top of page
Y Stamp

Adolygiad- Am Newid.


Cyn mynd ati i ddarllen Am Newid gan Dana Edwards roeddwn yn llawn disgwyliadau gan ei bod yn trafod bywyd menyw drawsrywiol wedi iddi symud yn ôl o Lundain i’w hardal wledig enedigol. Hyd y gwn i nid oes nofel arall yn y Gymraeg sydd yn ymdrin â phobl draws, ac yn hynny o beth roedd wir angen y nofel hon ar lenyddiaeth Gymraeg. Trwy gymeriad Ceri llwydda’r awdur i ymdrin â’r pwnc mewn ffordd sensitif a deallus, gan drafod y llon a’r lleddf yn ei bywyd.

Ymdrinia’r nofel â sawl thema gymhleth, gyda thrawsrywioleb yn un ohonynt. Teimlaf ar adegau fod yr awdur wedi taflu gormod o themâu i’r nofel ac y byddai’n well petai wedi canolbwyntio’n llawn ar un ohonynt. Mae rhywioldeb yn thema gymhleth ac weithiau teimlaf nad yw hyd y gyfrol yn caniatáu iddi fynd i’r afael yn llawn â’r cymhlethod hwnnw na’i ddatblygu’n llwyr.

Un o gryfderau'r nofel yw'r cymeriadu. Daw’n amlwg fod Dana Edwards yn adnabod y math o gymdeithas y gosodwyd y nofel ynddi, ac o achos hynny yn gallu creu cymeriadau sydd yn gweddu i’w hardal ac sydd yn gredadwy. Llwydda i greu cymeriadau aml-haenog, a’r amlycaf ohonynt yw Grace, cyn-gyfaill ysgol i Ceri a drodd ei chefn arni. Grace yw asgwrn cefn y gymdeithas (neu un sy’n hoff o feddwl hynny), ac nid yw’n hawdd iddi dderbyn Ceri yn ôl i’r gymdeithas, heb sôn am i’w changen Merched y Wawr. Er na allaf hoffi Grace, ni allaf chwaith wadu nad oes peth anwyldeb yn perthyn iddi. Haws yw creu cymeriad sydd naill ai’n gyfan gwbl dda neu ddrwg na chreu cymeriad sydd yn meddu ar rinweddau o’r ddau gategori. Un o’r rhannau sy’n aros yn fy nghof yw sgwrs rhwng Grace a’i gŵr, Siôn, yn cofio yn ôl i gêm actio idiomau yr oeddent yn arfer ei chwarae pan oedd Alaw, eu merch, yn iau. Mae’r berthynas rhwng Alaw a Ceri yn dangos gallu’r awdur i gyfleu’r anwyldeb hwnnw yn yr un modd, a’r deialog rhyngddynt yn gwbl naturiol. Mae’r defnydd o dafodiaith ddeheuol yn y deialog yn caniatáu i’r sgyrsiau lifo’n rhwydd. Serch hynny, mae’r defnydd o dafodiaith yn y naratif ei hun yn gallu mynd yn anodd ei ddeall ar brydiau, ond mae’n fater o farn a yw hynny’n ffaeledd neu’n ychwanegiad.

Wrth ofyn i mi fy hun a wnes i fwynhau Am Newid, mi rydw i wir eisiau gallu dweud fy mod i wedi, ond mae rhywbeth ar goll. Gan amlaf yr hyn sydd yn dweud wrthyf fy mod wedi mwynhau llyfr, neu fod llyfr yn cael effaith arnaf, yw fy mod yn ei ddarllen i gyd ar unwaith. Er faint yr oeddwn yn trio gwneud hynny gyda’r nofel hon, ni fedrwn. Roedd rhai rhannau ohoni yn rhagweladwy ac eraill i weld yn dod allan o nunlle fymryn. Er bod y nofel yn symud yn ei blaen yn sydyn ac nad yw’r darllen yn araf, roedd rhyw ddiffyg yn y cysylltiad emosiynol rhyngof i, fel darllenydd, a’r stori. Mae gallu’r awdur i greu stori a chyflwyno themâu sydd wir angen eu trafod yn amlwg, ond roedd rhannau lle’r oeddwn yn credu ei bod wedi gorlwytho’r nofel fymryn yn ormod. Serch hynny, mae hi werth prynu copi a mynd ati i farnu eich hunan.

Y Lolfa- £7.99


15 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page