top of page
Y Stamp

Cerdd: Torrydd 1. Tu hwnt i'r map - Iestyn Tyne


Yn ein rhifynnau print, rydym yn cynnal colofn o'r enw Y Labordy, sydd yn herio awduron a beirdd i fynd y tu hwnt i'w cyfryngau arferol wrth greu. Wrth weithio ar gylchgrawn Y Stamp, fe ddes i'n fwy cyfarwydd â gwaith beirdd torrydd fel Rhys Trimble, a dyma feddwl mynd ati efo siswrn i drio creu rhywbeth fy hun. Fe gewch chi farnu a fu'r arbrawf yn llwyddiant ai peidio!

Torrydd 1. Tu hwnt i'r map.

(Geiriau a chymalau byrion wedi eu torri o: ‘Y Gwanwyn’, ‘Claddu’r Bardd o Gariad’, Dafydd ap Gwilym; Gwybodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Y Ffordd yng Nghymru, R. T. Jenkins; Cerddi Pentalar, Alun Cilie)

awyr dywyll…

lawrlwythwch daith

dilynwch y llwybr

pair dadeni naturiol

coed carno a choed herbert…

coed gwern

bedw irion

criafol

deri

blodau’r milwr blodau’r gwynt

blodau’r gog;

yn hytrach na marw

yn parhau i dyfu

ger

ffin hynafol adar mudol y goedwig

telor y coed aflonydd ei lais

siff saff yn y llwyn glas

tingoch ar brenfrig

lle

mae’r gweddill wedi mynd yn adfeilion

hen lwybr porthmon

“sut le ydi llunden?”

eidion i berfeddion

lloegr

bardd coed a chywydd

ffens yn troi cornel

caer y rêp a’r cêl

corlannau carreg

craith

rhannu ac ail rannu tir

giât mochyn…

coed ffenics yn

claddu

ffermdai

tafarndai

bragdy

mewn bedd.

rydych wedi cyrraedd.

Iestyn Tyne

110 views0 comments
bottom of page