top of page

Blwyddyn Newydd, Golygydd Newydd!

  • Writer: golygyddionystamp
    golygyddionystamp
  • Jan 16, 2019
  • 2 min read

Mae hi’n gyfnod o newid mawr ym myncar y Stamp. Gorchwyl drist iawn oedd ffarwelio â Miriam Elin Jones a hithau wedi bod yn rhan mor fawr o sefydlu Y Stamp a’i siapio i’r hyn ydio heddiw. Mae’r byncar yn ddipyn gwacach hebddi ond rydym yn ddiolchgar ofnadwy iddi am ei gwaith, ei syniadau, a’i hymroddiad ers y dechrau. Ond daeth ei chyfnod efo ni i ben, ac mae hi’n symud ymlaen i brosiectau newydd. Allwn ni wneud dim ond dymuno pob llwyddiant iddi, a diolch yn ddidwyll iddi am ei gwaith a’i chwmniaeth.

Ond wrth gwrs, wrth ffarwelio a Miriam, mae’r Stamp yn cael cyfle i groesawu rhywun newydd i’r byncar, ac mae’r Stamp yn falch iawn o gyhoeddi bod ein gwaith chwilota a chwilmentan am aelod newydd o’r criw golygyddion ar ben a bod Esyllt Lewis wedi ei phenodi fel golygydd newydd sbon.

Wedi gwneud cwrs sylfaen mewn celf yng Ngholeg Celf Abertawe, graddiodd Esyllt o Brifysgol Caerdydd y llynedd wedi iddi astudio gradd mewn Cymraeg ac Athroniaeth. Ar hyn o bryd mae hi’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Gyda chefndir felly ym myd celf weledol, mae’r golygyddion presennol yn sicr fod y bydd ganddi gyfraniad gwerth chweil i’w wneud ac y bydd hi o gymorth mawr i ehangu apêl a chyrhaeddiad y cylchgrawn print a’r wefan dros y cyfnod cyffrous newydd sydd i ddod.

Dywedodd Esyllt:

‘Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â thîm y Stamp, a rhannu fy mrwdfrydedd am gelf weledol ac ysgrifennu creadigol. Un o fy mhrif obeithion wrth ddechrau ar y gwaith fel golygydd yw rhoi llwyfan i artistiaid gweledol ifanc i ddangos a thrafod eu gwaith, gan ehangu ar y gwaith y mae’r Stamp eisoes yn gwneud, er mwyn gwella’r disgwrs yn ymwneud â chelf, a’r ‘sîn’ celf yng Nghymru. Rhoddir llawer o sylw i’r byd cerddorol yng Nghymru a hoffwn weld yr un fath o sylw yn cael ei roi i’r byd celf – pam lai?’

Ecseiting de!


Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page