Enillydd cystadleuaeth Iaith yn Esblygu ar gyfer straeon byrion yn ymwneud ag esblygiad ieithyddol. Gallwch ddarllen mwy am y gystadleuaeth yma. Llongyfarchiadau stampus i Ian!
Rhyngwyneb
O fwriad, nid yw Rhan I y stori’n cynnwys treigladau.
I
Nid oedd neb wedi rhagweld y̶ ̶b̶r̶o̶b̶l̶e̶m̶ y problem (?)
Roedd Huwawei wedi bod yn cysylltu ymenyddiau â peiriannau am dwy blynedd o lleiaf, drwy cyfrwng Tsieinëeg. Dychmygwch rhyw syniad yn dechrau mewn ymennydd ac yn mynd yn syth drwy mewnblaniad i mewn i cyfrifiadur, a bod hyn yn digwydd yn iaith naturiol perchennog yr ymennydd. Gallai’r cyfrifiadur siarad yn di-oed â peiriannau eraill, ac wedyn â pobl eraill sy’n gwisgo’r mewnblaniad. Roedd y system yn gweithio’n iawn hefyd, fel rhwydwaith go iawn o meddyliau. Gallai rhywun meddwl yn naturiol a cyfathrebu dros y byd. Un byd, un ymwybyddiaeth. Nid Apple oedd yr unig cwmni oedd wedi ceisio datrys problem y rhyngwyneb, ond dyna’r unig cwmni yn y Gorllewin sydd wedi llwyddo i gwneud hynny.
Mis Medi oedd hi, a syllai Siwan drwy ffenestri pencadlys Apple yn Iwerddon, draw dros y maes parcio a’r caeau brown llychlyd, tuag at cwlwm o coed derw. Er bod yr adeilad yn enfawr, nid oedd llawer o pobl yn gweithio yno, a gwarchodwyr yn gweithio ger yr adeilad oedd y rhan fwyaf ohonynt. O’u cartrefi y gweithiai bron pawb arall. Sylwodd Siwan bod y coed derw’n marw, heblaw un. Dim ond un coeden gwerdd ymhlith byddin y meirwon. Ni byddai’n rhaid i’r goroeswr rhannu’r dŵr a’r heulwen bellach.
“Pam y coeden ’na?” meddyliodd Siwan. “Ydy honna’n cryfach, neu’n lwcus?”
Dychmygodd Siwan yr un peth yn digwydd yn Cymru. Nid oedd hi wedi bod yno ers dwy blynedd, ond roedd y gwlad yn dal i brownio, yn dal i melynu, siŵr o fod. Ochneidiodd Siwan. Nid oedd digon o pobl wedi gwrando ar y rhybuddion yn y dwy mil a dauddegau.
Teimlai Siwan yn nerfus ac yn ansicr heddiw. Roedd y diwrnod yn un rhyfeddol, gan bod y dyfodol yn y mantol. Efallai bod y dyfodol yn y mantol pob dydd, ond nid fel hyn.
Meddyliodd Siwan am miloedd o gwirfoddolwyr yn eistedd mewn ystafelloedd ac yn gwisgo helmedi, a weiars ymhobman. Yn y canolfan ymchwil yma, yn Iwerddon, y cyflawnwyd y rhan mwyaf o’r llwyddiant ac roedd Siwan yn balch o’r camp eithriadol. Cofiodd hefyd am adeiladau enfawr yn cynnwys miloedd o unedau tebyg, sgwariau tri deg centimetr, pob un yn cynnwys tamaid o stwff fel cig iâr a weiars yn dod ohonynt. Unedau wedi eu pentyrru, unedau byddai’n penderfynu’r dyfodol. Byddai’r unedau’n gwthio ergydion trydanol drwy’r cnawd, miliynau o gweithiau pob eiliad, ac yn cofnodi ymateb y deunydd pinc. Celloedd ymennydd dynol wedi eu tyfu ar cyfer arbrofion oeddynt. Daliai Siwan i teimlo’n anghysurus ynghylch darnau o ymenyddiau’n bodoli tu allan i’r pen dynol. Dywedodd wrthi ei hun na gallai’r cnawd dynol teimlo, na meddwl. Nid oedd neb yno i casglu’r data, wrth gwrs. Âi’r canlyniadau’n syth i mewn i banciau data. Crynai Siwan ambell waith oherwydd hyn, ond dyna’r pris am datblygu IOIO. Dyna oedd enw’r system, sef input-output-input-output, a ynganir fel io-io. Nid oedd yr enw a roddodd y ‘techies’ i’r system yn doniol iawn ond byddai’r pobl cysylltiadau cyhoeddus yn dyfeisio enw clyfar yn y diwedd. Fel Cymraes, byddai Siwan yn dweud Iolo, gan bod y system yn ei hatgoffa o hen gariad o’r enw ’na. Gwyddai Iolo llawer o ffeithiau ond roedd yn eithriadol o plagus.
Roedd yn amlwg y dylai pawb yn y rhwydwaith siarad yr un iaith. Byddai cyfieithu’r meddyliau rhwng un person a’r llall yn rhy araf o llawer. Dyna problem nad oedd mo'i hangen. Roedd yn rhaid i’r byd ffitio’r technoleg, nid y ffordd arall, yn ôl barn y cwmni. Roedd yn rhaid dewis dim ond un iaith, a deuai’r iaith honno’n iaith hanner y byd.
A dyma oedd y problem annisgwyl. Nid oedd pob iaith yn mynd drwy’r rhyngwyneb ar yr un cyflymder. Roedd pawb wedi cymryd mai Saesneg fyddai’r iaith a dewisid. Ond roedd grŵp bach yn defnyddio Sbaeneg fel iaith rhyngwyneb, a câi’r grŵp canlyniadau cyflymach. Gwnaethpwyd profion ar popeth ond roedd y canlyniadau’n cyson. Gweithiai’r system yn gwell yn Sbaeneg nag yn Saesneg. Roedd y gwahaniaeth yn ddigon i effeithio ar holl manylion y system byd-eang. Câi’r drws ei agor i enillion newydd gan pob tamaid o cyflymder ychwanegol drwy’r rhyngwyneb. Bu’r gwyddonwyr mewn penbleth am misoedd, ond yn y diwedd cytunodd pawb nad Saesneg byddai iaith y rhyngwyneb. Chwiliodd y tîm am rhesymau. Roedd geirfa’r iaith Saesneg yn eang ac roedd ynganiad yr iaith yn anghyson. Cytunwyd y gallen nhw lleihau maint yr iaith a newid manylion y gramadeg er mwyn gwella’r cyflymder. Anghytunai rhai â hynny. Dylen nhw newid iaith Shakespeare? Tasai ’na llai o eiriau, ai dim ond am pethau diflas y byddai pobl yn gallu meddwl? Byddai Iolo’n siarad gormod am hyn, ac yn dweud bod “penderfyniaeth ieithyddol” yn rhywbeth go iawn ac y byddai pobl yn mynd yn rhywbeth llai, tasai peiriannau’n cyfyngu ar eu hiaith. Byddai’n dweud yn ddig, “Iaith fel carchar”, gan gofyn i Siwan pwy oedd wedi dweud hynny. Gwyddai Siwan yr ateb yn da, ond byddai hi’n gadael i Iolo ateb ei cwestiwn ei hun. Nietzsche. Dyna pam y gadawodd Iolo’r cwmni, a Siwan yr un pryd. Roedd Siwan yn dal i bryderu am syniadau Iolo, ond nid am Iolo ei hun.
Daeth yn amlwg i’r tîm datblygu y byddai plant yn dysgu dwy iaith yn y dyfodol, sef eu hiaith eu hunain ac iaith y rhyngwyneb. Efallai, yn y dyfodol pell, y byddai pawb yn dysgu dim ond iaith y rhyngwyneb. Byddai’r Almaenwyr yn y tîm yn sôn am der eigensprache, yr iaith naturiol am gysylltu trydanol rhwng eneidiau. Nid oedd yn hawdd dod o hyd i gair gwell na’r gair Almaeneg, nid yn Saesneg o lleiaf. Ond pa iaith oedd der eigensprache? Roedd Sbaeneg yn cyflymach na Saesneg, ac roedd llawer o pobl wedi cymryd mai Sbaeneg byddai iaith y dyfodol nes gwnaethpwyd profion yn Eidaleg. Yn ei tro, roedd Eidaleg yn cyflymach na Sbaeneg, dim ond ychydig, ond yn digon i symud meddyliau yn cyflymach dros y byd.
Dechreuodd y chwilio am yr iaith cyflymaf felly. Ond nid oedd llawer o synnwyr gyda’r holl peth. Aeth y tîm ati i ddarllen erthyglau am effeithiolrwydd ieithoedd, sef mesur pa mor effeithiol yw llif gwybodaeth mewn ieithoedd gwahanol. Yn aml clywid y cwestiwn, “Sawl morffem y munud?” Gan dibynnu ar yr ateb, amnaid neu gwg byddai’r ymateb. Roedd yr ieithyddion wedi cyfrifo’r “pellter ieithyddol” rhwng ieithoedd hefyd, ond roedd gan y rhyngwyneb ei rhesymeg ei hun. Gallai dwy iaith oedd yn tebyg iawn, yn ôl yr ieithyddion, cael eu profi, a byddai un yn mynd yn cyflym drwy’r rhyngwyneb a’r llall yn araf iawn. Roedd gan y gwrthwyneb rhyw math o rhesymeg ond nid oedd e’n amlwg i neb. Ac roedd yn rhaid penderfynu, ac arbrofion, nid theori, oedd yr unig ffordd ymlaen am y tro. Nid oedd y byd yn bodlon aros am eglurhad am y canlyniadau. Dod â’r system ar y marchnad oedd y peth pwysicaf i’r cwsmeriaid.
Hwn oedd cyfnod cyntaf y prosiect, nes daeth pawb yn hyderus i defnyddio efelychiadau cyfrifiaduron. Nid oedd yn rhaid creu adeiladau’n llawn o’r unedau annymunol a’u harogl ofnadwy o cnawd dynol. Gwyddai’r gwyddonwyr digon am ymddygiad y celloedd i’w disodli â rhaglenni oedd yn gweithio mewn cyfrifiaduron cwantwm, diolch byth. Adeiladodd y tîm modelau o ieithoedd, geirfa a gramadeg. Gwnaethpwyd miliynau o efelychiadau, a cafodd pob iaith ei profi. Llifodd meddyliau drwy perfeddion y cyfrifiadur yn pob modd o’u mynegi gan bodau dynol. Meddyliodd Siwan y byddai’r stribynnau pinc wedi eu coginio o canlyniad i cael cymaint o trydan yn mynd drwyddynt, tasen nhw’n dal i defnyddio deunydd yr ymennydd.
Roedd Siwan yn aelod o’r tîm sydd wedi casglu’r data o cannoedd o ieithoedd a’u amrywiadau – Ladin, Sansgrit, ac Esperanto hyd yn oed. Yn y diwedd creodd y tîm rhestr o’r ieithoedd yn ôl eu cyflymder drwy’r rhyngwyneb. O’r rhestr hon y byddai iaith rhyngwladol y dyfodol yn cael ei dewis.
Syllodd Siwan ar y rhestr, ac ar ei hiaith ei hun. Sylwodd fod Cymraeg yn y tri deg iaith cyflymaf drwy’r rhyngwyneb. Chwarae teg iddi, meddyliodd Siwan. Dim yn drwg am iaith mor di-nod yn llygaid y byd. Ond sylweddolodd Siwan nad oedd hyn yn newyddion da i Iaith y Nefoedd. Ta waeth am y nefoedd, yr oedd llai o bobl yn ei siarad ar wyneb y daear pellach. Meddyliodd Siwan pa mor caled yr oedd pobl wedi gweithio i cynyddu’r defnydd o’r iaith Cymraeg. Roedd pob iaith nad oedd ar pen y rhestr o tan bygythiad hefyd, ond roedd rhai mewn sefyllfa cryfach na’r Cymraeg ar y dechrau. Ond iaith Dante, iaith Goethe, bydden nhw’n dechrau dirywio hefyd? Bydden nhw’n diflannu’n llwyr? A beth oedd iaith naturiol y rhyngwyneb? Beth oedd der eigensprache? Gwenodd Siwan wrth iddi edrych ar ben y rhestr, er y gwyddai’r ateb eisoes. Portiwgaleg. Portiwgaleg? Byddai Brasil yn bodlon.
Nid oedd Siwan yn pwysig iawn yn y cwmni, ond hi oedd yn gwirio’r data am y tro olaf, cyn y cyfarfod terfynol, lle byddai Portiwgaleg yn cael ei cadarnhau fel iaith y rhyngwyneb. Byddai llywodraethau’n protestio, wrth gwrs, ond yr hyn y mae Apple yn ei dweud – dyna bydd y dyfodol. Roedd Google a Tesla wrth sodlau Apple, a gwyddai pawb yn Apple eu bod yn ymwybodol o problem yr iaith. Ond roedd system Apple yn gweithio a byddai’r cwmni’n rhyddhau’r technoleg, ac wedyn byddai pobl yn dechrau symud i Portiwgaleg er gwaethaf unrhyw gwrthwynebiad, a dyna pŵer y cwmnïau byd-eang. A’r holl beth o canlyniad i ergydion trydanol drwy darnau o gnawd dynol!
Gwyddai Siwan bod y tîm wedi ceisio tacluso’r Cymraeg mewn ffyrdd megis cael gwared â ffurfiau lluosog anghyson ac addasiadau amrywiol i ceisio symud meddyliau Cymraeg yn cyflymach drwy’r system. A dweud y gwir, nid oedd y Portiwgaleg a enillodd heb ei newidiadau. Ond dyna’r diwedd iddi, meddai Siwan wrthi ei hun. Os byddai Siwan yn cael plant, bydden nhw’n siarad Saesneg, Cymraeg a Portiwgaleg. Byddai ei gorwyrion yn siarad dim ond Portiwgaleg, yn ôl pob tebyg.
Yn ei meddwl, gwelodd Siwan dysgwyr Cymraeg mewn dosbarthiadau, wrthi’n defnyddio’u rhyngwynebau naturiol, sef darllen, ysgrifennu, siarad, a gwrando. Mae synnwyr y corff yn modd araf o symud gwybodaeth i mewn ac allan o’r meddwl, meddyliodd Siwan. Ystyriodd pa mor anodd oedd dysgu’r iaith ac arhosodd yn sydyn.
“Be’ sy mor anodd i dysgwyr?” meddai o tan ei gwynt.
Adleisiodd y cwestiwn yn pen Siwan. Cofiodd ei hun yn yr ysgol, yn ymdrechu i siarad “Cymraeg Da”. Methai Siwan yn aml, a teimlai cymaint o cywilydd pob tro, wedi ffaelu siarad ei iaith ei hun yn gywir. Gwyddai’n iawn lle roedd y problem.
Trodd Siwan i wynebu’r sgrin ac ynganu gorchmynion i’r cyfrifiadur. Edrychodd ar cyfnodau’r profion blaenorol, yn chwilio am rywbeth. Ni daeth o hyd i’r hyn yr oedd hi’n edrych amdano. Ystyriodd am munud a tapio’i bysedd ar y desg.
‘Grammar listing,’ meddai Siwan yn ei llais clir ar cyfer siarad â’r cyfrifiadur.
Ymddangosodd testun mewn llinellau wedi’u rhifo.
‘Scroll.’
‘Stop ...Turn off twenty eight. Scroll.’ Aeth heibio’r testun ar y sgrin.
‘Stop ...Turn off fifty one. Scroll ... Stop.’
Petrusodd Siwan. ‘Stop ... And turn off one hundred and thirty.’
Gwiriodd Siwan bod y llinellau wedi diflannu o’r sgrin.
‘Simulate.’ Nid oedd swydd Siwan o dosbarth digon uchel i rhedeg efelychiad, ond roedd wedi benthyca cyrchfraint ei hen cariad Iolo, pan adawodd y cwmni, a doedd neb wedi sylwi.
Roedd y cyfrifiadur cwantwm yn rhyfeddol o cyflym. A dweud y gwir, roedd ei cyflymder yn trafferthus. Ymhen pum munud, roedd y peiriant wedi ystyried pob agwedd o iaith sydd wedi datblygu dros canrifoedd. Myfyriodd Siwan ar y canlyniadau. Roedd y cyfrifiadur wedi asesu pob mynegiad o’r iaith a’i cyflymder drwy’r rhyngwyneb.
Efallai y byddai’n bodlon tasai’r efelychiad wedi bod yn arafach. Gallai Siwan dweud ei bod wedi rhoi cynnig arni, ond roedd y data’n clir. Roedd yr efelychiad yn cyflymach yn Cymraeg na Portiwgaleg.
Syrthiodd Siwan yn swp i’w cadair a syllu ar y nenfwd, wrth iddi ceisio deall y sefyllfa. Tasai hi’n newid yr iaith, âi’r iaith yn cyflymach drwy’r mewnblaniadau. Tasai hi’n newid yr iaith, byddai’r heniaith yn goroesi, efallai. Ond byddai’r iaith wir yn goroesi? Ai’r un byddai’r iaith neu a byddai’n rhywbeth gwahanol?
Roedd Siwan wedi drysu gan mai hi oedd i wneud penderfyniad mor bwysig.
‘Ydy hi’n Cymraeg o cwbl?’ meddai Siwan wrthi ei hun yn meddylgar.
Daeth geiriau o rhyw hen cerdd iddi, “Ac yn eu lle cael bratiaith fas”. Dim ond dyrnaid o geiriau ohoni allai Siwan eu cofio, ond cerdd am marwolaeth y Cymraeg oedd hi. Neu diraddio’r Cymraeg? Ydy’r cerdd yn dweud bod diraddio’r iaith yr un fath â marwolaeth yr iaith? Ni cofiai Siwan. Roedd yr holl peth mor cymhleth.
Tybiai Siwan bod rhai agweddau o’r iaith wedi diflannu yn y gorffennol, ond ni gallai meddwl am esiampl. Mae ’na ffin rhwng Cymraeg a dim-Cymraeg, meddyliodd, ond ble mae hi? A hefyd, os ydy’r Cymraeg yn parhau, byddai rhyw iaith arall yn marw, heb os. O’i cadair syllodd Siwan ar y derwen gwerdd a oedd yn goroesi, yr un sy’n dal i tyfu. Siglai ei canghennau yn yr awel gynnes. Roedd rhai o’i dail yn melynu er mai gwyrdd oedd ei golwg cyffredinol. Yn y gwanwyn byddai’r gwyrdd yn dod yn ôl yn llifeiriant, er y byddai’r coed derw eraill yn dal i fod yn brown.
Penderfynodd Siwan ysgrifennu rhywbeth er mwyn gweld Cymraeg y dyfodol am y tro cyntaf. Penderfynodd y dylai hi ysgrifennu’r geiriau’r cyntaf yn yr iaith newydd yn yr hen dull. Chwiliodd o cwmpas y swyddfa a ffeindio papur a beiro, er bod y rhain yn prin erbyn hyn. Ysgrifennodd am tua hanner awr.
II
Syllodd Siwan ar y dudalen a dechrau darllen: “Nid oedd neb wedi rhagweld y problem. Roedd Huwawei wedi bod yn cysylltu ...”
Teimlai Siwan yn anghyfforddus am y geiriau “y problem”.
“Y problem, y broblem,” meddai wrthi ei hun sawl gwaith. P’un ohonynt oedd yn gywir? Roedd Siwan yn tueddu at ‘y broblem’, ond oedd hi wedi clywed pobl yn dweud ‘y problem’? Roedd sŵn ‘y problem’ yn gyfarwydd iddi hefyd. Beth oedd ‘bod yn gywir’, felly? Ac nid oedd gan Siwan unrhyw ateb i’r cwestiwn.
Sgriblodd, “Mae Siwan yn pert. Mae Siwan yn clyfar.” Wedi iddi feddwl rhagor, croesodd y brawddegau allan. Efallai y byddai’r tudalennau’n dod yn ddogfen hanesyddol rywbryd. Wedi meddwl eto, ychwanegodd, “Ni ddisgrifiodd Siwan ei hun gan mai amdani ei hun roedd hi’n ysgrifennu.”
Amneidiodd Siwan wrthi ei hun ac ymbaratoi am funud. Yna cododd ei hysgwyddau a dechrau arddweud neges e-bost.
Sorri, Brasil.
Gwenodd Siwan gan feddwl bod yn rhaid iddi ysgrifennu yn Saesneg er mwyn ceisio arbed y Gymraeg. Nid oedd hi’n sicr y byddai’n llwyddo ’chwaith.
‘I have re-run the simulations for language ISO 639-3 (Welsh/Cymraeg). I have made alterations as per previous experiments [see 07012057 Runs 21–29]. In addition I suppressed another feature of the language, initial consonantal mutations, or “treigladau”, as they are known in the language itself. The result was significantly faster in the interface process ...’
Comments