Bore Mercher llawen a llon, un ac oll. Dyma gyhoeddiad stampus am gyhoeddiad stampus ar eich cyfer ...
Cerddi alltudiaeth ac ailenedigaeth
Bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn lansio’r casgliad cyhoeddedig cyntaf o waith y bardd Morgan Owen yng Ngŵyl Arall, Caernarfon. Mae moroedd/dŵr yn ddilyniant cysyniadol ar ffurf pamffled, ac fe ddaw o’r wasg fisoedd yn unig cyn cyhoeddi cyfrol gyntaf Morgan, Bedwen ar y Lloer.
Cerddi am foroedd yw y rhain, ond rhai oriog a chyfnewidiol, fel y profiadau maen nhw’n gyfrwng iddynt. Ble mae tynnu ffiniau rhwng moroedd? Pryd daw dŵr yn fôr? Yn yr un modd, pryd mae presenoldeb yn troi’n berthyn? Pryd daw dadrith yn benllanw? A phryd y daw diwedd yn ddechreuad?
O Ferthyr Tudful y daw Morgan Owen yn wreiddiol, ac mae stamp y lle hwnnw yn gryf ar lawer o waith. Mae wedi bod yn rhan o brosiectau ‘Awduron wrth eu Gwaith’ Gŵyl y Gelli a ‘Her 100 Cerdd’ Llenyddiaeth Cymru. Bu’n fardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol 2018, ac yn Fardd y Mis Radio Cymru yn gynharach eleni.
Dyma adeg da felly i lywio casgliad o’i waith drwy’r wasg, ac mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o fod wedi cael y cyfle i gydweithio â’r bardd yn hyn o beth. Comisiynwyd yr artist Timna Cox i greu delweddau yn ymateb i'r cerddi, ac mae'r rhain yn ychwanegu ymhellach at naws y casgliad.
Bydd moroedd/dŵr gan Morgan Owen ar gael o’r 14 Gorffennaf 2019 (£5.00, Cyhoeddiadau’r Stamp).
Cynhelir y lansiad yng Ngerddi'r Emporiwm, Palas Print, Caernarfon am 3 o'r gloch bnawn Sul 14 Gorffennaf, fel rhan o Ŵyl Arall. (yn lle sesiwn Caryl Bryn a Morgan Owen a hysbysebwyd eisoes).
Ac er mwyn rhoi blas i chi o gynnwys moroedd/dŵr, dyma un gerdd fach o'r casgliad yn anrheg i aros pryd.
Ben Twthill
Bariau tywod ar oror y glas nad oes mo’i nabod; pelydrau haul drwy niwl a brithlen o donnau’n crychu tua’r tai: dyma fyd yr ymyl hallt lle cân y gwynt yn y gwaed a’r llanw yn y mêr. O’r graig uwch cyd-anadlu’r dref sy’n dal ei chalon yn dynn yn hollt y lan, chwiliaf yn y chwâu am air i rwydo lliw y Fenai, gair i’w hyrddio’n llun ail-law atat ti dros y cyrs mewn dinas ar y llaid. Llygadaf y gwasgar islaw yn rhith anghyfiaith gan ddisgwyl rhyw long gyfarwydd o ledrith y môr.