Dyma groesawu cyfrol newydd o gerddi i'r byd, a'r gyfrol honno yw Bedwen ar y Lloer gan Morgan Owen. Dyma gasgliad o gerddi gwlad a dinas, clawdd a gwter. Mae casgliad cyntaf Morgan yn ein tywys trwy strydoedd dinesig, tirluniau ôl-ddiwydiannol a choedwigoedd hynafol. Mewn iaith gyfoethog ceir canu natur cignoeth, a myfyrdodau sy’n ein tywys at ymylon y rhith-fyd a thu hwnt.
Dwed Morgan am yr hyn a ysgogodd y cerddi: “Mae'r cerddi hyn yn deillio o'r ymgolli a'r ymddieithrio sy'n nodweddu fy ymwneud â Merthyr Tudful, sef tref fy magwraeth, a hefyd yr ardal ehangach. Byddaf weithiau'n teimlo'n rhan annatod ohoni, a hithau'n rhan annatod ohonof innau; ond droeon eraill, bydd gagendor rhyngom. Dyma gerddi yr ymylon, a'r syndodau sy'n eu troi weithiau yn fydoedd cyfan ynddynt eu hunain. Yn y bôn, dyma fawl i'r ymylon a'm creodd i.”
I ddathlu cyhoeddi'r gyfrol, dyma rannu un o gerddi'r gyfrol:
Diwrnod eira
Codais cyn y golau, a’r düwch disgwyliedig yn borffor. Gwisgais fy mŵts cadarnaf, ac wedi brecwast a choffi, anelu am ben y bryn. Gadewais yr ôl traed cyntaf yn y manod gwichlyd; pasiais geir yn pesychu o’u cwsg a rhygnu brêcs petrus ar oledd yr hewl. Cyrhaeddais y tai olaf cyn y rhan serthaf a symud arafed â chrëyr yn cerdded, dan ymgodymu am ganllaw anweledig yn yr aer mor ffres â dŵr rhedegog. Gorffwysais wrth y grib, a neidio’r ffens; euthum tua’r piler ar y man uchaf. A’r gwynt yn rhuo a llosgi fy wyneb, gwelais nodau traed cadno yn yr eira. Trodd y porffor yn lasach; ni welais yr unpeth byw.
Bydd y gyfrol ar gael o siopau llyfrau lleol, neu o'r we trwy ddilyn y ddolen hon. Bydd lansiad y gyfrol yn digwydd ar y 16fed o Dachwedd yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tydfil. Cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth!