top of page

Galwad Agored: Blodeugerdd 2020

  • Writer: golygyddionystamp
    golygyddionystamp
  • Sep 17, 2019
  • 2 min read

Updated: Aug 19, 2020

Blodeugerdd 2020

Galwad am gyfraniadau:

Mae’r Stamp yn chwilio am gyfraniadau ar gyfer blodeugerdd newydd o gerddi. Bydd ‘blodeugerdd 2020’ yn snapshot o’r foment hon mewn barddoniaeth Gymraeg. Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o gerddi, gan amrywiaeth eang o feirdd, o feirdd gwlad i brifeirdd, o gerddi papur, i gerddi instagram, ac i gerddi perfformiadol. Rydym yn awyddus i dderbyn gwaith gan bawb ag unrhyw un sy’n sgwennu be mae nhw’n eu hystyried yn ‘gerddi’ yn 2020.

Cerddi gwleidyddol, cerddi serch, natur, crefyddol, torrydd, caeth, sonedau, sestinas, bwriadwn i’r gyfrol hon fod yn ‘state of the nation’ barddol, yn ymchwiliad i bwy sy’n canu, ac am be, yn y Gymraeg heddiw.

Beth:

  • Rydym yn gofyn i bob bardd gyflwyno 2-3 cerdd i gael eu hystyried

  • Dylai’r cerddi hyn fod wedi eu hysgrifennu rhwng 2015-2020

  • Derbynnir cerddi sydd wedi eu cyhoeddi eisoes, ond mae angen i’r bardd ddal yr hawl i’w hailgyhoeddi (Os yda chi’n ansicr o beth mae hyn yn ei olygu, cysylltwch a’r cyhoeddwyr i holi, mi fydda nhw’n falch o gadarnhau. Os mai wedi cyhoeddi efo’r Stamp yda chi, yna chi sydd biau’r hawlfraint)

  • Croesawir cerddi hyd at 100 llinell o hyd. Os am gynnwys gwaith hirach, bydd angen paratoi detholiad ohono.

Sut:

  • Dylid anfon popeth at ‘blodeugerdd2020.ystamp@gmail.com

  • Defnyddiwch ‘Blodeugerdd 2020’ fel pwnc yr e-bost

  • Cynhwyswch y cerddi oll mewn un ddogfen, mewn ffont Times New Roman, maint 12, ‘single spaced’.

  • Yng nghorff yr e-bost, nodwch eich henw, bywgraffiad byr 50 gair, ynghyd a theitlau y cerddi.

Byddwn yn derbyn cyfraniadau hyd at Ragfyr y 31ain, ac fe fyddwn yn ymateb efo’n penderfyniad golygyddol erbyn diwedd Chwefror 2020.

Ni bydd tal am y gwaith a gynhwysid, ond bydd pob cyfrannydd yn derbyn copi cyfrannydd.

Am fwy o wybodaeth gyrrwch neges draw at blodeugerdd2020.ystamp@gmail.com.


 
 
 

Comments


Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page