top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Adolygiad - 'Squatters' Castell Coch

Cyfres o gerfluniau wedi eu gosod o amgylch Castell Coch yw 'Squatters' gan Laura Ford, ac fel mae'r enw'n awgrymu, mae rhywrai neu rywbeth wedi dod i darfu ar grandrwydd y castell. Aeth adolygydd brwd draw i weld y sioe uchelgeisiol hon gan Oriel Deg, a mwynhau'r antur yn arw...

Yr wyf wedi dod ar draws gwaith Laura Ford sawl gwaith ac wastad yn gadael efo teimladau gwahanol. Pan welais gerflun o’r ddynes Gymreig yn yr Amgueddfa Genedlaethol am y tro cyntaf, ges i argraff hollol arswydus ohoni a theimlo ei bod hi’n mynd i symud allan o gornel fy llygad. Yna gwelais waith Laura yn Fenis yn 2015 yn yr arddangosfa Vita Vitale ym Mhafiliwn Azerbajan. Cerddais i mewn i ystafell efo nifer o bengwinau, oll yn edrych at y llawr terrazzo. Roedd hwn yn ymateb gwych i thema ecolegol y sioe, a daeth yn fuan yn un o'm hoff ddarnau yn y Biennale y flwyddyn honno, roedden nhw’n dominyddu'r ystafell, er mai dim ond cerfluniau bach oedden nhw.

Fodd bynnag, ni ddaeth y profiadau hyn yn agos at y teimlad o antur a deimlais wrth archwilio’r sioe 'Squatters ' yng Nghastell Coch. Yr wyf yn dweud antur gan mai dyma’n wirioneddol sut yr oeddwn yn teimlo wrth edrych ar y gosodiad hwn. Roedd y casgliad o weithiau fel cymeriadau a oedd yn perthyn i'r Castell ei hun. Roeddwn i'n teimlo'n nerfus ac yn gyffrous ar hyd pob cornel ac wrth gerdded i bob ystafell. Mae’r Castell nawr yn teimlo'n fyw, fel pe bai manylion bychan y papur wal a'r pensaernïaeth wedi dod i'r amlwg, gyda ffigurau sy’n perthyn i fyd arall wedi byw yma o hyd.

Wrth i chi ddringo grisiau’r castell i’r pen rydych chi’n gweld y ' Squatter Monkeys ' ar wely'r Arglwyddes Marquis, yn sglaffio ffrwythau euraid sydd wedyn yn cael eu gwasgu ar draws y llawr a'r celfi. Yna mae eich llygaid yn crwydro o amgylch yr ystafell gan weld y ffrwythau hyn wedi'u hadleisio ym manylion cymhleth addurniadau’r waliau. Dyma'r manylion anhygoel sy'n creu’r ymdeimlad bod y cymeriadau hyn wedi byw yma erioed.

Lluniau: Esyllt Lewis

Gallwn dreulio oriau yn disgrifio fy hoff weithiau a'r syrpreisys sy'n llechu o amgylch corneli'r castell hwn ond rwy'n teimlo mai'r cyfan y gallaf wneud yw eich annog i fynd i weld un o'r sioeau mwyaf bendigedig dwi ’di weld am oes. Dyma un o sioeau gorau Oriel Deg ac mae'n dangos yn wir mai gweithio'n agos gydag artistiaid cyfoes Cymru yw eu cryfder. Dwi’n awyddus iawn i weld beth fydd eu prosiect mawr nesaf a gobeithio y gall y sioe fynd ymlaen i gael ei harddangos mewn lleoliadau eraill.

-----

43 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page