pan awgryma wrth ei westeiwr yr hoffai ddiod wahanol os yn bosib, dyna syrpréis pan ddaw hwnnw â dŵr ato! Wrth weld syndod y Ffrancwr esbonia’r dyn mai dirwestwr ydyw, a bod cwrw, gwinoedd a gwirodydd wedi eu gwahardd o’i dŷ. Dywed Smyers iddo fyfyrio’n hir ar hyn cyn penderfynu y buasai’n well ganddo, mewn gwirionedd, weld Cymru yn allforio’r syniad hwn i Ffrainc yn hytrach na’i chynnyrch llechi. Nid pawb sydd mor ddifyr â Smyers, ac mae rhai disgrifiadau taith o’r cyfnod yn sych grimp gan ystadegau a ffeithiau.

Rhoi hwb i ddiwydianwyr Ffrainc oedd nod rhain, ar adeg pan oedd y ras gyfalafol ar ei hanterth, trwy geisio dadansoddi ac esbonio llwyddiant economaidd ysgubol Prydain Fawr yng nghalon Cymru. Cymhelliad tra gwahanol oedd un Alfred Erny. Chwiliai’r Celtgarwr hwn ym mynyddoedd Cymru nid am drysor i’w ddwyn fesul wagen, ond yn hytrach am arlliw o seiliau Celtaidd, neu Galaidd Ffrainc. Cilio i arallfyd Celtaidd a wna Erny wrth deithio tua gogledd Cymru. Yn Nolbadarn, tŵr crwn yn arglwyddiaethu ar ddau lyn, ble cadwyd Owen Goch yn gaeth gan ei frawd Llywelyn ein Llyw Olaf rhwng 1255 ac 1277, clyw gri’r carcharor ar y gwynt wrth i’r tirlun fwrw ei dristwch ar ffurf cân o’r tu hwnt i’r bedd. Yn nhaithysgrif Erny, ‘Voyage dans le pays de Galles’ (Paris, 1867) yr arallfydol sydd hyd yn oed yn gyfrifol am ffyniant economaidd, oherwydd mai’r bodau bach tanddearol, y Cnocwyr a arweiniodd y bobl at ddarganfod mwynau gwerthfawr eu bryniau, trwy i’r bobl glywed eu morthwylion bach diwyd, wrth eu cannoedd. Rhaid parchu’r rhai sy’n dal cyfrinachau’r mynydd.

Eithriadau yw’r Ffrancwyr a ddeallai ddiwylliant Cymru yn iawn, a Llydawyr yw’r rheiny fel rheol. Daeth Taldir i Gymru yn un o ddirprwyaeth o bump ar hugain o Lydawyr a fynychodd seremoni ryng-Geltaidd newydd yn Eisteddfod Caerdydd 1899, sef uno dau hanner cleddyf wedi’i hollti ar ei hyd fel symbol o undod y Brythoniaid o’r ddwy ochr i’r Môr. Bardd Llydaweg a ddysgodd Gymraeg ac a gyfrannodd erthyglau i Gymru’r Plant, oedd Taldir, neu Jaffrennou. Diwylliant a barddoniaeth yw Blaenau Ffestiniog iddo ef, nid cyfalafiaeth a diwydiant, a daeth yno er mwyn ymweld â rhieni ei gyfaill John Edwards, Pwyntil Meirion. Pan mae pobl Blaenau Ffestiniog yn chwerthin am ei drowsus mawr Llydewig, gall eu hateb yn Gymraeg! Pleser i Taldir yw derbyn dau lyfr yn anrheg gan llyfrwerthwr o’r enw Alun Jones, a chaiff gyfle hefyd i gwrdd â’r beirdd Barlwydon a Bryfdir, gan synnu at yr holl gadeiriau a choronau yng nghartre’r olaf.

Ond ychydig iawn o flynyddoedd yn ddiweddarach gwelodd Firmin Roz hi’n wahanol yn Sous la couronne d’Angleterre. L’Irlande et son Destin: Impressions d’Ecosse au pays de Galles (Paris, 1905). Roedd yr hanesydd o Limoges yn dipyn o ôl-drefedigaethwr, a welai ormes y Saeson ym mhob cwr o dirwedd Cymru, yn enwedig yn ei chestyll, nad oedd yn ddim byd ond creiriau hardd a rhamantaidd i gynifer o’i ragflaenwyr. I Roz ymgorfforiad o oresgyniad yw Castell Caernarfon. Ond ym Mlaenau Ffestiniog daw rhyw niwl oesol amdano wrth i’r trên sy’n ei gludo droelli’n dynn trwy galon Gwynedd. Ar ei daith trwy goedwig ddyrys mae’r hynaf o drenau bach yr ardal yn pipo oddi fry, dros ddyffryn gwyrdd, a’r rhiw yn disgyn yn blwm oddi tano, cyn cyrraedd y tir cras, caregog, llwydaidd a dod i stop yng nghanol chwalfa o greigiau. Fyddai Roz ddim wedi teimlo tamaid yn fwy dryslyd, honna, pe bai wedi dod oddi ar y trên ym Mhegwn y Gogledd neu hyd yn oed ar wyneb y lleuad. Doedd e erioed wedi dod wyneb yn wyneb â’r fath newydd-deb. Yn wir, yr unig beth oedd yn lled gyfarwydd yma oedd y cledrau a’r wagenni bach gwag, ond bod y rheiny, hyd yn oed, yn ymddangos yn rhyfedd gyda rhesi o rywbeth tebyg i stribedi o lafa wedi’i pentyrru yn gefnlen. ‘Ydyn ni wedi glanio ar blaned anghyfannedd a rhewllyd?’ ebycha. Na, dim ond yng nghanol y chwareli a’r niwl. Ac am niwl. Rhyw niwl sydd wedi ei chwilfriwio yn law mân, pŵl, difesur, sy’n troelli a chofleidio llethrau chwarel. Glaw sy’n rowlio ar hyd y cymoedd, yn plymio i’r ceunentydd, gan chwipio’i gynffon o’i ôl, nes pylu’r llinellau, eu celu gan foddi’r olygfa ryfedd. A’r uchelderau wedi’u llyncu gan ryw niwl llethol, mae’r awyr yn donnau a’r cwbl yn ddafnau.

Un arall sy’n pwysleisio’r glaw yw’r Llydawes Annaig Renault a ddisgrifiodd ei dau ymweliad yn y 1990au yn ei llyfr dwyieithog Carnet de Voyage = Karnedig beaj (Spézet, 2004). Mae hi ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Tachwedd, ac yn gweld trwy’r glaw bentref rhithiol a ailgrëwyd ar gyfer twristiaid. Llygaid cenedl fach arall a ormeswyd sy’n caniatáu iddi weld y cyni yn y tirlun ôl-ddiwydiannol, a llygaid yr awdur a’r academydd yn cynnig golwg ar dwristiaeth o safbwynt iaith leiafrifol.

Profiad rhyfedd y bore hwnnw oedd mynd o dan yr eira ac i mewn i’r mynydd gyda fy merch naw oed. Llithro’n ddiymdrech trwy’r haenau tynn o hanes, y canrifoedd o wasgu, cyn ymgyfarwyddo â golau gwan ein lamp, a dilyn ein tywysydd araf i’r ceudwll. Cyfieithais yn llechwraidd yn ei chlust, esbonio mai llechi o’r fan hyn sydd (oedd) ar y tai yn Aberystwyth, bod llechi o’r fan hyn yn cyrraedd pen draw’r byd ar longau o Borthmadog, mai capten llong oedd perchennog cyntaf ein tŷ ni. Esboniais yn dawel mai anodd oedd torri trwy’r graig, ac am y morthwylio, yr hyrddio, ac yna’r ffrwydro. Am y damweiniau, y streicio a’r gweithio. Mai stordy ar gyfer caws Hufenfa De Arfon geir yma nawr, ie y caws sy’n cyrraedd silffoedd Aberystwyth. Yna holais i am y cnocwyr bach. A dyma ymateb yn y tywysydd trist, wrth iddo droi i’r Gymraeg er mwyn adrodd stori’r ysbrydion sy’n troedio’r coridorau tywyll wrth y ferch fach. Un gair yn tyllu’n rhwydd trwy’r haenau o areithiau gwneud, a’r ffeithiau cywir nes bod ddoe yn ffrydio a gorlifo o’r cof. Fel pe bai’r gair wedi ei gludo yn ôl i oes o obaith ac egni, a’r ogof yn fyw eto o fwrlwm cymdeithas. Llawer mwy effeithiol, meddai Proust yn ei nofel, oedd blas y gacen Fadlen fach wedi’i mwydo mewn te perlysiau, i ddarganfod amser coll ei blentyndod na holl ymdrechion gofalus ac ymwybodol y cof.

Tybed a welai hi’r canrifoedd o dristwch yn ei lygaid? Wrth esgyn i’r ddaear gwelais innau’r eira gwyn yn dechrau dadleth fel llygaid llaith.

19 views0 comments
bottom of page