Rhagolwg o daith gerddorol newydd, fydd yn teithio Cymru yn mis Mehefin sydd ar y wefan yr wythnos yma.
Mae'r trwmpedwr Tomos Williams wedi dod â chriw o gerddorion arbennig o Gymru at ei gilydd o dan yr enw 'Cwmwl Tystion/Witness' i berfformio cyfansoddiad newydd sydd yn ymdrin â diwylliant, gwleidyddiaeth ac hanes Cymru.
Bydd y band yn perfformio 'Suite Cwmwl Tystion', ledled Cymru ac yn Llundain (12fed – 29ain o Fehefin). Mae’r suite, sy’n cynnwys elfennau o jazz, yr avant-garde, byrfyfyrio a cherddoriaeth werin Cymru. Er fod cysylltiadau Beiblaidd i'r teitl 'Cwmwl Tystion', wedi ei ysbrydoli gan waith Waldo Williams mae’r perfformiad hwn. Defnyddir yr ymadrodd ‘Cwmwl Tystion’ yng ngwaith Waldo, ac fe fydd y gerddoriaeth yn 'tystio' i'r oes sydd ohoni.
Mae chwech cerddor arall, heblaw am Tomos yn ran o'r cwmwl cerddorol hwn: mae Huw Warren a Rhodri Davies yn gerddorion Cymraeg sy'n adnabyddus yn rhyngwladol. Mae Huw V Williams, Francesca Simmons a Mark O'Connor yn cynnig agwedd a phersonoliaeth arbennig i'r gerddoriaeth, tra bydd celf gweledol fyw Simon Proffitt yn gyfeiliant i ac yn ategu pob perfformiad.
Dywed Tomos “Dwi wedi cael y cnewyllun o syniad yma ers sbel, ond o wrando yn ddiweddar ar gerddoriaeth fel Origami Harvest gan Ambrose Akinmusire, a gwaith Wadada Leo Smith ac 'America's National Parks' yn arbennig, fe wnaeth yr holl syniad grisialu ac roedd yn amlwg i mi bod angen prosiect fel 'Cwmwl Tystion/Witness' ar Gymru ar hyn o bryd.
Mae'n teimlo fel bod Cymru bron wedi bod o dan warchae yn ddiweddar – rhwng un peth a'r llall, ac wrth i un ddigwyddiad arwain at un arall – felly dwi'n fwriadol yn ceisio cyfleu'r ansicrwydd yma drwy gyfuno jazz gyda byrfyfyrio rhydd a cerddoriaeth mwy avant-garde”.
Wrth ymhelaethu am aelodau'r band, dywed Tomos: “Dwi di adnabod Rhodri a Huw ers blynyddoedd ac rwy'n edmygu eu gwaith yn fawr, ond dwi erioed wedi perfformio da'r naill na'r llall. Mae Huw V a Francesca ill dau gyda diddordeb byw yn y byd avant-garde a byrfyfyrio rhydd, tra bod Mark O'Connor yn un o ddrymwyr gorau Cymru, heb os. Dwi wedi perfformio gyda Mark ers dros ddegawd ac mae e wastad yn llywio ac yn adio i'r gerddoriaeth. Dwi methu aros i ddechrau ar y daith ac i wrando ar y cerddorion yma yn cyd-weithio, heb sôn am gael y cyfle i chware gyda nhw!”
Bydd y perfformiadau hefyd yn cael ei ategu gan gelf weledol byw Simon Proffitt. Medd Tomos “Dwi erioed wedi perfformio gyda elfen 'weledol' a bydd delweddau, ffilmiau a graffics Simon yn ymateb i'r gerddoriaeth yn fyw. Ond nid rhyw fath o 'add-on' bydd rhein – bydd yr elfen weledol yn ganolig i bod perfformiad. Roedd gen i bob ffydd yn Simon, ac yn gwbod y bydde' fe'n cynnig rhywbeth ychwanegol i'r cyfanwaith ac i brofiad y gynulleidfa.”
Agora'r daith yn Neuadd Fawr, Aberystwyth ar nos Fercher 12fed o Fehefin, ac yna bydd y band yn ymweld â'r Wyddgrug, Caerdydd, Llundain, Abertawe a Bangor.
Mae Canolfan Celfyddydau Aberystwyth yn bartner pwysig i'r prosiect, a bydd Cwmwl Tystion/Witness yn ymarfer yno am ddeuddydd cyn dechrau'r daith.
Cafodd Suite Cwmwl Tystion ei ariannu gan Dŷ Cerdd ac fe gafwyd cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gynnal y daith.