top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Cerdd: Tan Gwmwl - Morgan Owen


Tan Gwmwl

Dyma fi, o fewn pellter gweld ond yn wlad a bydysawd i ffwrdd. Ddo’ i ddim yn ôl yr un fath, nid â phalet lliwiau dinas yn fy mhen a chyflwr y môr yn diffodd â’i wefr hallt bob brogarwch dwl. Edrycha’ i ddim yr un fath ar gregyn y capeli di-bwyll fel cytiau cachu ochr-y-ffordd yn gleisiau ar dirwedd farw, na chwaith ar gewyll o dai yn llacio eu gafael ar y llethrau, yn eistedd ym maw cenedlaethau na welodd erioed tu hwnt i’w ffroenau. Hedaf heibio’u rhwydi.

Edrycha’ i fyth yr un fath ar stafelloedd hanner gwag a’r hanner arall yn llawn pennau llwyd; rhyw gwrdd i nodi’n tranc am y canfed tro. Af ar daith; gwn fod dychwelyd yn gymod; gwn o bell mae caru gwlad.

Morgan Owen

-----

Llun: Matt Buck, Wikimedia Commons

76 views0 comments
bottom of page