I
Nanw wastad yn cadw a chasglu darnau o rhyw hen sgrapiau defnydd. Tamaid o grys, neu glwt, sgwaryn o sgert. Rhubanau oddi ar anrhegion, tamaid o liain bwrdd. Roeddent yn blith draphlith yma a thraw o gwmpas y tŷ, a Bet a Harri yn mynd yn ddiamynedd braidd.
'Pam ydach chi'n cadw'r holl 'nialwch yma, Nanw?'
'Ia ond pam?'
Rhyw fwmian rhywbeth amhendant wnâi Nanw bob tro. 'Wbath.' 'Dwi'm yn gwbod eto.' 'Am bod.' Weithiau byddai Bet yn bygwth eu taflu – 'er mwyn tacluso' neu 'i wneud mwy o le', ond gwrthodai Nanw bob tro.
Tybiai Harri bod gan Nanw rhyw gynllun, ac felly holai:
'Beth y'ch chi am wneud efo nhw?'
Crychu ei hysgwyddau wnâi Nanw - doedd hi ddim yn gwybod wir. Roedd hi jest yn hoffi eu casglu, a dyna'r oll, a falle rhyw ddiwrnod byddai'n gwybod, ac falle nad.
Weithiau ceisiai pobol ddyfalu.
'Rhyw fath o wisg?'
'Rhyw fath o ddarn - celf neu rhywbeth?'
Ond doedd Nanw ddim yn celu nac yn cuddio dim byd – wyddai hi ddim yn y byd pam roedd hi'n casglu'r carpiau yma, dim ond ei bod hi'n hoffi eu lliw, neu eu siâp, neu'r ffordd roedden nhw'n teimlo rhwng ei bysedd, neu yn erbyn ei boch.
Weithiau byddai hi'n meddwl trio rhai o'r awgrymiadau – 'beth am wneud ffrog?', a byddai'n dechrau llunio rhyw gynllun – sgetsys ar gefn amlen, a'r rheiny wedyn yn esblygu i fod yn ddiagramau ar gefn rholyn papur wal. Ond ar ôl rhyw bythefnos, byddai'r lluniau yn cael eu rhwygo i fyny, a Nanw'n lluchio'r gweddillion clwyfedig i mewn i'r bin sbwriel er mwyn i'r lori ludw eu casglu.
Ond un diwrnod, pan oedd hi'n hen iawn, estynnodd Nanw edau cotwm a nodwydd o'i bocs gwnїo, a dechrau gwnїo. Dewisodd ddau ddarn o'r carpiau – er nad dewis oedd e, y cwbl wnaeth hi oedd estyn am ddau ddarn a ddigwyddai fod yn agos at ei chadair, a dechreuodd wnїo, ac wedi iddi orffen, teimlodd ei ffordd drwy'r bag am ddarn arall a'i ychwanegu i'r darlun, ac yna un arall ac un arall. Roedd hi fel person dall yn teimlo'i ffordd, yn gwybod yn reddfol ac heb ddefnyddio ei llygaid, pa ddarn i'w ddefnyddio nesaf. Doedd dim meddwl na phendroni – y darn yma neu rhyw ddarna' eraill, a fyddai'r lliwiau yma'n gweddu'n well na'r rhain, oedd e jest yn un darn ar ol y llall ar ôl y llal, bron fel petai ar hap, ond hefyd fel petai Nanw yn gwybod yn iawn beth oedd hi yn dymuno ei wneud. Doedd dim cynllun y tro hwn, dim deiagram, dim ond gwnїo a gwnїo a gwnїo'r carpiau at ei gilydd.
A phan ofynnai Harri 'ia, ond beth y'ch chi'n WNEUD?' Beth yw e'n mynd i FOD?' fel petai angen i bob dim fod â phwrpas, byddai Nanw'n gwenu'n ddi-bryder, ac yn ymateb 'Sgen i ddim syniad. Mi fydd e beth bydd e pan bydd e wedi ei orffen.'
A threuliodd Nanw ddydd ar ôl dydd yn gwnїo un cerpyn i gerpyn arall nes bod yr hyn a gychwynnodd fel dau ddarn wedi wnїo at ei gilydd yn mynd yn fwy ac yn fwy ac yn fwy. Ar erbyn iddi fod wedi gorffen, erbyn iddi fod wedi gwnїo'r holl garpiau roedd hi wedi eu casglu dros y blynyddoedd at ei gilydd, roedd Nanw wedi gwnio'r holl fyd; holl hanes y byd yn batchwork cwilt, a hithau ynddo yn rhyw ffigwr bychan ym mhob sgwâr. Ond, roedd un sgwâr ar goll yn y canol, a doedd yna ddim mwy o garpiau ar ôl.
'Beth sydd yn mynd i fan'no?' meddai Bet.
'Ah.' meddai Nanw. 'Mater i chi yw hynny.'
II
Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi i Nanw fod wedi marw ers amser maith, daeth Harri a Bet o hyd i'r patchwork cwilt, a'i agor allan a'i edmygu. Hoffent olrhain hanes eu plentyndod drwy straeon y sgwariau. 'Dyma pan aethon ni i ...' Wyt ti'n cofio'r haf hwnnw?' Fe dreulion nhw oriau yn edrych ar y sgwariau. Ond yn fuan wedyn, bu'n rhaid gwerthu hen fwthyn Nanw er mwyn adeiladu'r draffordd, ac fe aeth hi'n ffrwgwd enbyd rhwng Bet a Harri.
'Wel, i fy nhŷ fi dyle fe fynd.'
'Nage. I fy nhŷ FI.'
'Mae gen i blant. Mae'n rhan o'u etifeddiaeth.'
'Mwy o reswm iddo fe fod yn fy nhŷ fi. Bydd dy blant bach blêr di wedi colli jam ac inc a mêl ar ei ben.
'A be ddigwyddith pan byddi di wedi marw? Siop ddillad vintage, pobl house clearance, ynteu ar ben domen?'
'A be os yw dy blant di yn ei werthu?'
Ac felly y bu hi. Harri a Bet ill dau yn benderfynol mai nhw ddylai gael y cwilt, a buan aeth y ddau i daeru a checru a chythru amdano – y naill yn tynnu un ffordd a'r llall yn tynnu y ffordd arall...nes rhwygo'r patchwork cwilt yn ddau ddarn.
Edrychodd y ddau ar y defnydd yn eu dwylo. Distawrwydd swnllyd wrth iddyn nhw ddeall beth oedd wedi digwydd. Ac yna yn amddiffynnol:
'Wel ta. Dyna ddatrys ta. Gei di dy hanner di a gai fy hanner i.'
'Mae dy hanner di yn fwy na fy hanner i. Diom yn deg.'
'Dydi o DDIM yn fwy.'
'Ydi mae o.'
'Nay ydy dydi o ddim.'
'Ydy.'
'Nag ydy.'
'Nawn ni fesur ta.'
Ac yn wir, roedd hanner y naill ychydig bach yn fwy na hanner y llall.
'Dorrwn ni fe te, fel ein bod ni'n cael hanner cyfartal.'
'Iawn te.'
'Ti'n ei dorri fe'n gam.'
'Dwi DDIM yn ei dorri o'n gam. Torra di fe ta, os wyt ti'n meddwl y gelli di wneud yn well.'
Ac ar ôl hir a hwyr roedd Bet a Harri'n fodlon - bron - bod ganddynt haneri cyfartal o batchwork cwilt Nanw.
'Ond mae gen ti fy nhrowser i. Fy nhrowser i yw'r sgwaryn yna. Ers pan own i'n fach.'
'Ti eisiau mwy?'
'Gei di sgwaryn arall te, o fy rhan i.'
Ac felly dyma'r ddau yn dechrau torri drachefn, i mewn i'w rhan nhw o'r patchwork cwilt, fel bod Harri yn cael y darn a oedd yn cynnwys trowser ei blentyndod, a Bet yn cael rhan cyfatebol o rhyw ffrog neu rywbeth er mwyn ei digolledu.
Ond yna, dyma Bet yn sylwi fod gan Harri damaid o ffrog wisgodd Bet i fod yn forwyn briodas i Anti Lily Octavia ers talwm.
Ac yna bu mwy o dorri, nes yn y diwedd, doedd ond carpiau lle bu patchwork cwilt Nanw unwaith.
Roedd e'n rhwygiadau ac yn doriadau drwyddo draw, yn rhubanau wedi gwywo, y pwythau'n greithiau a'r cotwm a'r defnydd yn stribedi torcalonnus.
'Dyw e'n werth dim i ni ddim mwy,' meddai Bet yn sarrug. 'O dy achos di' ychwanegodd, gan droi oddi wrth Harri. Byddai'r ddau yn elynion am weddill eu hoes, gan feio'r llall yn hallt am fod mor amharchus a diofal o batchwork cwilt Nanw.
'O dy achos DI ti'n feddwl.'
III
Flynyddoedd yn ddiweddarach, derbyniodd merch fach o'r enw Cadi anrheg ar ei phen-blwydd yn bedair oed. Roedd wedi ei lapio mewn rhuban man o wyrdd golau. Lapiodd y rhuban yn falwen am ei bys.
'Be ti'n wneud Cadi? Ti ddim eisiau cadw hwnna nag wyt? Dim ond rhuban yw e.'
'Mi hoffwn i ei gadw' atebodd Cadi. 'Canol rhywbeth yw e.' Ac roedd rhyw olwg benderfynol yn ei llygaid wrth iddi godi oddi ar lin ei hen daid i ddodi'r rhuban ym mag llaw ei mam i fynd adre.