top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Wrth dy grefft: Drafftio Barddoniaeth - Grug Muse

Dyma’r darn cyntaf mewn cyfres o ysgrifau lle rhoddir cyfle i awduron, beirdd a dramodwyr ystyried elfennau o’u crefft gan rannu yr hyn y maent wedi ei ddysgu. Gobeithiwn y bydd o ddefnydd i eraill wrth ystyried a datblygu eu crefft hwy, boed hynny drwy roi syniadau newydd, neu ddim ond beri i ni eistedd yn ôl ac ystyried ein hymarfer ninnau.

I mi, mae’r broses o ddrafftio cerdd yn ran annatod o’r broses ysgrifennu. Does na ddim eiliad benodol pan mae’r broses ‘sgwennu’ yn dod i ben a’r broses ‘ddrafftio’ yn cychwyn. Mae yna rai cerddi sydd yn ymddangos o’r ether, yn dod allan mewn un eisteddiad fel cerddi nad oes angen ryw lawer o ffidlan efo nhw, ac mae hwnnw’n brofiad hyfryd. Ond y gwir amdani wrth gwrs yw nad dyma sut mae’r rhan fwyaf o gerddi yn dod i’r byd. Mae y rhan fwyaf o feirdd yn drafftio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd (heblaw am y math o waith sy’n fwriadol ymwrthod ag ail-weithio, a hynny fel rhan o’r gwaith ei hun, ond crefft arall i’w thrafod eto yw honno).

Cwestiwn canolog y broses olygu ydi’r cwestiwn ‘ydi’r gerdd hon yn barod?’ Parod, ac nid gorffenedig, noder. Wrth gyfansoddi yn y mesurau caeth, gall gofynion mesur ddangos i ni pan fo cerdd yn ‘gyflawn’, am fod gofynion y mesur i gyd wedi eu cyflawni, ond tydi hynny chwaith ddim yn golygu fod cerdd yn ‘barod’. Trafod drafftio yn y mesur penrydd ydw i yn y darn hwn, er nad ydi meddwl am y dosbarthiadau hyn fel rhai ar wahân wastad yn ddefnyddiol. Ond mae’r gwahaniaeth rhwng ‘wedi gorffen’ a ‘parod’ yn berthnasol yma hefyd. Does 'na ddim llinell derfyn na rhuban i’w dorri pan fo cerdd yn ‘barod’- mater o wybod nad oes na fwy fedri di ei wneud ydi hi, a mater o reddf ydi hynny i raddau helaeth. Ond i fod ychydig yn fwy penodol ac ymarferol na jest deud ‘greddf’, dyma roi braslun o’r math o broses y gall cerdd fynd drwyddi wrth gael ei drafftio:

1.

Cam cyntaf y drafftio, i mi, ydi’r sgwennu. Rydw i’n tueddu i ddarnio cerddi at eu gilydd fesul dipyn, wrth i rywbeth nodais i lawr ddoe ffurfio cysylltiad efo llinell sgwennwyd nôl yn mis Chwefror. Pan fydd gen i syniad go lew am be mae’r gerdd 'ma am fod, mi 'stedda i lawr a thrio ei thynnu hi at ei gilydd.

2.

Mae’r drafftio go iawn yn dechrau pan fydda i'n trio troi y deunydd crai yma yn Gerdd hefo prif lythyren. Mae rhywun dal mewn cariad efo’r syniad cynta 'na ar yr adeg yma fel arfer, ac mae’r egni a’r cyffro gwreiddiol yn dal i danio. Dyma pryd fydda i'n trio ffidlan hefo ffurf a strwythur y gerdd, cael gwared ar sgaffaldiau geiriol, geiriau neu gymalau gwastraffus, a dod o hyd i’r gerdd ‘ei hun’.

3.

Erbyn hyn, y gobaith yw fod gen i ryw fath o ddrafft cyntaf. Dyma pryd mae angen creu pellter rhyngof fi a’r gerdd, disgyn allan o gariad efo hi a dieithrio fy hun o’r geiriau. Y bwriad yw medru edrych yn fwy oeraidd a beirniadol ar y gerdd - edrych arni hi heb y sbectol serch gwreiddiol.

Mae 'na wahanol ffyrdd o fynd ati i wneud hynny wrth gwrs. Amser ydi’r ffordd orau o greu pellter. Os oes gan rywun y moethusrwydd o roi pythefnos neu ddau rhwng y sgwennu a’r drafftio, mae hynny’n rhoi llygaid hollol ffresh. Ond os nad oes amser, yna mae darllen cerdd yn uchel, ail-sgwennu’r gerdd, neu ei throsglwyddo o’r cyfrifiadur i bapur, ac yn ôl yn ffyrdd o greu pellter. Mae newid y ffont ar y cyfrifiadur hefyd yn syndod o effeithiol.

4.

Unwaith y mae’r pellter yna wedi ei greu, dyma pryd mae cerddi’n marw - dyma pryd ti’n sylweddoli falle mai sothach dynwaredol neu sentimental ydi’r gerdd. Mae’n bwysig cofio bod hynny’n ok, ac chaniatáu dy hun i fethu bob hyn a hyn. Ti’n achub unrhyw linellau da ac yn gweld a fedri di wneud rhywbeth gwahanol efo nhw. Mae hynny weithiau yn arwain at gerddi cwbl annisgwyl, a llawer difyrrach na’r gwreiddiol. Dyma be dwi’n feddwl pan dwi’n deud fod y broses sgwennu a drafftio yr un broses mewn gwirionedd. Paid a stopio ‘sgwennu’ dim ond am dy fod ti wedi dechrau ‘drafftio’.

Wrth edrych yn feirniadol ar gerdd, mi fydda i'n chwilio am wendidau yn y cynnwys, yn y dechneg a'r ffurf. Yn benodol, dwi’n trio chwynnu:

  • Ieithwedd a delweddau ystrydebol, ailadroddus, diog a rhai sydd wedi ei gor-ddefnyddio. Ai ail-sgwennu cerdd gan fardd ydw i’n ei edmygu ydw i?

  • Sentimentalrwydd rhad, ac unrhyw beth sydd yno ar gyfer fy ego i yn hytrach na chyfrannu at y gerdd. Hynny ydi, y pethau masturbatory. Mwynhewch, ond cofiwch fod eich darllenydd eisiau ryw foddhad o’r peth hefyd.

  • Ydi’r gerdd yn gyfan? Ydw i wedi trio gwasgu mwy nac un gerdd at ei gilydd? Ydi’r gerdd yn mynd i rywle? Ydi hi wedi ei datblygu’n llawn? Ydi hi’n gorffen yn ragweladwy?

  • Rhythm a sain - sut mae hi’n swnio o gael ei darllen yn uchel?

Ac yn y blaen...

5.

O ddod o hyd i wendidau, dyna fynd ati wedyn i drio eu trwsio. Weithiau, mater o newid ambell air ydi hi; dro arall mae strwythur y gerdd i gyd angen ei newid yn llwyr. Un ffordd o fynd ati ydi drwy arbrofi efo ffurf - gweld be sy’n digwydd pan ti’n ail-sgwennu cerdd rydd fel soned, neu yn tynnu’r holl atalnodi allan o gerdd. Rhoi caniatâd i ti dy hun chware o gwmpas, a pheidio a chymryd y gerdd ormod o ddifri.

Ffordd arall yw gadael y dudalen yn llwyr. Os ydw i’n teimlo mod i wedi colli gafael ar y gerdd, yr hyn dwi’n neud ydi trio meddwl be ydi hanfod y gerdd, a chofio nad ar y dudalen mae hwnnw’n bodoli. Nodiant i’n helpu ni i gofio’r gerdd ydy’r sgwennu ar y papur, ac mae’r gerdd ei hun yn bodoli yn rhywle arall, Weithiau wrth ddrafftio mi awn ni i gael ein clymu lawr yn ormodol gan y marciau ar y papur a cholli gafael ar hanfod y gerdd ei hun.

6.

Y cam ola’ wedyn ydi testio’r gerdd. Ei gyrru hi at rhywun i'w darllen, ei darllen hi’n uchel ar gyfer cynulleidfa, neu gystadlu mewn steddfod i gael adborth. Ydi pobol yn ymateb fel oeddet ti’n obeithio? Neu mewn ffordd annisgwyl? Falle y bydd gan rhywun ddarlleniad mwy diddorol na be oedd gen ti mewn golwg, neu falle ei bod hi’n methu’n llwyr.

Ac ar ddiwedd yr holl broses, dyma ddychwelyd at y cwestiwn cyntaf - ydi’r gerdd yma’n barod? Ydw i’n fodlon mai dyma’r gorau alla i ei wneud? Oes yna’r ffasiwn beth a cherdd ‘barod’, ynteu ai mater o ddiflasu, cael llond bol a symud ymlaen at y peth nesa ydi hi? Pwy a ŵyr!

Darllen pellach

Ysgrifennwyd y darn hwn yn dilyn sesiwn drosglwyddo sgiliau wedi ei drefnu gan Where I’m Coming From yng Nghaerdydd.


80 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page