top of page

Dangosiad arbennig: 'Diolch am eich sylwadau, David' - BITW

  • Esyllt Lewis
  • Mar 15, 2019
  • 1 min read

O ble ddaeth Bitw? O’r gofod yn chware draffts.

Mae’r Stamp yn falch iawn i roi dangosiad arbennig o fideo a chân newydd Bitw cyn i’w sengl gael ei ryddhau ar blatfformau digidol eraill ar Ddydd Gwener.

Yn fwy cyffrous byth, bydd Bitw yn perfformio yn lansiad Rhifyn 7 cylchgrawn Y Stamp, yn CellB, Blaenau Ffestiniog ar Nos Wener 29 Mawrth.

A fydd ei berfformiad yn ein lansiad mor swrreal â’r fideo hypnotig, rhyfedd, drafftiog, cosmig hwn? Prynwch docyn i ffeindio mas: https://www.wegottickets.com/event/465941

Wele fideo! Diolch am eich syniadau, Bitw.

 
 
 

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page