top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Cerddi: Yr eiddo efe / Patois - Hunan-Iaith


Cerddi Hunan-Iaith yn sychu ar y lein (Tŷ Newydd, Chwefror 2020)

Nos fory, fel rhan o fis cyfieithu gwefan Y Stamp a'r cydweithio sy'n parhau rhwng y Stampwyr â chriw nosweithiau meic agored Where I'm Coming From, byddwn yn cynnal noson ddwyieithog o farddoniaeth o Gymru mewn cyfieithiad, ynghyd â thrafodaeth ar y gwaith ar y cyd hyd yma. Gallwch ddod o hyd i holl fanylion y digwyddiad a chofrestru i fynychu ar EventBrite trwy ddilyn y ddolen isod. Diolch i bawb sydd eisoes wedi archebu tocyn.

I roi blas bach i chi o'r hyn i'w ddisgwyl, dyma gyhoeddi dwy o'r cerddi a gyfieithwyd i'r Gymraeg ar benwythnos preswyl Hunan-Iaith yn ôl ym mis Chwefror - cyfieithiad Grug Muse o 'Names' gan Durre Shahwar, a chyfieithiad Llio Maddocks o 'Patois' gan Taylor Edmonds.

-----

Yr eiddo efe

Mae'n dy alw di'n

flodyn llyfn;

ei focha

ac weithia, ei garamel,

yn dibynnu ar sut ti'n dal yr haul.

Ei fun dywyll

ei schnitzel dwyreiniol,

ei lotws,

a'i gneuen goco brin.

Mae'n mynnu mai ti

yw'r unig un

o dy fath

yma

heddiw

yn y lle hwn,

yn gwrando ar fiwsig emo

o'r 90au, a chwarae gemau fideo.

Mae'n gwneud i ti deimlo'n sbeshal

pan mae o'n dweud mai ti yw'r unig un.

Yn gwneud i ti deimlo'n wahanol,

dim fel y lleill.

Mae'n gwneud i ti deimlo'n sbeshal,

nes 'di o ddim.

Durre Shahwar

cyf. Grug Muse

-----

Patois

Pan rwy'n dal fy nhaid mewn eiliad

dawel, meddyliaf am y bywyd a gadwodd i'w hun,

ei hanesion cudd. Fe'u creaf,

fe'u dychmygaf mewn darnau mân delfrydol:

Traed bach noeth ar dywod gwyn Barbados,

yfed o'r craciau ym moliau'r cnau coco,

casglu ackee'n wyrdd o'r coed.

Gweld crwbanod a chywisgod môr

yn llithro drwy donnau clir y Caribî.

Dychmygaf ef fel dyfrgi.

Ydi o'n dal i feddwl am y rhai a adawodd ar ôl?

Cefndryd, cyfnitherod, bellach mewn oed,

neu'r tad coll mae'n dal i gludo yn ei waed?

O'r tonnau, daeth y bachgen i'r wyneb yn Cathays,

dad-ddysgodd rhythmau ei dafod Bajan

gan seinio pob C, taro pob T,

derbyn pob sylliad gwyn ar ei groen du.

Casglaf rai o'r darnau ynghyd:

Ei freuddwydion o bourbon, ysbytai,

dannedd yn torri. Fflach

y llafn yn y golau.

Y llawfeddyg a'i sgalpel yn tynnu

tyfiant tew o'i berfedd.

Maen nhw wedi hollti

a phwytho fy nhaid

ormod o weithiau

yn y gobaith o'i wella.

Heno, rwy'n coginio iddo.

Dyma ein hiaith ni:

Draenog y môr – dyma faeth i dy wella,

reis cnau coco – rwy'n ymddiheuro am beidio galw.

Mae'n bwyta llond plât – maddeuant,

canmol croen y pysgodyn – dysg i mi dy ffyrdd.

Rwy'n torri sleisen o fango – mae gen i gymaint o gwestiynau.

Tywallt y gwin gwyn – be' sy'n dy gadw di'n effro?

Pasio'r halen iddo – dangos i mi ble nes' di ddysgu cerdded, chwerthin,

menyn pupur – adrodd straeon dy greithiau.

Mae'n dweud ei fod yn llawn.

Rwy'n ei adael gyda'i hanesion cudd.

Taylor Edmonds

cyf. Llio Maddocks

-----

Mae Hunan-Iaith yn brosiect dwyieithog ar y cyd rhwng cylchgrawn Y Stamp a Where I'm Coming From, sy’n ymgais i greu iaith trwy ymarfer creadigol. Trwy gyfieithu barddoniaeth a llenyddiaeth i greu gwaith newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg ar thema hunaniaeth, mae Hunan-Iaith yn archwilio cyfyngiadau a chyfleoedd y ddwy iaith, ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o fynegi syniadau ynghylch hunaniaeth, hil, iaith a diwylliant.

10 views0 comments
bottom of page