top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Ysgrif- Arwyddo-canu: ffenomenon Byddarclywed- Sara Louise Wheeler


Llun o dair llaw yn arwyddo'r acronym 'BSL' mewn iaith arwyddo Prydain

*Nodyn awdur: Byddaf yn defnyddio termau a sillafu yn yr ysgrif hwn sy’n deillio o faes ysgolheigaidd sy’n ymwneud â byddardod. Megis:

b/Byddar – mae defnyddio b bach yn nodi y statws llythrennol o fod heb clyw neu hefo nam clyw sylweddol. Mae defnyddio B mawr yn nodi’r statws diwylliannol o fod yn Fyddar, megis fod yn Gymraeg; mae’n cael ei weld fel statws hunaniaeth ac ethnigrwydd, gyda Iaith Arwyddo Prydeinig (BSL) fel prif iaith y brodorion.

Byddardod/ Byddaroliaeth: Deafness a Deafhood. Byddardod yw’r statws o fod yn llythrennol fyddar/ hefo nam clyw sylweddol, tra bod Byddaroliaeth yn nodi aelodaeth o cymuned a diwylliant a fod yn Fyddar.

Byddarclywed: Gair a grëwyd gan Donna West i ddisgrifio teuluoedd neu sefyllfaoedd lle mae cymysgiad o aelodau b/Byddar a clywedol, gan weithredu trwy gymysgedd o’r ddwy diwylliant.

 

Dychmygwch eich bod chi mewn amgueddfa ac yn cerdded trwy arddangosfa am fyddardod yn ein byd clywedol. Dyma’r gwahoddiad gawn ganDoctor Paddy Ladd yn ei lyfr arloesol am ‘Fyddaroliaeth’ (Deafhood), sef hunaniaeth ddiwylliannol bod yn aelod o’r gymuned Fyddar.

Yn ei gyfrol cawn ein tywys trwy’r brif neuadd, sydd yn llawn totemau o arferion gormesol hanesyddol a brofwyd gan bobl Fyddar. Fan hyn medrwn gynnwys ffenomenau ysgytiol, megis llawdriniaethau erchyll i dyllu pilen y glust mewn plant byddar, neu arllwys metel poeth i gamlas y glust — y ddau beth yn gweithredu ar y sail fod pobl fyddar wedi eu ‘torri’ mewn rhyw ffordd, a dyletswydd cymdeithas oedd i’w ‘helpu’ nhw i glywed. Medrwn hefyd gynnwys yma hanes addysg fyddar, a fu’n gweithredu ar y sail fod ieithoedd clywedol yn fwy soffistigedig nag ieithoedd arwyddo. Efallai y cawn felly bortread o’r gynhadledd waradwyddus Milan yn 1880, lle cymerwyd y penderfyniad tyngedfennol hwnnw y byddai’n well addysgu plant byddar trwy lafariaeth, gan wahardd ieithoedd arwyddo.

Mewn fersiwn fodern o’r amgueddfa, efallai byddai sgrin fawr yn dangos portreadau o fyddardod mewn ffilmiau, megis ‘Mandy’ — a’r agwedd nawddoglyd tuag at arwyddiaith Brydeinig, gan ganmol canlyniadau arloesol llafariaeth. Fodd bynnag, byddai hefyd yn bwysig cael sgriniau yn dangos pobl fyddar o gyfnod y 1950au ym Mhrydain yma. Gyda’r rheiny yn sôn am fywyd mewn sefydliadau preswyl fel yr un ym Manceinion lle ffilmiwyd ‘Mandy’. Rwyf wedi clywed stori ysmala gan rywun oedd yno ar y pryd, am sut fysa’i un o’r plant yn ‘wyliwr’, tra roedd criw yn ffilmio lawr y coridor — er mwyn i’r plant eraill allu parhau i ddefnyddio arwyddiaith, ac yna switsio nôl i lefaru a darllen gwefus os oeddent yn cael yr arwydd fod rhywun yn dŵad.

Buodd fy modryb yn byw mewn un o’r ysgolion yma yn Lerpwl, gan mai dros y ffin yr oedd plant byddar Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu hanfon. Mi aeth hi ene yn dair oed ac roedd hi’n byw ene am bum diwrnod o’r wythnos, yn cysgu yn y dorms hefo’r plant eraill ym mhell, bell o’i chartref yn Rhosllannerchrugog. Yna bob penwythnos, roedd taid yn gyrru i Lerpwl i’w nôl hi ac roedd hi’n treulio’r penwythnos hefo’i theulu. Yn ieithyddol, roedd bywyd yn lletchwith. Nid oedd pobl glywedol yn dysgu ieithoedd arwyddo, oherwydd yr ideoleg ddominyddol ei fod yn israddol. Roedd plant byddar hefyd yn cael eu hannog i ‘wneud y gorau o’u lleisiau’ a darllen gwefusau, a ddim ond i ddefnyddio ieithoedd arwyddo hefo’u ffrindiau byddar — neu hyd yn oed ddim o gwbl. Yr un rhethreg a hen esgusion gwael a glywir yma, gyda llaw, ag yr ydym yn clywed am addysg Gymraeg od dysgu iaith leiafrifol yn mynd i amharu rywsut ar ddealltwriaeth a defnydd o’r iaith ddominyddol, Saesneg.

Felly dyna le oedd hi, yn hogan fach heb glyw o gwbl, a ddim yn medru deall Cymraeg, yn mynychu’r Eglwys pob dydd Sul ac yn sbïo’n syn wrth i bawb yn y stafell dechrau symud eu cegau ar yr un pryd, fel tasant yn siarad, ond i gyd i’w gweld yn dweud yr un peth, mewn iaith nad oedd hi’n ei ddeall. Yn ôl fy modryb, mi roedd nain yn dangos y llyfr emynau iddi ac yn dilyn y geiriau hefo’i bys — ond yn amlwg roedd yn anodd iawn wneud unrhyw synnwyr o’r sefyllfa. Fedra i ddim ond dychmygu'r dryswch yr oedd hi’n ei theimlo yn y sefyllfa yma, ond mi fedraf ddeall felly pam fod y gymuned f/Fyddar o’r cyfnod hwn hefo teimlad o berthyn mor gryf i’w gilydd ac i’w arwyddieithoedd a diwylliant Byddar.

Mae yna haen arall o dristwch hefyd, wrth feddwl fod ein teulu ni wedi bod yn un mor gerddorol. Yn nheulu taid, roedd naw o blant a bron pawb yn y teulu yn chwarae offeryn gwahanol gyda’i gilydd, mewn band oedd yn chwarae pob nos Sadwrn yn neuadd yr Eglwys, lle fuodd taid fy nhad yn bregethwr lleyg. Pawb yn y teulu heblaw am Trevor, brawd taid, oedd yn f/Fyddar ac yn mynychu ysgol breswyl ym Manceinion. Roedd taid yn chwarae’r trymped a’r ffidil ac roedd yn arweinydd Rhos Silver Prize band;. Roedd nain a’i chwiorydd yn canu yng nghôr yr Eglwys. Ond nid oedd cerddoriaeth o’r fath yn hygyrch i aelodau b/Byddar ein teulu.

Felly efallai y byddwn yn ychwanegu cornel anthropolegol/ cymdeithasegol i’r amgueddfa, yn trafod materion diwylliannol fel hyn — i bobl f/Fyddar, wrth iddynt fyw mewn cymdeithas Glywedol. Mae yna adran arall i’r ystafell, yn ôl Paddy, sydd yn gysgodion o’r dyfodol a’r hyn i ddod — mewnblaniadau cochlea a thechnoleg i drin byddardod ar lefel genetig — i rwygo b/Byddardod o’r tapestri yn gyfan gwbl. Wel, erbyn hyn mae’n ymddangos fod mewnblaniadau cochlea yn effeithlon iawn ac mae sawl unigolyn b/Byddar wedi dewis ei chael nhw fel oedolion gan gynnwys, yn ddiweddar iawn, fy nghefnder, sydd wedi bod yn fyddar gydol ei oes ac wedi ymgymryd â diwylliant Byddar ac Arwyddiaith Brydeinig.

Mae technoleg fel hyn yn medru cynnig dewis i unigolion, sydd yn wastad yn beth da. Fodd bynnag, mae’r triniaethau ar yr ochr fwy feddygol yn llai apelgar i mi. Yn fras, mae’r gyfraith ym Mhrydain wedi ei diwygio, i ddweud os yw cwpl yn trio am faban, drwy IVF, bod yn rhaid dewis embryonau ‘normal’, yn hytrach na’r un ‘annormal’. Byddai hyn yn golygu bod rhai hefo cyflwr sydd yn gallu golygu y bydd y plentyn yn fyddar (megis Syndrome Waardenburg Math 1, yr hyn sydd wrth wraidd y byddardod yn ein teulu ni) yn cael eu rhoi i’r neilltu. Rhaid dweud, mae’r syniad y byddwni, fel embryo, yn cael fy ystyried yn llai dymunol nag embryo arall, braidd yn sarhaus! Ond dene fo, dyna’r sefyllfa bresennol, felly fysa angen cyfleu hyn yn yr amgueddfa hefyd, rhywsut — chi pobl greadigol, heriaf i chi i feddwl am y ffordd gorau o greu’r amgueddfa yma!

Ond yn ôl Paddy, yng nghefn y stafell, gwelwn ddrws, ac uwchben y drws mae’r geiriau ‘Diwylliant Byddar’. Os awn trwy’r drws, cawn weld llond y lle o waith celf hyfryd ym mhob cyfrwng dan haul yn portreadu’r Arwyddieithoedd niferus, yn llawn hiwmor a llawenydd a chariad. Yma byswn yn cynnwys portread o’r Arwyddiaith Frodorol America (American Indian Sign Language - AISL) a gafodd ei ddefnyddio fel Lingua Franca pan ddaeth y llwythi at ei gilydd,. Gan fod cymaint o unigolion Byddar yn eu mysg roedd hyn felly’n fodd Byddarclywed o gyfathrebu y gallai pawb yn gaelmynediad iddi. Byddaf yn sicr o gynnwys cymuned Martha’s Vineyard hefyd, lle, rhwng y deunawfed ganrif tan y 1950au, fuodd Arwyddiaith arbennig yn gweithredu ar yr ynys (Martha’s Vineyard Sign language) eto fel Lingua Franca ac am yr un rheswm.Roedd genyn byddardod wedi lledaenu drwy’r gymuned ac felly roedd canran uchel o drigolion byddar; felly roedd hon, am gyfnod, yn gymuned Byddarclywed gynhwysol, nes i ffactorau o du hwnt i’r ynys ddod a hyn i derfyn.

Mae yna draddodiadau diwylliannol sydd yn benodol i’r gymuned Fyddar, megis barddoniaeth sydd yn ddibynnol ar wybodaeth ddofn o ddiwylliant Byddar a’r Arwyddieithoedd dan sylw i fedru eu deall; nid wyf yn teimlo fy mod mewn sefyllfa i drafod y rhain mewn ffordd byddai’n gwneud daioni iddynt. Ond mae yna hefyd draddodiad Byddarclywed o ‘Arwydd-canu’ y byddaf i’n bersonol, fel rhywun hefo nam clyw a hanes diwylliant Byddar yn fy nheulu, yn hoffi gweld yn yr ystafell greadigol hon. Ddes i ar ei thraws hi gan i fy modryb ddod yn aelod o’r grŵp ‘Wrexham’s Signing Hands’. Grŵp yw hwn a sefydlwyd gan bobl Glywedol a Byddar oedd yn rhan o’r sîn Byddar yn yr ardal.

Ymunais a’r grŵp rhai blynyddoedd yn ôl, pan oeddent yn gwneud gig yn Llangollen. Pan gyrhaeddais, dyna le oedden nhw i gyd, yn eu crysau-t du hefo logo arnynt, yn perfformio caneuon pop i gyfeiliant y caneuon. Wrth wylio, sylwais ar ffenomenau diddorol — megis natur ailadroddus llawer o ganeuon pop — mae’r gair ‘credu’ yn gyffredin iawn, ac wrth gwrs ffenomenau eraill megis cariad, dawnsio a chyfeiriadau at gerddoriaeth. Cyn pen dim, roeddwn wedi ymuno â nhw yn y perfformiad, gan ddilyn yr arweinydd, wrth roi fwy neu lai o bwyslais ar rhai geiriau a nodau, ac wrth ymestyn rhai eraill, i adlewyrchu perfformiad y gan ar lafar. Mwynheais y profiad ac felly ymunais â’r grŵp o ddifri, gan ennyn fy nghrys-t fy hun cyn pen dim.

Wrth gwrs, fel unrhyw Gymdeithasegydd gwerth ei halen, doedd hi ddim yn hir nes i mi droi fy nychymyg cymdeithasegol ar fy hobi newydd, gan ystyried yr hyn yr oeddwn wrthi’n ei wneud. Meddyliais am yr agwedd ieithyddol a diwylliannol, wrth drawsieithu naws y caneuon rhwng Saesneg ac Arwyddiaith Brydeinig — ieithoedd mewn moddoldeb (modality) gwahanol, a chanddynt gramadeg a strwythur sydd ddim yn mappio’n hawdd o gwbl. Yma, felly, yn hytrach na chyfieithu geiriau, mae’n rhaid meddwl beth yw naws y geiriau a cheisio cyfleu, mewn ffordd fydd yn gwneud synnwyr i gynulleidfa Fyddar, yr hyn y mae’r gân yn ei chyfleu.

Yr enghraifft fwyaf diddorol o’r ffenomenon hon, dwi’n meddwl, yw wrth geisio trawsieithu ‘Calon lân’, o’r Gymraeg, wedyn i’r Saesneg, ac wedyn i Arwyddiaith Brydeinig - ew, am her! Meddyliwch am y geiriau ei hunain, yn enwedig y pennill yma:

Pe dymunwn olud bydol,

Hedyn buan ganddo sydd;

Golud calon lân, rinweddol,

Yn dwyn bythol elw fydd.

“Hedyn buan ganddo sydd”? Duwcs doedd gen i ddim syniad wir. Felly dyna le roedden ni gyd yn trafod yr hyn y gall y geiriau ei olygu, gan geisio ei gyfieithu’n llythrennol ac wedyn chwilio am ryw ffordd o gyfleu’r un ystyr, fysa hefyd yn gwneud synnwyr ymarferol (dydy llawer iawn o delynegion ddim!) a fysai’n bosib ei berfformio’n gyfforddus, gan hefyd ffitio i amseriad y gerddoriaeth. Mi wnaethon ni lwyddo gwneud hyn, ac mi roedd Aunty Brenda a finnau’n hapus iawn i fod yn perfformio cân roedd nain ac Aunty Gwladys arfer ei chanu hefo côr yr Eglwys.

Ond hoffwn taswn wedi ei ddysgu’n iawn a chael ei pherfformio fel solo mewn gig - yn anffodus, dyma oedd yr adeg pan roedd gen i brysurdeb mawr yn fy ngyrfa. Ond rwyf wedi crynhoi’r gwahanol themâu ar poster ysgolhaig ar gyfer cynhadledd ar ddwyieithrwydd, a medrwch ei weld ac/ neu ei lawrlwytho yma.

Felly, wrth i ni feddwl trwy gyfrwng y Gymraeg am faterion cyfieithu ar gyfer ‘Mis bach cyfieithu’ Y Stamp, teimlaf ei bod hi’n berthnasol ac yn briodol i ni ystyried y ffenomenon o drawsieithu rhwng dwy o ieithoedd brodorol Cymru. Dyma ieithoedd sydd hefo llawer iawn yn gyffredin, o ran hanes o ormes, agweddau nawddoglyd a chael eu israddio a’u dominyddu gan Saesneg, ac sydd hefyd yn dra gwahanol i Saesneg o ran strwythur. Ond hefyd, wrth gwrs, yn wahanol iawn i’w gilydd, gan ei bod nhw yn ieithoedd mewn moddoldeb gwahanol - un yn llafarol a’r llall yn un ystumiol. Mae’r ddwy hefo treftadaeth falch, sydd dan fygythiad parhaol o ddifodiant, am amrywiaeth o resymau cymdeithasol cymhleth.

Mae yna gysylltiadau rhwng y ddwy, yn enwedig mewn teuluoedd Byddarclywed fel fy un i, lle mae’r ieithoedd lleiafrifol wedi gorfod ennyn eu lle ac wedi, i raddau, gorfod brwydro yn erbyn ei gilydd. Nid yw Aunty Brenda yn siarad na deall Cymraeg, er gwaethaf ei theulu sydd yn Gymraeg i’r carn. Ac nid wyf i, gwaetha’r modd, yn deall hanner digon o Arwyddiaith Brydeinig, er mi dreulio cryn dipyn o’r wythdegau a nawdegau hefo Aunty Brenda draw yn Rhosllannerchrugog . Piti garw ar y ddwy ochr, ond tydy hi byth yn rhy hwyr. Bwriadaf dreulio cryn dipyn o amser nawr yn dysgu am iaith, diwylliant a hanes Aunty Brenda, gan gynnwys ei storïau am sut wnaeth hi ddysgu’r iaith. Hoffwn hefyd fynd ati i drawsieithu llond o ganeuon a barddoniaeth sydd hefo rhyw arwyddocâd teuluol, i mewn i Arwyddiaith Brydeinig, er mwyn cael ei thrafod o hefo hi.

Mae cryn dipyn o sôn yn ddiweddar wedi bod am y Gymraeg fel ‘iaith ddibwys’, ac mae’r agwedd yma wedi bodoli yn hanesyddol tuag at Arwyddiaith Brydeinig hefyd. Daw tonnau newydd o hyn oherwydd y pwyslais newydd ar fewnblaniadau, a’r pryderon ynglŷn â beth ddigwyddith os caiff Arwyddiaith Brydeinig ddeddf iaith ei hun, megis ein deddf iaith Gymraeg; ydy, mae themâu cryf yma am faterion ariannol. Ond i mi yn bersonol, nid yw unrhyw iaith byth yn ‘ddibwys’ ac mae yna gyfleoedd cyffroes yma i fod yn greadigol ac i gael hwyl wrth ddatrys problemau a thaclo heriau. I’r gad!

Llyfryddiaeth/ Darllen Pellach

Bahan, Ben. 2006. “Face-to-Face Tradition in the American Deaf Community: Dynamics of the Teller, the Tale, and the Audience.” In Signing the Body Poetic: Essays on American Sign Language Literature, edited by L. Bauman, H-dirksen, L. Nelson, Jennifer, and M. Rose, Heidi. Berkley, CA: University of California Press.

Darrow, A. 2006. “The Role of Music in Deaf Culture: Deaf Students’ Perception of Emotion in Music.” Journal of Music Therapy 43: 2–15.

Groce, Nora Ellen. 1985. Everyone Here Spoke Sign Language: Hereditary Deafness on Martha’s Vineyard. Cambridge, Massachusetts/ London, England: Harvard University Press.

Ladd, Paddy. 2003. Understanding Deaf Culture: In Search of Deafhood. Multilingual Matters LTD.

Ladd, Paddy, and Harlan Lane. 2013. “Deaf Ethnicity, Deafhood, and Their Relationship.” Sign Language Studies 13 (4): 565–79. https://doi.org/10.1353/sls.2013.0012.

Lane, Harlan, C Pillard, Richard, and Ulf Hedberg. 2011. The People of the Eye: Deaf Ethnicity and Ancestry (Perspectives on Deafness). Oxford: Oxford University Press.

Mackendrick, Alexander. 1952. Mandy (A Crash of Silence in the USA). UK: Ealing studios.

Maler, Anabel. 2013. “Songs for Hands: Analyzing Interactions of Sign Language and Music.” MTO a Journal of the Society for Music Theory 19 (1). http://www.mtosmt.org/issues/mto.13.19.1/mto.13.19.1.maler.html.

Mathur, Gaurav, and Donna Jo Napoli, eds. 2011. Deaf around the World: The Impact of Language. Oxford: Oxford University Press.

Roy, Cynthia B (eds). 2011. Discourse in Signed Languages. Washington DC: Gallaudet University Press.

West, Donna. 2012. Signs of Hope: Deafhearing Family Life. Newcastle upon Tyne: Cambridge Scholars Publishing.

Wheeler, S, L. 2014. “In Celebration of Deafhood.” Sociology 48 (4): 838–44. https://doi.org/10.1177/0038038514532573.

Wheeler, S L. 2012. “Dwylo’n Canu Yn Llangollen!” Y Clawdd, 2012. https://saralouisewheeler.wordpress.com/2012/09/26/dwylon-canu-yn-llangollen/

Wheeler, S, L. 2020. “Dwy Ganrif o Fyddarclywedtopia a Fu.” Medium. https://medium.com/@SerenSiwenna/dwy-ganrif-o-fyddartopia-a-fu-cd736a7c482

Wheeler, S, L., and Wrexham’s Singing Hands. 2016. “Sign-Singing: A Deafhearing Musical Experience.” Poster gynhadledd https://research.bangor.ac.uk/portal/files/16217894/2016_Sign_Singing_Poster.pdf

Daeth llun yr ysgrif o WiciCommons.

20 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page