top of page
Grug Muse

Wrth dy grefft: Y Soned Jazz - Iestyn Tyne


Y Soned Jazz – neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Wanda Coleman, y bardd Affro-Americanaidd o Los Angeles, sy’n gyfrifol am fathu’r term American sonnet, ac am berffeithio’r mesur a gafodd yr enw ganddi. Doedd strwythur caethiwus mydr iambig a phatrymau odli y soned Ewropeaidd ddim yn gweddu rhywsut i waith bardd fel Coleman, oedd yn canu am dlodi yng nghymunedau lleiafrifol dinas ei magwraeth – arwyr ei cherddi hi yw’r mamau sengl, y gweithwyr rhyw, yr alcoholigion a’r bobl hynny ar gyrion cymdeithas sy’n wynebu brwydr ddyddiol i ddal gafael.

Wrth gwrs, nid hi oedd y bardd cyntaf i arbrofi â mesur y soned, ond mae’n debyg mai hi a’i cyflwynodd yn ei gwisg mwyaf llaes hyd yma – yn ddi-fydr ac yn ddi-odl, ond eto’n clecian o rhythmau a chyseinedd cymhleth a chain. Gellir ystyried y soned Americanaidd fel barddoniaeth jazz, lle mae arbrofi a byrfyfyrio geiriau a syniadau yn ganolog i’r arddull. Teimlwn ar brydiau bod gair neu ddelwedd a’i leoliad o fewn llinell yn swnio’n estron ac arythmig, ond sylwn wrth glywed y cyfanwaith mai anadliadau ac addurniadau i ysgogi ymateb neu deimlad yn y gwrandawr neu’r darllenydd yw’r rhain – fel y bydd y trwmpedwr jazz yn amrywio ei felodiau, ei gyweiriau a’i amsernodau.

Yn 2018, cyhoeddwyd y gyfrol American Sonnets for My Past and Future Assassin gan Terrance Hayes, bardd arall sy’n rhoi llais i fywydau pobl liw yng Ngogledd America, a bardd sy’n cydnabod dylanwad mawr Wanda Coleman ar ei weledigaeth a’i waith. Yn seithfed soned ei gasgliad (‘American Sonnet for My Past and Future Assassin’ yw ei theitl, fel pob un o’r saith deg yn y gyfrol), mae Hayes yn cyfarch y mesur y dewisodd ganu arno:

I lock you in an American sonnet that is part prison,

Part panic closet, a little room in a house set aflame.

I lock you in a form that is part music box, part meat

Grinder to separate the song of the bird from the bone [...]

Mae’n amlwg o’r cymariaethau trawiadol yn y gerdd mai rhan o hud y soned yw ei therfynau. ‘Neuadd fawr rhwng cyfyng furiau’ Waldo Williams yw’r ‘little room in a house set aflame’ – gofod amhenodol, annelwig sy’n cael ei gryfhau gan y ffaith fod ganddo ymylon o ryw fath, i drybowndio oddi arnynt neu i suddo iddynt yn ôl y gofyn; weithiau, mae’n seintwar – yn fan diogel i weiddi a gweddïo fel ei gilydd. Ac eto, er ei therfynau, yr hyn y mae Wanda Coleman, Terrance Hayes ac eraill yn ymhyfrydu yn ei wneud yw plygu strwythur y soned hyd yr eithaf, gan gadw dim ond un peth yn hollol gyson, mewn gwirionedd – sef ei hyd. Mae ambell un wedi mynd mor bell â galw pethau hirach a phethau byrrach yn sonedau, ond y consensws cyffredinol yw mai 14 llinell yw hyd soned, a bod hynny’n eithaf digyfnewid.

Mae hynny’n wir am y soned Gymraeg hefyd. Bu honno, er mai byr yw ei hanes o’i chymharu â’r mesur mewn llenyddiaethau eraill, yn gyfrwng arbrofi cyson o fewn ei 14 llinell. Roedd rhai o’r sonedau Cymraeg cynharaf yn gyfieithiadau uniongyrchol o’r Eidaleg, heb ddefnydd o’r Saesneg fel iaith i bontio; a defnyddiai’r Beirdd Rhamantaidd y mesur ar droad yr ugeinfed ganrif i fwrw maen eu mudiad newydd i’r wal. Ac yn yr un modd ag yr oedd mor amlwg yn natblygiad Rhamantiaeth, roedd yn ei chanol hi pan fagodd gwrth-ramantiaeth hithau stêm – yn gerbyd i fyfyrdod chwyldroadol Prosser Rhys ar rywioldeb yn ‘Atgof’ (1924), ac i rai o gerddi mwyaf trawiadol a chofiadwy’r iaith gan y cefndryd Parry-Williams ac Williams Parry. Lle bynnag y gwelir torri tir gwirioneddol ym marddoniaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, gallwch fod yn siŵr nad yw’r soned yn bell o ganol y gythrwfl.

Ym 1937, yn dilyn ei garcharu yn Llundain am ei ran yn llosgi Ysgol Fomio Penyberth yn Llŷn, diswyddwyd Saunders Lewis o’i waith fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd R. Williams Parry yn un o’r ymgyrchwyr tanbeitiaf yn erbyn y penderfyniad hwn, ond cafodd ei gythruddo pan wrthododd llawer o’i gydweithwyr ac academyddion yng ngholegau eraill Prifysgol Cymru arwyddo deiseb i wrthwynebu’r diswyddiad. Yn sgil hyn, aeth Williams Parry ati i ysgrifennu nifer o gerddi; yn eu plith, ‘Cymru’ a ‘J.S.L.’ Mae trefnusrwydd twt y soned Shakespearaidd gyfarwydd yn cael rhyddid i grwydro, a dyma, hwyrach, yw’r enghraifft gyntaf o hynny yn y Gymraeg. ‘O’r diwedd craciwyd cragen y soned, heb ei malu hi’, meddai Derec Llwyd Morgan am y cerddi hyn. Dyma ddyfynnu o chwechawd olaf ‘J.S.L.’:

Ninnau barhawn i yfed yn ddoeth, weithiau de

Ac weithiau ddysg ym mhrynhawnol hedd ein stafelloedd;

Ac ar ein clyw clasurol ac ysbryd y lle

Ni thrystia na phwmp y llan na haearnbyrth celloedd.

Gan bwyll y bytawn, o dafell i dafell betryal,

Yr academig dost. Mwynha dithau’r grual.

Yr hyn sy’n ddifyrrach na’r newid yn strwythur y soned, yw’r newid yn yr arddull. Mae yma goegni bwriadol – defnydd o eirfa rodresgar, chwyddiedig i golbio – ac mae’r chwerwedd yn berwi trwy’r llinellau wrth gyfeirio at glwb te a thôst Syr Ifor Williams yn cyfarfod i drafod manylion academaidd diddim fel pe bai dim o’i le, tra bod Saunders Lewis yn y carchar yn wynebu pryd llwm o rual. Mae pigogrwydd y dweud yn effeithio’n naturiol ar rhythm ac ymdeimlad y darn, yn union fel yn achos y Soned Americanaidd – canfu Williams Parry ddull o ystumio’r soned y tu hwnt i’w rheolau traddodiadol, er iddo gadw’r patrwm odli, o leiaf, yn gyson (ond nid yn acennog).

Mae sawl un ers 1937 wedi parhau i ddatblygu’r soned Gymraeg, ond roedd y flwyddyn honno’n sicr yn binnacl o ran arbrofi, ac yn sgil hynny, yn drwydded i eraill arbrofi. Mewn blynyddoedd diweddar, fodd bynnag, y duedd yw i feirdd ddychwelyd at yr hen soned Shakespearaidd. Does ond angen pori yng nghyfrolau diweddar y Cyfansoddiadau i weld mai’r math hwn o soned sy’n tra-arglwyddiaethu ar lefel gystadleuol (gweler ‘Esgidiau’, Elin Meek, Caerdydd 2018 am enghraifft gywrain) – a thybed a fyddai soned yn un o’i gwisgoedd mwy avant garde yn cyfri’n soned gan feirniaid y gystadleuaeth honno? A yw soned di-odl, di-fydr, yn soned o gwbl? O gymryd mai ‘uned syniadol o derfynau arbennig (14 llinell)’ yw soned yn ôl diffiniad DLlM – ydy, heb os.

‘Strict formalists tend to allow the form to dictate their language so that their series of sonnets become uninteresting after the first few’, oedd geiriau Wanda Coleman mewn cyfweliad e-bost yn 2008. Un o wendidau llawer o sonedau ‘rheolaidd’ Cymraeg yw eu tuedd i geisio cynnal delwedd am bedwarawd, cynnal yr un ddelwedd am bedair llinell arall (ond trwy ei dweud hi mewn ffordd wahanol), cyflwyno rhyw fath o drobwynt rhwng yr wythawd a’r chwechawd (y volta), a chrynhoi gydag ergyd rhyw wirionedd grymus a dwys-athronyddol yn y cwpled clo. Dyna sut y dysgwn am ffurf y soned yn ein hysgolion. Fodd bynnag, o edrych ar y strwythur uchod mewn modd mathemategol, gwelwn y caiff y ganran fwyaf o’r soned ei chysegru i dindroi o amgylch yr un pwynt; rhoddir llai o amser i gyflwyno gweledigaeth, a’r lleiaf oll i ddweud yr hyn y mae rhywun wir eisiau ei fynegi. Maen tramgwydd aml i soned addawol yw cwpled clo sy’n methu croesi’r llinell derfyn; ac mae’r sawl sy’n llwyddo yn llacio’r rheolau uchod fel bod y cyfan yn llifo i’w gilydd.

Mae’r soned Americanaidd, neu’r soned jazz, yn cynnig cyfle newydd i’r soned Gymraeg dorri’n rhydd o rai o’r hualau – yn llythrennol ac yn drosiadol, oherwydd dyma fesur barddoniaeth torri-hualau yng Ngogledd America. Perthyn iddi holl anrhydedd traddodiad hir, ond gyda rhyddid a sioncrwydd creadigaeth newydd; grym yr hyn a fu, ond nid ei faich. Pan es i ati i gyfansoddi sonedau jazz yn Gymraeg, un o’r ymadroddion o un o gyfweliadau Terrance Hayes oedd yn fy mhen oedd ‘muscling through’. Mynd ati fel tarw mewn siop lestri, i fenthyg ymadrodd Seisnig – a pheidio poeni am y dinistr a ddaw yn sgil y barddoni gwyllt hwn, oherwydd gellir tacluso hwnnw neu ei adael fel y mae wedyn, ac fe all greu damweiniau prydferth eithriadol. Roeddwn i hefyd yn cadw mewn cof yr hyn a ddywedodd cyfaill o fardd o Wlad y Basg, Arrate Illaro, am ei barddoniaeth byrfyfyr hi: ‘Rydw i wastad yn anelu am y llinell olaf’. Os yw’r llinell olaf, y gyrchfan – yr hyn a ddeisyfir – yn y golwg, hyd yn oed fel hedyn syniad, daw’r gerdd fel bwa esmwyth at y nod hwnnw, gyda’i hergydion wedi eu pupuro’n gyfartal drwyddi; ac osgoir y cwpled clo rhwysgfawr sy’n dweud llawer gormod heb ddangos nemawr ddim.

Argymhellir cyfrol Terrance Hayes i unrhyw un a fynno arbrofi â sonedau jazz; yn ogystal â chyfrolau Wanda Coleman, ond eu bod yn bethau anoddach o lawer cael gafael arnynt. Mae nifer o’i sonedau ar gael ar-lein, fodd bynnag; dyma fardd pwysig ac arloesol na chafodd y sylw y dylai nes ar ôl ei marwolaeth, pan ddechreuodd Hayes sôn amdani wrth drafod ei gerddi ei hun. Prydferthwch mwyaf y soned Americanaidd, er hyn, yw ei fod yn amrywiad gweddol newydd ar y mesur – ac o’r herwydd, does neb mewn gwirionedd yn awdurdod arni. Golyga hyn rwydd hynt i’w mowldio, ei defnyddio, a’i pherffeithio yn ôl diffiniad yr unigolyn o berffeithrwydd.

Dyfynwyd eisoes o gyfweliad Wanda Coleman o 2008; dyfynnodd Terrance Hayes yntau o’r un cyfweliad yn adran gydnabyddiaethau American Sonnets. Dyma gynnwys ei ddyfyniad o yn ei grynswth, gan ei fod o bosib yn crisialu’r meddylfryd y tu ôl i’r soned jazz yn well nac unrhyw beth:

‘When asked in an interview with Paul E. Nelson how she’d give an assignment for writing an American Sonnet she said:

First I would explain my process. Then I would invite my students to try it, overlaying their specific 1) issues (what the sonnet is about) 2) rhythms (places and devices often have them) 3) tones (shadings of attitude) 4) musical taste/preference (rock, classical, blues, etc.) – how to develop the minimal language to simultaneously encapsulate and signal each.

When asked for a definition, she called the poems jazz sonnets “with certain properties – progression, improvisation, mimicry, etc.” and concluded, “I decided to have fun – to blow my soul.”'

-----

Darllen

  • American Sonnets, Wanda Coleman (1994)

  • American Sonnets for My Past and Future Assassin, Terrance Hayes (2018)

  • Y Soned Gymraeg, Derec Llwyd Morgan, Cyfres Pamffledi Llenyddol Cyfadran Addysg Aberystwyth (1967)

  • Cerddi’r Gaeaf, R. Williams Parry (1952)

  • Cyfweliad e-bost Wanda Coleman â gwefan Global Voices Radio, Tachwedd 2008 (https://www.globalvoicesradio.org/American_Sonnets_Wanda_interview.html)

14 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page