Arfon Wledig
Cyn cromlech, cyn cofeb,
Cyn codi maen pan oedd yma neb,
Cyn oes allor, na phader, na defod,
Cyn i Ddeiniol na Beuno ddod,
Cyn parablu, cyn pobl,
Cyn cof am 'run arwr a chyn 'run chwedl,
Cyn eglwys, cyn gweddi,
Cyn gorfoledd, cyn pechod a chyn sôn am addoli,
Cyn dyfod dyn i’n tir gyda’i eni, ei fyw a’i farw,
A chyn bod angen rhoi offrwm i'r un ddelw,
Bryd hynny, ysbryd yr oerni a burai’r tir
A grymoedd digyfaddawd rhew y gogledd a gerfiai ein bro’n y gaeaf hir.
Cyn gwanwyn dynoliaeth,
Cyn i hil dyn ganfod gobaith,
Cyn creu dyfodol, o glai ein bywyd brau,
Cyn ein cychwyn a chyn ein amlhau,
Cyn ein cropian plentynaidd o diroedd anwybodaeth,
Cyn canfod crefft, na chelf, nac ysbrydoliaeth,
Cyn ein deffro a chyn difyrrwch,
Cyn gwyrth ein codi’n fyw o’r llwch,
Cyn gwefr, cyn awch, cyn llawenhau,
Cyn dod y gwŷr gwar i ddofi’r erwau,
Bryd hynny, dros Eryri daeth pelydrau newydd wawr y gwanwyn cyntefig
I gychwyn llawd gorfoledd côr y wig.
Cyn bwyell, cyn cryman,
Cyn llafurio mewn glaw ac mewn heulwen,
Cyn tyddyn a chyn castell,
Cyn troi’r pridd, a hollti’r llech,
Cyn amaeth, cyn ymdrech, cyn diwydiant,
Cyn sôn am dlodi, ac am ffyniant,
Cyn plannu’r had a medi’r cnydau
A chyn bod grym bywyd yn llifo trwy’n gwythiennau,
Cyn codi clawdd, na phorth, na thŷ, nac yngan gair am wlad na thref,
Cyn gwarchod praidd a chyn bod 'run hafod, na 'run hendref,
Bryd hynny, haul yr haf a roddai ei nerth i erwau’r derw
Ac Arfon oedd yn goedwig wych, ddi-enw.
Cyn ysgol a chyn coleg,
Cyn clas y seintiau a’u sanctaidd alcemeg,
Cyn gorffwys ar ôl dyddiau hir llafurio,
Cyn doethineb dyn a chyn myfyrio,
Cyn deffro ynom fflamau’r awen,
Cyn ymgom, cyn beirdd ac ymhell, bell cyn ysgrifen,
Cyn bod angen 'run ganhwyllbren i gannu’r gwyll,
Cyn gosod ffrwythau’r meddwl ar yr estyll,
Cyn dyfod dydd 'run dewin na 'run diacon
A chyn i ni ddechrau chwilio am atebion,
Bryd hynny, deuai gorffwys machlud hydref i’r tiroedd rhwng Menai a’r erwau mynyddog
A thrwy wythiennau dyfroedd Arfon treiddiai doethineb yr arth a’r eog.
Wedi i’r nwy a’r olew ddarfod,
Wedi cwymp dyn, pan na fydd gwareiddiad yn bod,
Wedi peidio pob ymdrech a phob gwaith,
Wedi diffodd ynom pob gobaith,
Wedi i Fangor a Chaernarfon lwyr ddadfeilio,
Wedi i holl waith ein dwylo dynol ymgilio,
Wedi gorffen ynom pob tristwch, wedi gorffen pob llawenydd,
Wedi chwalu’n llwch yr olaf o’n haelwydydd,
Pan na fydd neb ar ôl i gofio Arfon,
Pan na fydd cof am ein gorchestion na’n tafferthion,
Bryd hynny, bydd llanw a thrai y môr yn dal i gorddi’r gro
A’r Ysbryd Mawr, a fu cyn dyfod dyn, a fydd o hyd yn edrych lawr o’r sêr ar wlad a fu i mi yn fro.
Ymddangosodd hon yn wreiddiol yn y Faner Newydd