top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Wrth dy grefft: Trawsieithu fel rhan o’r broses greadigol - Sara Louise Wheeler

Mae Dr Sara Louise Wheeler yn ysgrifennu'n golofn 'synfyfyrion llenyddol' i Y Clawdd, sef papur bro Wrecsam a'r cylch ac mae’n curadu’r blog ‘Yr Onomastegydd’. Mae’n Gymrawd Ymchwil Gwadd ym Mhrifysgol Glyndŵr ac mae’n byw ym mhenrhyn Cilgwri.

Dyma’r ail ddarn mewn cyfres o ysgrifau lle rhoddir cyfle i awduron, beirdd a dramodwyr ystyried elfennau o’u crefft gan rannu'r hyn y maent wedi ei ddysgu. Gobeithiwn y bydd o ddefnydd i eraill wrth ystyried a datblygu eu crefft hwy, boed hynny drwy roi syniadau newydd, neu ddim ond beri i ni eistedd yn ôl ac ystyried ein hymarfer ninnau.

Heb os nac oni bai, fy mhrif ysbrydoliaeth lenyddol yw’r awdures Creolaidd-Caribïaidd-Gymraeg, Jean Rhys. Un o’r pethau rwy’n edmygu fwyaf am Jean yw ei steil ysgrifennu, sydd yn nodweddiadol o glir, llyfn, cyfoethog, atgofus a hudolus. Yn ôl pob sôn mae llawer o’r clod am hyn yn mynd i Ford Madox Ford, a wnaeth ei hannog i gychwyn ysgrifennu, gan ddechrau hefo storïau byr, megis ‘Vienne’, a gyhoeddwyd yn 1927 yn y cyfnodolyn llenyddol ‘The Transatlantic Review’. Ford oedd sylfaenwr a golygydd y cyfnodolyn, a gyhoeddai waith awduron sin llenyddol, fohemaidd yr amlan chwith (Left Bank) ym Mharis. Mi roedd Ford hefyd yn cymryd mantais o sefyllfa anffodus Jean ar y pryd, ond mae hynna’n bwnc i’w drafod rhywbryd arall.

Dan adain Ford, dysgodd Jean ei chrefft. Fe wnaeth ei chynghori i osgoi melodrama a chadw at yr hyn roedd yn ei wybod, ac i fod yn ddidostur wrth dorri ei gwaith, gan ddangos yn hytrach na dweud. Ac yn ddiddorol iawn, cynigwyd techneg arall iddi, a oedd yn nodweddiadol o’r cyd-destun amlieithog a diwylliannol yr oeddynt yn byw ynddi sef: os nad oedd darn o’i ysgrifennu yn teimlo fel ei bod yn gweithio, y dylai ei chyfieithu i Ffrangeg; os oedd yn edrych yn wirion yn Ffrangeg, ynau dylid torri’r darn yna hefyd. Er mai ‘cyfieithu’ y gwnaeth Ford ei chynghori iddi ei wneud, yn ein cyd-destun cyfoes byddaf yn taeru mai ‘trawsieithu’ ydi’r cam yma mewn gwirionedd, gan mai rhan o’r broses o ddrafftio a cheisio gwirio naws ac ystyr yw’r nod, yn hytrach na chyflwyno cyfieithiad i gynulleidfa o ddarllenwyr.

Mae’r cysyniad o ‘drawsieithu’ yn deillio o waith doethuriaeth Cen Williams, Prifysgol Bangor, ym maes addysg yn y 1990au. Naws y dechneg oedd bod plant ysgol yn derbyn gwybodaeth trwy gyfrwng un iaith, e.e. Saesneg, ac yna yn ei ddefnyddio trwy gyfrwng iaith arall, e.e. Cymraeg. Wrth wneud hyn, er mwyn fod medru defnyddio’r wybodaeth yn llwyddiannus, roedd rhaid ei bod nhw wedi ei ddeall yn llawn yn y lle cyntaf. Pwysleisiodd Williams fod un iaith yn cryfhau’r llall, gan hybu dealltwriaeth. Daeth y syniad yn boblogaidd iawn hefo athrawon a myfyrwyr yn fyd-eang, gan fod yna gred yn gyffredinol bod pobl amlieithog yn naturiol yn gwneud defnydd o’i repertwârau ieithyddol llawn er mwyn mwyafu’r profiad dysgu. Fel cyn-ddarlithydd cyfrwng Gymraeg, medraf dystio fy mod i wedi gweld y dechneg yma o fudd wrth ddarllen traethodau myfyrwyr.

Er bod y cysyniad o drawsieithu yn deillio o faes pedagogaidd, naws y syniad yw fod y broses o canfod, wybod a deall, yn cynnwys cyfnewid rhwng dwy iaith neu fwy; mae hyn felly'n berthnasol i cyd-destunau tu hwnt i'r dosbarth. Mae’r cysyniad wedi esblygu dros amser, gydag awduron megis García a Wei yn cyflwyno ymchwil am sut mae pobl amlieithog yn trawsieithu yn ei chyd-destunau pob dydd, i wneud synnwyr o’i bywydau a bydoedd cymhleth. Mae Kasula’n tynnu sylw at ‘Borderlands/ La Frontera: The New Mestiza’, gan Anzaldúa, fel enghraifft o waith creadigol sydd yn trawsieithu yn yr un gofod, er mwyn ddisgrifio a chyfleu bywyd amlieithog y gororau. Mae Anzaldúa ei hun yn tanlinellu’r cyfraniad yma trwy ddweud:

“Mae’r ffin UDA-Mexico yn una herida abierta (briw agored) lle mae’r trydydd byd yn crensian yn erbyn y cyntaf ac yn gwaedu. A chyn i’r briw fagu crachen mae’n gwaedlifo eto, gyda gwaed-fywyd dau fyd yn ymdoddi i ffurfio trydedd gwlad – diwylliant gororau/ ffin” (Anzaldúa 2007, 25). [Cyfieithiad SLW]

Felly mae Anzaldúa yn cynnig fod yna rhywbeth arbennig ac unigryw am ddiwylliant y gororau - mae’n rhyw fath o gyfuniad sy’n creu trydydd diwylliant. Fel yr wyf wedi crybwyll o’r blaen, mae gwaith creadigol Aled Lewis Evans hefyd yn adlewyrchu iaith a diwylliant unigryw'r gororau, a hynny yng nghyd-destun Gogledd-ddwyrain Cymru. Mae’r gerdd ‘Over the llestri’ yn enghraifft drawiadol o dafodiaith coridorau Ysgol Morgan Llwyd yn y 1990au, ac felly o’r ffenomenonau mae García a Wei yn trafod yn eu hymchwil. Mae sawl enghraifft ymysg storïau Jean sy’n cyfleu’r math yma o ofod trawsieithu, o fewn cyd-destunau amlieithog ac amlddiwylliannol. Bues yn ddigon ffodus, flwyddyn ddiwethaf, i fod yn arholwr allanol i ddoethuriaeth lenyddol, lle'r oedd y myfyrwyr wedi cyfuno’r math yma o drawsieithu mewn un gofod, a hefyd trawsieithu ei cherddi ei hun er mwyn ddod i ddeall ei theimladau a phrofiadau yn well. Roeddwn wrth fy modd hefo’r traethawd hir, a braidd yn genfigennus o’i phrofiad doethuriaeth!

O ran beth yn benodol sy’n ddefnyddiol am waith llenyddol ‘hybrid’, mae Kasula yn dyfynnu gwaith Canagarajah ar ‘côd-blethu’ (code-meshing), gan gynnwys y ffaith fod cyfuno ieithoedd mewn un darn o waith yn creu gofod i’r darllenydd a’r awdur/ bardd i gyfadeilio ystyr a dealltwriaeth, wrth herio ac esbonio agweddau tuag at lais yr awdur. Mae hyn yn fy atgoffa i o drafodaethau ynglŷn â defnydd tafodiaith o fewn gwaith llenyddol, gan gynnwys lle mae’r dafodiaith yn groes i reolau iaith safonol; mae’n medru bod yn heriol iawn, mewn ffordd dda, i ddarllen ac ystyried y materion hyn. Er enghraifft, mae Giaimo yn taeru fod stori ditectif Walter Mosley ‘Devil in a blue dress’ yn herio rhagdybiaethau ystrydebol ynglŷn â chymhlethdod a soffistigedigrwydd Saesneg Americanaidd Affricanaidd. Yn sicr dwi’n hoffi’r syniad o ryw fath o agwedd ‘meta’ lle mae’r awdur a’r darllenwr ill dau hefo rôl mewn cyfadeilio’r stori neu ystyr, wrth ystyried llais yr awdur.

Yn bersonol, dim ond un gerdd, hyd yma, rwyf wedi ei ysgrifennu sy’n cyfuno ieithoedd yn yr un gofod, ac ni fues yn llwyddiannus iawn wrth ei throsi i’r Saesneg - hynny ydy, ei thrawsieithu ddigon iddi gael ei deall gan gynulleidfa Saesneg. Er fy mod wedi cael sylwadau caredig am y fersiwn Gymraeg o ‘Pam fod brechdanau’n fenywaidd? A chwestiynau difyr eraill’, cefais sylwad meddylgar a treiddgar gan olygydd cylchgrawn llenyddol Saesneg, a ddywedodd fod ail ran y gerdd, yn Saesneg, yn teimlo’n ‘forced’ a ‘sing-songy’. Wrth ystyried y ddau fersiwn, tybiaf ei bod hi’n llygad ei lle wrth ddweud hyn; roedd y rhan cyntaf o’r gerdd, lle'r oedd y ddwy iaith hefo’i gilydd, wedi cadw’r naws Gymraeg - er, dim ond pobl hefo rhyw faint o Gymraeg, megis dysgwyr, fyddai’n medru ei ddeall. Ond roeddwn wedi strugglo trawsieithu ystyr yr ail ran, tra hefyd yn ceisio odli.

Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol fy mod yn defnyddio fy nwy iaith, Cymraeg a Saesneg, a hefyd fy nhafodiaith a gwybodaeth am gywirdeb iaith, ym mhob cam o’r broses ysgrifennu - boed yn llenyddol neu’n ysgolhaig. Yn wir, arddelaf fy mrwydrau mewnol ieithyddol i sefyllfa B’Elanna Torres o fydysawd Star Trek, a’r hyn a ddysgwyd ym mhennod ‘Faces’ o ‘Voyager’. Rwy’n teimlo weithiau fod gen i fwy nag un bersonoliaeth. Mae’r Gymraeg yn rhan o’m mhlentyndod - a hwnnw’n Gymraeg tafodieithol. Treuliais hafau hir draw yn Rhosllannerchrugog, yn gwrando ar storïau nain ac aunty Gwladys, am yr hen ddyddiau, pan oedd Rhos yn gymuned glos a llawn bwrlwm. Yna des yn ymwybodol o’r agweddau israddol tuag at y dafodiaith dosbarth gweithiol yma, ag hefyd tuag at y dafodiaith dosbarth gweithiol Saesneg Wrecsamaidd oedd gen i. Es ati i ddisodli fy nhafodiaith Saesneg, gyda thafodiaith Brydeinig BBC yn ei le, ond wnes i ddim byd tebyg gyda fy Nghymraeg. Pan adawais Gymru'n 19 oed, i fynychu prifysgol yn Lerpwl, es o sefyllfa dwy-ieuthog i un uniaith Saesneg; nid oedd y cyfryngau cymdeithasol yn bodoli yn yr un modd ar y pryd ac nid oedd gen i ffon symudol hyd yn oed. O ganlyniad, arhosodd fy Nghymraeg fel ag oedd o, Cymraeg rhywun yn ei harddegau o deulu dobarth gweithiol, tra parhaodd fy Saesneg i ddatblygu a chyfoethogi, gan amsugno geiriau a chysyniadau ysgolhaig ac o feddylfryd oedolyn - a hynny'n oedolyn oedd yn croesi'r ffin rhwng dosbarth gweithiol a dosbarth canol.

O ganlyniad, mae fy Saesneg o safon uchel iawn. Rwyf wedi dysgu (ar ôl ychydig o ridl-mi-ri) sut i ysgrifennu at safon uchel hefyd, gyda chyd-weithwyr ysgolhaig yn cyd-nabod fy sgiliau prawf-ddarllen a chywirdeb. Ond rwyf weithiau’n teimlo, pan rwy’n ceisio ysgrifennu’n greadigol, fel bod yna rhyw fath o ffinâr (veneer), sydd yn ei wneud yn anoddach i mi adlewyrchu emosiynau; o ganlyniad mae drafftiau yn tueddu i fod braidd yn stiff ac ysgolhaig. Yn y cyfamser, mae fy Nghymraeg yn gyfyng, lle nad wyf wedi dysgu geirfa gyfoethog oedolyn ynddi, ac weithiau nid wyf yn siŵr os yw geiriau yn dafodieithol neu’n rhai safonol. Ac, er gwaethaf yr un math o ridl-mi-ri o gyrsiau gloywi, mae fy nghystrawen a chywirdeb ieithyddol, megis treiglo, dal ym mhell o fod yn deilwng. Ag eto, medraf rhywsut deimlo fy nheimladau yn well - neu eu cyfaddef i fi fy hun yn well, efallai. Straffaglu gwnes i hefo hyn am flynyddoedd, ond, fel B’Elanna, des at y casgliad mai cyfuniad o’r ddau (neu bedwar) ochr oedd y peth gorau yn y bôn, megis y côd-blethu (code-meshing) mae Kasula yn ei grybwyll.

Felly, mae rhan fwyaf o ddrafftiau llenyddol gen i yn y Gymraeg, yn enwedig os rwyf mewn cyd-destun Cymraeg ar y pryd; ond mi fydd yna eiriau Saesneg drwyddi draw. Fydd y drafftiau yn llawn tafodiaith hefyd, ac yn sicr nid fyddent yn rhywbeth i ddangos i neb arall! Yna mi wnâi weithio arnynt yn y Gymraeg, cyn eu trosi i’r Saesneg, ac efallai yn ôl eto - gan wirio am eiriau tafodieithol neu, ac mae hyn yn bwynt diddorol dwi’n meddwl, geiriau lle nad yw’n glir pa ystyr o’r gair yr oeddwn yn ei olygu. Mae’r mater yma yn cael ei drafod yn ‘nodyn y cyfieithydd’ i ‘Powers of horror: an essay on abjection’, lle mae Roudiez yn taeru fod Ffrangeg, fel iaith, efo geirfa fwy cyfyng o’i chymharu â Saesneg, sy’n gwaethygu’r broblem o wahanol ystyrion posib ar gyfer rhai geiriau. Yn wir, mae Roudiez yn dweud fod Kristeva yn manteisio ar y geiriau ‘polysemy’, yn yr un modd ag yr oedd Derrida a Lacan yn tueddu i wneud. Ar sawl achlysur, pan ofynnodd iddi ba fersiwn o’r gair yr oedd hi yn ei olygu, atebodd ‘y ddau’.

Mae hi ryw faint o gysur wybod fod rhai awduron adnabyddus yn gwneud hyn ar bwrpas, gan fanteisio ar amwysedd geiriau yn ystod y broses o greu dadl. Ond mae hi felly yn golygu efallai fydd yr agwedd yma o drawsieithu yn anodd, ac efallai ni ddaw ateb clir i ba ystyr o’r gair yn y geiriadur yr oeddwn yn ei olygu; fodd bynnag, mae’n werth synfyfyrio ar y materion yma yn ystod y broses o greu, gan y daw dealltwriaeth ddyfnach o ystyried ystyr pob gair yn ei dro. Weithiau mae’n dod yn amlwg fy mod wedi cam-ddysgu gair yn y lle cyntaf, neu ei fod yn golygu rhywbeth arall yn fy nhafodiaith, megis ‘ddreng’, sydd yn golygu ‘blin’ yn nhafodiaith Rhos, ond ‘sarrug’ mae’n ei olygu mewn Cymraeg safonol; yn y cyfamser, rwy’n cysylltu’r gair ‘blin’ hefo ‘blino’. Wrth ysgrifennu’n dafodieithol, rwy’n dethol geiriau sy’n teimlo’n iawn i mi - gallaf wastad eu gwirio wedyn, yn ystod y broses drafftio, gan ei cyfnewid ameiriau safonol. Yn amlwg mae hyn yn medru arafu’r broses o farddoni yn enwedig wrth ddefnyddio odl, ond efallai hefyd yn ychwanegu cam drafftio ddefnyddiol, o ran naws a theimlad.

Yn ddiweddar, mi roeddwn ar y traeth yn ystod encil Y Stamp pan ddaeth yr awen. Gan mai hefo criw o bobl Cymraeg roeddwn i, ysgrifennais trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi roedd yna eiriau ddaeth i mi yn Saesneg - er enghraifft, sbïais ar griw o wylanod ar y ‘jetty’. Defnyddiais yr air ‘jetty’, gan ei gyfieithu pan roedden ni nol yn Nhŷ Newydd, hefo mynediad at y geiriadur ar-lein. Roedd y gair Cymraeg ‘glanfa’ yn llawer iawn fwy boddhaol ar gyfer cerdd na ‘jetty’. Yna penderfynais drawsieithu’r gerdd, a sylweddolais, wrth gyfieithu’r gair yn ôl, fod y gair Saesneg ‘bank’ yn fwy addas na ‘jetty’ beth bynnag, o ran ystyr yn ogystal ag esthetig.

Ar lefel fwy dwfn, ces gryn drafferth wrth gyfieithu’r llinell: “a phenderfyniadau erchyll sy’n chwalu’r pen yn llwyr”. Cofiais am drafodaeth ges i flynyddoedd yn ôl, yn ystod fy ngwaith doethuriaeth yn Lerpwl yn sbïo ar ‘somatisation', lle mae’r gallu i drafod emosiynau yn hanfodol - a’r drafferth roedd gen i wrth drosi’r cysyniad yma o “chwalu’r pen yn llwyr”. Cefais drafodaethau diddorol ar drydar amdano, ac yn ddiwedd es hefo: “and ghastly decisions which muddle the mind completely”, ond dwi dal ddim yn teimlo fod hyn cweit yn cyfleu chwerwder y poenydied a’r emosiynau cysylltiedig. Ta waeth, mi wnaeth trawsieithu’r teitl dod ac ystyr dyfnach iddi. Teitl y gerdd yng Nghymraeg oedd ‘Dychwelyd’, gan fod y gerdd yn sôn am y broses o ddychwelyd i sefyllfa iechyd meddwl iach, wedi cyfnod o bryder ac iselder. Ond yn Saesneg, sylweddolais medraf ddefnyddio’r gair ‘Wellbecoming’, sef y broses o gyrraedd stad o ‘Well-being’. Dwi ddim yn meddwl fod gennym air cyfatebol yn y Gymraeg, ar hyn o bryd, ond efallai fod hyn her i ni greu un? Beth bynnag, medrwch ddarllen y fersiwn Gymraeg yn rhifyn Tŷ Newydd Y Stamp, a’r fersiwn Saesneg ar fy nhudalen Instagram; ys gwn i beth fydd eich ymateb?

Yn ddigon ysmala, mi ges i drafodaeth ar Twitter, wedi i mi atodi’r fersiwn Saesneg o’r gerdd, gydag esboniad o’r broses, i fy nghyfrwng trydar, a ddaeth ag elfen ychwanegol iddi. Roedd rhywun nad oedd yn siarad Cymraeg wedi mwynhau’r gerdd yn Saesneg ac yn difaru nad oedd yn medru ei ddarllen yn ei iaith wreiddiol - gan hyd yn oed dweud efallai y buasai hyn yn brosiect at y dyfodol (darllen y fersiwn Gymraeg). Mi wnaeth hyn fy mhlesio yn arw, oherwydd golygai nid yn unig fod rhywun am fynd ati i ddysgu ychydig o Gymraeg o ganlyniad i fy ngwaith llenyddol, ond efallai, yn y dyfodol, y cawn y profiad o gôd-blethu y mae Kasula yn sôn amdano, gan gyfathrebu ar y mater hefo’r darllenydd, wrth drafod teilyngdod y geiriau yr wyf wedi ei ddewis a fy sgiliau trawsieithu, yn ogystal â barddoni. Ew, rwy’n mawr obeithio wir!

Felly i gloi, tybiaf fod pob awdur a bardd dwyieithog, neu amlieithog, hefo’r potensial i drawsieithu wrth ysgrifennu, gan ddod a dyfnder ac agwedd unigryw i’w gwaith, ac ystyried pob gair a mynegiant o ran ystyr clir neu amwys; yn wir, mae’n debyg ei bod nhw, neu chi, yn gwneud hyn yn ddigon naturiol yn barod, efallai heb hyd yn oed sylwi. Ond efallai weithiau y byddai trawsieithu elfennau o’r gwaith, gan chwilio’n benodol am ystyr a synnwyr, yn gam ychwanegol a ddefnyddiol yn y broses greadigol. Efallai y bydd trawsieithu yn datgelu bylchau ieithyddol, megis ‘Wellbecoming’ uchod, lle mae cyfle i ni fod yn greadigol wrth greu’r eirfa i ni gael trafodaethau mwy cyfoethog ynglŷn ag, er enghraifft, iechyd meddwl. Diddorol iawn fyddai clywed profiadau beirdd ac awduron eraill wrth geisio’r cam yma.

Llenyddiaeth, adnoddau a darllen pellach

Angier, C. 1990. Jean Rhys: Life and Work. London: Andre Deutsch.

Anzaldúa, Gloria. 2007. Borderlands/ La Frontera: The New Mestiza. San Francisco: Aunt Lute

Books.

García, O., a L. Wei. 2014. Translanguaging: Language, Bilingualism and Education. Basingstoke:

Palgrave Macmillan. https://doi.org/10.1057/9781137385765.

Giaimo, Genie. 2010. “Talking Back through ‘Talking Black’: African American English and Agency in

Walter Mosley’s Devil In a Blue Dress.” Language and Literature 19(3):235–47.

Kasula, A. J. 2016. “Olowalu Review: Developing Identity through Translanguaging in a Multilingual

Literary Magazine.” Columbian Applied Linguistics Journal 18 (2): 109–18.

Kristeva, Julia. 1982. Powers of Horror: An Essay on Abjection. New York: Columbia University

Press.

Kolbe, Winrich. 1995. “Faces”: Star Trek Voyager. Paramount Studios.

Lewis Evans, Aled. 2002. “Over the Llestri.” Yn Hoff Gerddi Cymru, 98–100. Ceredigion: Gwasg

Gomer.

Lewis, Gwyn, Bryn Jones, a Colin Baker. 2012. “Translanguaging: Origins and Development from

School to Street and Beyond.” Educational Research and Evaluation 18 (7): 641–54.

https://doi.org/10.1080/13803611.2012.718488.

Pizzichini, L. 2010. The Blue Hour: A Portrait of Jean Rhys. London: Bloomsbury Publishing Plc.

Wei, L. 2011. “Moment Analysis and Translanguaging Space: Discursive Construction of Identities by

Multilingual Chinese Youth in Britain.” Journal of Pragmatics 43 (5).

https://doi.org/10.1016/j.pragma.2010.07.035.

Wheeler, SL. “Synfyfyrion Llenyddol: Awduron y Gororau/ Ffiniau.” Y Clawdd, 2017.

https://saralouisewheeler.wordpress.com/2017/06/29/awduron-y-gororau-ffiniau/

Wheeler, SL."Synfyfyrion llenyddol: Pam fod brechdanau'n fenywaidd? (a chwestiynau difyr eraill),

2010. https://saralouisewheeler.wordpress.com/2010/06/20/pam-fod-brechdanau%E2%80%99n-

fenywaidd-a-chwestiynau-difyr-eraill/

Wheeler, SL. 2019a. “Dychwelyd.” Y Stamp: Rhifyn Tŷ Newydd, tud 21, 2019.

https://www.ystamp.cymru/single-post/2019/09/08/Rhifyn-T%C5%B7-Newydd

Wheeler, SL. 2019b. “Wellbecoming.” Instagram. 2019. https://www.instagram.com/serensiwenna/


203 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page