top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Adolygiad: Basgedwaith

Basgedwaith: Swyddogaeth ac Addurniad, yng Nghanolfan Grefft Rhuthun,

20 Gorffennaf – 13 Hydref 2019

‘If you haven’t got something to put it in, food will escape you – even something as uncombative and unresourceful as an oat. You put as many as you can into your stomach while they are handy, that being the primary container; but what about tomorrow morning when you wake up and it’s cold and raining and wouldn’t it be good to have just a few handfuls of oats to chew on and give little Oom to make her shut up, but how do you get more than one stomachful and one handful home? So you get up and go to the damned soggy oat patch in the rain, and wouldn’t it be a good thing if you had something to put Baby Oo Oo in so that you could pick the oats with both hands? A leaf a gourd a shell a net a bag a sling a sack a bottle a pot a box a container. A holder. A recipient.’

Dyna ddisgrifiad Ursula K Le Guin o’r ‘Carrier bag theory of human evolution’- bathiad Elizabeth Fisher o theori am ddatblygiad dynol sy’n pwysleisio rôl y ‘daliwr’ yn natblygiad diwylliant dynol, yn hytrach na’r arf.

Cefais fod dyfyniad Le Guin yn chwarae ar fy meddwl wrth i mi grwydro trwy arddangosfa ddiweddara galeri Canolfan Grefft Rhuthun- Basgedwaith: Swyddogaeth ac Addurniad yn ddiweddar. Mae’r arddangosfa, a guradwyd gan Gregory Parsons, yn cynnwys gwaith 30 o artistiaid a chrefftwyr, o bob cwr o Gymru a Phrydain, ac mae’r casgliad yn arddangos amrywiaeth eang o ddefnyddiau a thechnegau gwneud basgedi. O fasgedi traddodiadol, fel basgedi cyntell Gymreig, a thrygs o Sussex, i gerfluniau a gwrthrychau cain, mae’r casgliad yn cynrychioli rhychwant eang y grefft o fasgedwaith, fel y mae’n cael ei harfer heddiw. Caed gwaith plethu helyg a brwyn, gwaith mewn pren wedi hollti, gwaith sy’n defnyddio ddeunyddiau fel rhisgl pren a mwsogl, yn ogystal a gweithiau sy’n arbrofi gyda deunyddiau synthetig, fel metelau a gwastraff plastig.

Wrth gerdded i mewn i’r arddangosfa, yr hyn sy’n taro rhywun yn syth ydi’r bylchau. Neu yn hytrach, y golau yn pelydru trwy’r bylchau, yn taflu patrwm o gysgodion rhwyll ar y waliau a’r lloriau. Does yna ddim byd fel basged wag i wneud i chi sylwi ar y golau. Mae Ursula Le Guin yn dychmygu straeon fel pethau wedi eu casglu ynghyd mewn daliwr o ryw fath- stumog, sach, bol, croth, bag plastig- neu ragflaenydd y contrapsiwn gwastraffus hwnnw, y fasged. Gan symud oddi wrth yr iaith filwrol sy’n gysylltiedig â llenyddiaeth, a straeon (ystyriwch ‘baladr’ ac ‘esgyll’ saeth yr englyn, er enghraifft) nid helfa yw hanfod y stori iddi, ond casglu. A dyna ddod at hynodrwydd yr arddangosfa hon, oherwydd gwag yw pob basged yn yr arddangosfa, gwag, a golau’n pelydru trwyddyn nhw. Mae’r gwrthdaro yn cael ei gyfleu yn enw’r arddangosfa- ‘swyddogaeth ac addurniad’- gyda gofod yr oriel yn rhoi y basgedi hyn mewn cyd-destun addurniadol, gan eu dieithrio o’u hanfod swyddogaethol. Nid ydyn nhw yma i gario dim i neb. Heb eu llenwi a mafon neu fatris sbâr neu wyau neu geirch gwyllt, ffyrdd tra wahanol o adrodd eu straeon a geir. O roi eu swyddogaeth i’r naill ochor mewn cyd-destun orielaidd (gofod sydd yn ddaliwr ynddo’i hyn, yn ôl fframwaith Le Guin- daliwr yn llawn casgliad o ddalwyr!) eu siapiau, y technegau a’r defnyddiau sy’n adrodd y stori.

Hyd yn oed y tu allan i waliau’r oriel, byddai basgedi Mary Butcher yn annhebygol o fedru dal unrhyw beth. Awgrym o siâp basged a geir yn y estyll tenau, esgyrnog, a’r plethwaith sych. Basged wedi ei dad adeiladu ydyw, y gwahanol elfennau sy’n dod ynghyd i ffurfio plethwaith basged i’w gweld mewn stad amrwd, anorffenedig, ond sy’n creu gwrthrychau newydd, amwys. O un ongl, mae’r estyll yn awgrymu ffurf rhyw offeryn; neu grud; neu efallai llong.

Ym murlun Lois Walpole o fasgedi plastig lliwgar, mae’r basgedi eu hunain yn cludo stori o wastraff a chynaliadwyedd yn eu gwneuthuriad. Wedi ymroi i leihau gwastraff yn ei gwaith, ac i weithio gyda defnyddiau gwastraff neu wedi eu hailgylchu yn unig, mae’r gyfres o fasgedi, mewn lliwiau glas a gwyrdd a gwyn, sy’n ffurfio’r murlun plethedig, siâp cwmwl wedi yn defnyddio gwastraff plastig yn unig. Mae’r basgedi o wahanol feintiau yn ffitio i mewn i’w gilydd, fel dol Rwsieg, er mwyn i’r murlun cyfan gael ei bacio i lawr i faint bychan, hawdd i’w gario, gan leihau’r angen am ddefnyddio (a gwastraffu) deunyddiau cludo.

Y mae basgedi Anna King hithau yn cynnwys straeon o fewn eu gwneuthuriad. Yn ei chasgliad o fasgedi bychan- rhai yn grwn, rhai yn bigfain, y mae’r stori eto yn y deunydd. Gorchuddiwyd un o’r basgedi gyda cannoedd o lechi bychan, fel rhyw arfwisg greigiog. Mae un arall wedi gorchuddio gyda phlu, fel aderyn a’i ben dan ei adain. Eraill gyda phlu sgleiniog, neu dalismanau eraill wedi eu rhwymo iddynt. Mae nhw’n wrthrychau hudol, basgedi fel swynion, basgedi gwrachod. Mae rhywun yn dychmygu y byddent wrth fodd calon Ursula Le Guin, y widdon honno a’i bagiau llawn hyd a lledrith.

Basgedi gwahanol eto a geid o eiddo Joe Hogan- basgedi fel cartref, nythod bach wedi ei plethu o frigau a mwsogl, pethau yn ymddangos yn flêr ac amrwd drws nesa i’r basgedi cain a chymhleth. Pethau gwyllt, wedi dwyn a’u gosod ar silffoedd gwyn a glân oriel gelf. Daliwr i ddal y dalwyr, a’r grefft ar unwaith ar ei mwyaf cyntefig, a’i ffurf fwyaf hanfodol.

Gellid eistedd yma trwy’r dydd yn mynd trwy waith y 30 o grefftwyr ac artistiaid yn unigol, yn rhyfeddu at geinder a sgil yr holl wrthrychau, ond gwell torri pethau ar eu blas, a’ch hannog chi draw i Ruthun i’w mwynhau nhw eich hunain. Mi adawa i chi fel y dechreuais i, gyda geiriau y diweddar Ursula K Le Guin:

If it is a human thing to do to put something you want, because it’s useful, edible, or beautiful, into a bag, or a basket, or a bit of rolled bark or leaf, or a net woven of your own hair, or what have you, and then take it home with you, home being another, larger kind of pouch or bag, a container for people, and then later on you take it out and eat it or share it or store it up for winter in a solider container or put it in the medicine bundle or the shrine or the museum, the holy place, the area that contains what is sacred, and then next day you probably do much the same again – if to do that is human, if that’s what it takes, then I am a human being after all.’

Llyfryddiaeth:

Le Guin, Ursula K. 1989. ‘The Carrier Bag Theory of Fiction’ yn Dancing at the Edge of the World. Efrog Newydd: Grove Press.

57 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page