top of page

Cerdd: Haf Hirfelyn Tesog - Martin Huws

  • Writer: Iestyn Tyne
    Iestyn Tyne
  • May 29, 2020
  • 1 min read

Haf Hirfelyn Tesog

Yn llygad yr haul

fe freuddwydia’r dydd

wrth estyn ei chorff eboni wedi ei gaboli.

Yn ei hymyl, gorwedd ei thad â’i fresys a’i fochau llipa

ac eistedd ei chrwt bach,

ei wyneb yn deisen â gormod o eisin.

Gwena’r fam ar rai ag ymbrelo haul ffroenuchel,

y ddau sy’n traflyncu pob gair o nofelau arobryn

nes bod tro yng nghwt stori’r dydd,

y llanw’n dial

ar eu tywelion brodiog, porffor.

Yn y pen draw,

fe fydd y môr yn brathu’r arfordir bras,

yn gwledda heb gael ei wala

cyn i’r graig droi’n groen ac asgwrn,

cyn i’r hanner cylch euraidd

droi’n llinyn fel rhaff.

Fe faglwn ar lwybr y rhuthr am aur.

Fe godwyd ein tai ar dywod.

-----

Llun: 'Y Traeth yn Trouville', Claude Monet 1870

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page