Pleser i'r Stamp yw datgan fod pamffled o stabal y Stamp wedi dod yn fuddugol mewn gwobr newydd i bamffledi barddoniaeth neithiwr.
moroedd/dŵr, pamffled cysyniadol o gerddi gan Morgan Owen, yw enillydd cyntaf categori newydd am farddoniaeth mewn ieithoedd Celtaidd yng Ngwobrau Barddoniaeth Michael Marks, a noddir gan y Michael Marks Charitable Trust.
Derbyniodd y bardd ei wobr mewn noson arbennig yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, lle anrhydeddwyd awduron, cyhoeddwyr ac artistiaid sy’n ymwneud â chyhoeddi pamffledi barddoniaeth. Beirniaid y wobr Geltaidd oedd y Dafydd John Pritchard, David Wheatley ac Aonghas Pàdraig Caimbeul.
Yn sgil ei lwyddiant, bydd Morgan yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 a chyfle i dreulio cyfnod fel bardd preswyl mewn digwyddiad yng Ngwlad Groeg.
Wrth ymateb, dywedodd mai ‘llawenydd deublyg’ oedd ennill y wobr. ‘Yn gyntaf’, meddai, ‘gwefr bur yw gweld fy ngwaith yn cael ei gydnabod yn y fath fodd. Mae’n dipyn o anrhydedd.’
‘Yn ail, rwy’n falch iawn bod gwasg annibynnol flaengar, sef Cyhoeddiadau’r Stamp, yn derbyn cydnabyddiaeth trwy’r wobr hon hefyd. Dyma goron ar gydweithio dedwydd iawn.’
Aeth ymlaen i ganmol y ffaith bod Gwobrau Michael Marks wedi sefydlu’r wobr hon yn benodol ar gyfer barddoniaeth yn yr ieithoedd Celtaidd.
‘Dyma gam arloesol a beiddgar, ac rwy’n falch bod ein llenyddiaeth ninnau yn cael ei hanrhydeddu fel hyn.’
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynorthwyo gyda threfniadau'r gystadleuaeth yma yng Nghymru, ac yn llongyfarch Morgan ar gipio'r wobr.
-----
Y mae moroedd/dŵr ar gael ar lein o siop y Stamp, ac o siopau llyfrau ledled Cymru.