top of page
Grug Muse

Cerdd: Triptych - Marvin Thompson, cyf. clare e potter a Grug Muse

Ysgrifennwyd y gerdd isod gan y bardd Marvin Thompson mewn ymateb i blac a osodwyd yn nhref Aberhonddu i goffáu masnachwr caethweision. Perfformiwyd y gerdd mewn protest Black Lives Matter yn y dref, ac fe gydweithiodd dau fardd dwyieithog gyda Marvin i gyfieithu'r gerdd i'r Gymraeg. Cyfieithu fel gweithred o brotest felly; a chyfieithu fel cywaith. clare e potter fu'n gyfrifol am gyfieithu'r adran gyntaf, gyda Grug Muse yn cyfieithu'r ail a'r drydedd. Gellir darllen a gwrando ar y gerdd wreiddiol yma:

Triptych

1. ‘Y mae pobl sydd ddim yn gwybod am eu hanes, eu treftadaeth a’u diwylliant fel coeden heb wreiddiau.’ Marcus Garvey

Annwyl Gyngor Tre Aberhonddu,

Ceg yn sych fel llwch, ysgyfaint yn tynhau, llygaid ar glogwyn o ddagrau,

dyma oedd ymateb fy nghorff Du Prydeinig

pan, ar fore gwyntog yn y cloi mawr, darllenais i pwy yn union

Ystyriwch chi yn arwr priodol i’m plant Cymraeg,

tras gymysg. Yn 2010 (yng nghanol Mis Hanes Du)

gosodwyd plac glas yn Aberhonddu, i ddathlu

bywyd morwr Cymreig, Capten Thomas Phillips,

a chwyddodd ei bocedi wrth werthu pobl fel fy rhieni, fel fy mrodyr, fel fi.

Ond dylwn i ddysgu efallai, dangos maddeuant i’r perchennog caethweision

caredig yna, pan at ddiwedd ei fywyd, gyda dagrau yn ei eiriau

am ei ‘gargo’ anfaddeuol, dywedodd fod holl bobl y byd yn deillio yn syth

o ddwylo Duw. Diolch byth! Dylwn i dderbyn hefyd fod amserau’n wahanol.

Ddylai hynny dawelu fy nghorff, ddyliwn i ddarllen llyfr y capten i’m plant?

Bydd y Voyage Journal yn ddefnyddiol i ddysgu sut diflannodd ein hynafiaid

o’r stori; fy mhlant i, gallant ddysgu ambyti bod yn ‘picanninies’, heb enw ond

Jim Cro yn ddyledus i Wilberforce.

Rwy’n gweddio ar ôl clywed y neges hon, y bydd eich

bronnau’n llenwi gyda fflamau, neu’r awydd i rwygo lawr y plac glas o’i le saff, neu gorau oll,

Gosod plac glas arall wedi ysgythru gyda’r geiriau: ‘Hwyliodd y Cymro hwn ar draws y moroedd,

i gaethiwo bodau dynol, a dod yn gyfoethog ar draul chwys cyrff du.’

Yr eiddoch yn gywir,

Mr. M. Thompson

2. ‘Economeg oedd yn gyfrifol am bennu y byddai Ewrop yn buddsoddi yn Affrica, ac yn mynd ati i reoli holl ddeunydd crai a llafur y cyfandir. Hiliaeth wnaeth gadarnhau mai llywodraeth drefedigaethol uniongyrchol fyddai’r dull o reoli.’ – Walter Rodney

Ar fwrdd y llong, arhoswn am ein tamed bwyd, y gwynt yn chwipio’n cyrff

negroaidd. Oddi ar arfordir Guinea, gwyliais ddynion o’m plentyndod

yn neidio mewn i’r môr, cyn i gyffion greithio’u garddynau. Nhw yw’r môr,

fy mrawd bach yw’r môr – roeddwn i’n teimlo fel caethwas

o’r foment tynnwyd fi o’r tŷ trwy noson boeth a gludiog-las.

D'wedai ’mrawd fy mod i’n syllu gormod ar y sêr, yn darllen

gormod am Grist y Cenhadon. Ac mae’n rhy hwyr i ddagrau

rŵan. Mae fy nwylo’n anwesu powlen o uwd oer. Dwi’n ddeigryn

mewn cawod law, nid môr. Mae’r tonnau’n duo, yr awyr yn duo, a chorff

y llong yn siglo. Mae ’mys yn symud hyd craith wen, yn darllen

yr H losg a serwyd dan bont fy ysgwydd. ‘Mae honne’n stori i blant

bach’ meddai ’mrawd, pan soniais i am Iesu’n dod i’m mreuddwyd. Llithra’r awyr o las

i ddu, ac mae’r morwyr yn ein gwthio nôl o awel fain y môr

i ’stumog ddofn yr Hannibal, at ddrewdod piso’r gofod caeth.

Mae’r gwynt yn gweryru a dwi’n clywed llais fy mrawd: ‘Dydyn ni ddim yn gaethion,

ddim yn gaethweision’. Teimlaf law ar fy mraich wrth i’r tonnau wylo

a dwi’n dal llygaid y morwr sy’n fy nal. Llygaid mor

ddi-ddeall. Mae’r morwr yn cilio. Dwi’n dringo at yr ymyl ac yn taflu ’nghorff

i’r tonnau, i’r ewyn tywyll, i’r dibendrawdod glas.

Does dim angylion, dim Crist caredig, dim ond oerfel gwlyb dan ddalen

y dŵr. Dwi’n frawd. Dwi’n fôr. Dwi’n faban mewn crud.

3. ‘Pan wrthryfelwn, ni wnawn hynny er mwyn diwylliant penodol. Gwrthryfelwn oherwydd, am sawl rheswm, daeth yn amhosib i ni anadlu.’ -Franz Fanon.

Pob parch, swyddog, ond dwi’n 63, ac mi rydech chi’n fy nhrin i fel plentyn,

braidd. Does gen i ddim barn ar hanes morwyr a chaethweision

Aberhonddu. Dwi’n mynd am dro yn ddyddiol, a do, darllenais

y geiriau unwaith, falle. D'wedais eisoes, dwi wedi ymddeol o’r cyngor, gryn

amser nôl, cyn i ddim o hyn ... Ylwch, dwi’n colli ’mynedd, lasa

peidio cael cyfreithiwr yma... oes rhaid bod mor

ymosodol? Esbonia i eto. Dwi’n byw efo fy ngwraig, neb

arall, a diolch i Dduw, does dim angen hunan-ynysu, mae’n cyrff

yn ddi-siâp braidd, rydan ni’n trio cerdded yn rheolaidd, ac fel plant

rydan ni’n cael blas ar weithio o adre. Deffrais y noson honno, mor

sydyn, a gweld llygaid fy ngwraig yn llydan fel rhai caethferch

yn cael ei chwipio ... sori. Anaddas. Beth bynnag, roedd hi’n gafael yn fy nhwlbag glas

‘Mi fyddi di angen hwn’. Nodiais. Ateb ‘Dwi’n mynd i baratoi’ gan ddarllen

ei bwriad. Ond nid fi oedd yn siarad, rhywsut. Gwisgais, dan grynu,

fy ofyrôls, yna’i chusanu, a chyda’r llaswyr ar y dash yn ddagrau

diflannais lawr y lôn yn y Range Rover. Wrth Rodfa’r Capten roedd pawb -

y rhai sonioch chi amdanyn nhw eisoes yn arllwys

eu cynddaredd ar fainc o dan y plac, a dynion, fel plant

yn dawnsio i UB40, a beth alla i ddweud? Daeth rhywbeth trosta i, estynnais y fwyell las

a dechrau hollti. Cododd bonllefau fel llanw’r mor.

Swyddog: nid fi roddodd y fidio ar Twitter. Beth wn i am gaethweision?


9 views0 comments
bottom of page