top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Cerdd: Nieuwezijds - Christian Webb

Updated: Aug 19, 2020

Nieuwezijds

Trwy welydd tryloyw’r

ddrysfa, ar fainc losg

gwelais lanciau bregys

yn diosg - yn dadmer

mewn ager tanbaid.

Yn seboni bochau noeth -

rhydd i beidio cuddio.

Nid fel y cawodydd cyhoeddus gynt mewn ystafelloedd newid ysgolion

lle wynebai brodyr dienw’r

llen, yn lle ei gilydd. Nid yma. Nid yn sgrym yr ystafell stêm, cyn symud i fwg sigaréts; tyweli dros dro’n gorchuddio- I’m from Berlin medd, wrth gymryd drag Wales, ja? I know it Dychwelom i’r gaerdroia goch: rhannu chwys, cyn rhannu enwau

anghofiedig erbyn hyn.

Yn wreiddiol o Abertawe, mae Christian bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl treulio blwyddyn yn byw yn Amsterdam. Mae ei gerddi diweddaraf yn myfyrio ar brofiadau cwiar, o'r ffisegol i'r emosiynol, wedi'i ysbrydoli gan waith Andrew McMillan, Richard Scott a Thom Gunn yn y Saesneg. Fedrwch chi ddilyn prosiect @poer_poetry ar instagram.

Hon yw ei gerdd gyntaf am brofiadau ciwar yn y Gymraeg. Mae'n ddiolchgar i Dyfan Lewis am y cymorth wrth adolygu'r gerdd.


2 views0 comments
bottom of page