top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

24:24/2 | Trwy lygaid gwydr - Gareth Evans-Jones

Dyma gynnyrch ail awr 24:24, prosiect creadigol 24 awr Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma. Gareth Evans-Jones fu'n ysgrifennu mewn ymateb i waith Esyllt Lewis ac Iestyn Tyne.


Trwy lygaid gwydr


Dy glywed di’n sisial yn dy gwsg a’m deffrodd. Synau bach yn blu wedi breuo. Troais atat. Roeddet ti mor heddychlon, yng nghanol dy freuddwydion. Mentrais estyn llaw a chyffwrdd dy dalcen. Dy groen gwyn, gwynnach na gwyn. A mwytho. Mentro’r mymryn lleiaf. Cribo’r cudyn coch o dy lygad. Symud fy llaw wedyn yn araf bach at dy rudd. Y wawr o wrid yn batrwm bach twt. Gwingodd dy lygaid bryd hynny a gwnaethost geg gam. Tynnais fy llaw yn ôl ac arhosais felly am ennyd, wedi cloffi rhwng dau feddwl, ac ofn wedi fy sodro i’r llawr. Gwingaist fymryn bach eto cyn llonyddu drachefn. Eisteddais innau’n ôl yn y gadair gyferbyn. A gwylio. Gwrando. A’m meddwl yn effro, yn gwibio o un dim-byd i’r dim-byd-arall. Yn bwdin reis o beth.


Dy wefusau oedd yr hyn a sylwais arnyn nhw’n gyntaf. Y ddau’n betalau-rhosyn-o-feddal. Ond prin fyddet ti’n gwenu bryd hynny. Byddai’r petalau rhosyn yn wlyb gan law dy fyd. Dy lygaid yn bŵl. Dy sgwrs yn brin. Bryd hynny. Ond wedyn, dyma ti’n fflonshio. Yn altro. Yn tyfu. Ninnau’n cyd-dyfu. Yn cyd-dynnu. Yn cyd-garu.

Tybed?


Edrychaf arnat rŵan. Y dillad gwely’n codi ac yn gostwng yn donnog. Ac mae gwylan yn clegar tu allan yn rhywle. Haul. A heli. A hwyl. A hyn. Rŵan. Rwyt ti’n gwingo eto, y mymryn lleiaf.


Edrychaf ar y cloc wrth dy wely. 21:37.


Well imi ei throi hi, beryg.

Codaf. Mentraf atat. Estyn llaw i fwytho dy ben.


Faswn i’n gwneud rhywbeth i weld y llygaid yna rŵan. Y llygaid-lliw-gwydr. Llygaid gweld heb edrych. Y llygaid llawn.


Plannaf gusan ar dy dalcen. Ac edrychaf eto.

*

Panad a brechdan ham wedi sychu sy’n fy nisgwyl adref. A hithau hefyd.


-----


Awdur, dramodydd a darlithydd Astudiaethau Crefyddol o Ynys Môn ydi Gareth Evans-Jones. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018 ac mae ei ddrama ddiweddaraf, Adar Papur, ar gael i'w gwylio'n ddigidol.

105 views0 comments

Recent Posts

See All

コメント


bottom of page