Pleser ydi medru datgelu clawr y gyfrol 'Dweud y drefn pan nad oes trefn: Blodeugerdd 2020', casgliad o gerddi cyfoes gan dros 60 o feirdd.
Ani Saunders sydd wedi cynllunio'r clawr a gellir gweld mwy o'i gwaith fel artist a photograffydd ar ei chyfrif instagram. Hi hefyd y'w gantores Ani Glass ac ymddangosodd ei halbwm gyntaf 'Mirores' eleni gyda Recordiadau Neb.
Dyma'r gyfrol fwyaf uchelgeisiol i gyhoeddiadau'r Stamp ei chyhoeddi ac o achos hynny ryda ni'n defnyddio model rhagarchebu i dalu am ddod a hi i'r byd. Mi fyddwn ni felly yn dibynnu ar bobl yn archebu'r gyfrol o flaen llaw er mwyn codi'r pres i'w hargraffu, ac i gael rhyw amcangyfrif o faint o gopïau i'w cynhyrchu. Ryda ni wedi gosod targed i werthu 100 o ragarchebion erbyn diwedd Mehefin, a hynny yn cynnwys copïau digidol neu gopiau caled.
Yn ogystal a rhagarchebu'r gyfrol ar ein gwefan mae modd i chi roi rhodd ariannol bychan yn ran o'r archeb, a chael eich henw yn y gyfrol fel cefnogwr. Hefyd, mae cynnig cyfyngedig i brynu copi o'r llyfr ynghyd â cherdd gomisiwn gan un o'r ddau olygydd, Grug Muse neu Iestyn Tyne.
Mae'r casgliad yn cynnwys 100 o gerddi, a gwaith 63 o feirdd o bob oed, hefo'r rhychwant rhwng pobl ifanc yn eu harddegau i rai dros eu pedwar ugain oed. Mae nhw'n feirdd o bob cwr o'r byd Cymraeg ei iaith (Sir Fôn, Cwm Rhondda, Trelew a thu hwnt). Yr hyn sy'n cysylltu'r cerddi i gyd ydi eu bod nhw'n gerddi diweddar sy'n siarad am wahanol agweddau o fywyd yn y Gymry Gymraeg yn yr adeg dymhestlog hon. Yr uchelgais oedd creu blodeugerdd fyddai'n darlunio'r amrywiaeth o ganu Cymraeg sydd yna ar hyn o bryd, o gywyddau ac englynion i gerddi torrydd, ambell gerdd rhydd, twmpath o ganu penrhydd, gan brifeirdd, beirdd gwlad, instafeirdd, ac yn y blaen.
Mae'r ymgyrch codi arian yn mynd rhagddi, ac mae modd rhagarchebu copïau o'r gyfrol yma.